Prosiect Creu Cynefin Cors Cwm Ivy
Cefndir
Bydd y prosiect hwn, y cyntaf o’i fath yng Nghymru, yn edrych ar y dull gorau o ail-greu hyd at 39 hectar (bron i 100 erw) o gynefin morfa newydd er mwyn ceisio ail-integreiddio Cors Cwm Ivy yn ôl i fod yn rhan o’r aber ehangach.
Oherwydd cynnydd yn lefel y môr, mae morglawdd Cwm Ivy eisoes yn cael ei orlifo adeg llanw mawr a stormydd. Dyma a achosodd y bwlch naturiol yn y mur, yn ogystal â chyflwr gwael y wal ei hun.
O ganlyniad i law trwm dros gyfnod estynedig ym mis Tachwedd 2013, niweidiwyd y morglawdd o gwmpas Cors Cwm Ivy a daeth twll bach i’r golwg. Parodd hyn i ychydig bach o ddŵr heli ddod i’r gors. O dan bwysau dŵr y môr yn mynd drwy’r twll adeg pob llanw uchel, tyfodd y twll damaid ar y tro hyd nes i ddarn o’r wal a chlawdd oedd yn ei gynnal ddymchwel ym mis Awst 2014. Ers hynny, mae’r môr wedi bod yn hawlio’r gors yn ôl ac mae’r bwlch yn y morglawdd wedi parhau i dyfu.
Cynefin rhynglanw newydd ar gyfer bywyd gwyllt ac ecosystemau
Bydd y cynefin rhynglanw newydd a gynigir nid yn unig yn darparu safleoedd bwydo a gorffwys newydd ar gyfer adar a bywyd gwyllt arall, ond bydd hefyd yn sicrhau bod gwerth arbennig bywyd gwyllt ac ecosystemau Cilfach Tywyn a Bae Caerfyrddin yn cael eu gwarchod ar gyfer y dyfodol pell.
Cynefin cydbwyso ar gyfer amddiffynfeydd llifogydd y dyfodol ym Mae Caerfyrddin
Bydd y morfa newydd yn helpu i ddarparu cynefin cydbwyso y bydd ei angen i wrthbwyso’r tebygolrwydd o golli cynefinoedd morfa yn y dyfodol o ganlyniad i gyfuniad o gynnydd yn lefel y môr oherwydd newid hinsawdd a’r angen am amddiffynfeydd llifogydd arfordirol ym Mae Caerfyrddin, yn unol â pholisïau Cynllun Rheoli Glannau Môr.
Sesiynau agored i’r cyhoedd
Rydym wedi bod yn edrych ar ystod o ddewisiadau o ran sut fyddai’r ffordd orau o greu morfa yng Nghwm Ivy. Mae hyn yn cynnwys ystyried agweddau economaidd, amgylcheddol a thechnegol, ac rydym wedi siarad ag ystod eang o bobl er mwyn cael eu barn.
Fe fu i ni gynnal dwy sesiwn agored i’r cyhoedd allu galw i mewn ar ddydd Gwener 5 Mehefin a dydd Sadwrn 6 Mehefin yn Llanmadog. Daeth cynulliad da o bobl i’r sesiynau a derbyniwyd llawer iawn o adborth ynddynt.
Rydym wedi ystyried yr adborth hwn fel rhan o’n hasesiad wrth gytuno ar y dewis sydd orau gennym ni o ran sut fyddai’r ffordd orau o greu cynefin morfa ar y safle. Gellir cael copïau digidol o fyrddau’r sesiwn galw i mewn a thaflen wybodaeth y prosiect ar y dudalen hon.
Ein rhestr fer o ddewisiadau
Mae ein rhestr fer o ddewisiadau’n ystyried sut fyddai’r ffordd orau o greu’r cynefin morfa newydd tra ar yr un pryd yn ystyried barn leol, ac agweddau economaidd, amgylcheddol a thechnegol.
Dyma’r dewisiadau:
Dewis 1: Dim ymyrryd ymwybodol; gweithio gyda natur er mwyn gadael i’r morfa ddatblygu’n naturiol. Bydd y bwlch yn dal i ledu’n naturiol wrth i ddarnau eraill o’r morglawdd ddisgyn yn y dyfodol, yn fwy na thebyg.
