Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Pwllheli

Nodyn i olygyddion Llun drwy garedigrwydd DronePics.wales

Rheoli llifogydd ym Mhwllheli

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn archwilio opsiynau i reoli’r perygl o lifogydd tymor hir yn fwy effeithiol ym Mhwllheli a’r cymunedau cyfagos. Rydyn ni’n awyddus i esbonio’r peryglon llifogydd hirdymor i’r gymuned a sut mae’r prosiect hwn yn gyfle i fynd i’r afael â’r peryglon hyn.

Perygl Llifogydd ym Mhwllheli

Mae rhannau o Bwllheli mewn perygl o ddioddef llifogydd o’r afonydd ac o’r môr. Rhagwelir y gallai peryglon llifogydd o’r arfordir yn arbennig fod yn sylweddol. Wrth i’r hinsawdd newid, byddwn yn wynebu stormydd yn fwy aml, yn ogystal â chynnydd yn lefelau’r môr. Bydd hyn yn rhoi mwy o bwysau ar amddiffynfeydd llifogydd a gallai effeithio ar eu perfformiad. Mae cynnal y lefelau amddiffyn rhag llifogydd sydd gennym heddiw ar gyfer pobl a chartrefi yn her.

Ein Gwaith

Mae’r prosiect yn adeiladu ar brosiectau ac astudiaethau blaenorol a bydd yn cynnwys asesu ystod o opsiynau hirdymor i leihau’r perygl o lifogydd o’r afon a’r môr i’r gymuned leol. Byddwn yn rhoi ystyriaeth i amrywiaeth o ffactorau ar gyfer yr opsiynau yr ydym yn eu hystyried, megis cynaliadwyedd, hyfywedd a fforddiadwyedd.

Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda natur ac archwilio cyfleoedd I greu cynefinoedd newydd a gwella bioamrywiaeth yr ardal. Efallai y bydd cyfleoedd i adfywio