Dewis 2: Lledu’r bwlch i 20m
Dewis 3: Lledu’r bwlch i 100m er mwyn gadael i’r llanw lifo i mewn ac allan o’r gors yn haws.
Dewis 4: Creu rhagor o fylchau yn y morglawdd er mwyn gwella sut mae’r llanw’n llifo i mewn ac allan o’r gors.
Dewis 5: Gwneud rhywfaint bach o waith yn y gors i wella draeniad yn y gors, gan gynorthwyo datblygiad y morfa.
Y dewis gorau a’r camau nesaf
Ar ôl adolygu’r dystiolaeth a gasglwyd gan ein hymgynghorwyr annibynnol, mae Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi dod i gytundeb ar y prosiect creu cynefin yng nghors Cwm Ivy.
Mae ein tystiolaeth yn awgrymu mai’r ffordd orau i greu cynefin morfa lwyddiannus yng Nghwm Ivy fyddai dewis 4: – “creu rhagor o fylchau yn y morglawdd er mwyn gwella sut mae’r llanw’n llifo i mewn ac allan o’r gors”.
Serch hynny rydym yn cydnabod y byddai hyn yn cyflwyno heriau sylweddol i Ddinas a Sir Abertawe (DSA) wrth iddynt ymgymryd â’u cyfrifoldebau statudol o ran priffordd a gynhelir ar bwrs y wlad o dan Ddeddf Priffyrdd 1980. Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol eisiau cyflwyno dewis a fyddai’n anghymesur â dyletswyddau DSA fel yr Awdurdod Priffyrdd. Mae DSA ar hyn o bryd yn ceisio dod o hyd i arian i gomisiynu arolwg strwythurol o’r morglawdd ac ymgymryd ag asesiad dewisiadau ar gyfer mynediad sydd yn debygol o gael effaith ar y modd y byddwn ni’n bwrw ymlaen â’r prosiect creu morfa.
Tan y bydd DSA wedi cwblhau eu hasesiad mynediad ac wedi penderfynu beth y maen nhw’n bwriadu ei wneud, bydd ein dewis gorau ni’n ildio i Ddewis 1 – “dim ymyrryd ymwybodol; gweithio gyda natur er mwyn gadael i’r morfa ddatblygu’n naturiol. Bydd y bwlch yn dal i ledu’n naturiol wrth i ddarnau eraill o’r morglawdd ddisgyn yn y dyfodol, yn fwy na thebyg”.
Mae hyn yn golygu na all Bwrdd Prosiect Cors Cwm Ivy fwrw ymlaen â dewis 1 na dewis 4 fel y dewis gorau hyd nes y bydd bwriad DSA o ran cynnal y bwlch sy’n bodoli eisoes wedi cael ei gadarnhau.
Mae’r prosiect yn ildio i Ddewis 1 hyd nes y derbynnir yr wybodaeth hon.
Cytunwyd ar y penderfyniad hwn yn ystod cyfarfod prosiect rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Dinas a Sir Abertawe ar ddydd Mercher 15 Medi 2015.
Rolau a Chyfrifoldebau yng Nghwm Ivy
Rôl CNC yn y prosiect hwn yw creu cynefin morfa newydd a sicrhau bod Llwybr Arfordir Cymru’n cael ei gynnal yn barhaus o gwmpas arfordir Cwm Ivy. CNC yw’r prif bartner yn y prosiect hwn.
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw’r tirfeddiannwr a’r rheolwr ar gyfer rhan fwyaf o gors Cwm Ivy. Mae’r YG yn bartner yn y prosiect hwn.
Rôl Dinas a Sir Abertawe (DSA) yn y prosiect hwn yw rheoli neu gynnal hawl tramwy cyhoeddus (PROW) morglawdd Cwm Ivy.
Manylion Cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, ffoniwch ni ar 0300 065 3000 (Mon-Fri, 9am-5pm) neu e-bostiwch enquiries@naturalresourceswales.gov.uk
Fel arall, gallwch ysgrifennu atom yn y cyfeiriad post canlynol:
Cyfoeth Naturiol Cymru
Tŷ Cambria,
29 Heol Casnewydd,
Caerdydd
CF24 0TP
Diolch.
Darparwyd y ddelwedd at ddefnydd CNC trwy ganiatâd caredig G R Howe, Cymdeithas Gŵyr. Hawlfraint G R Howe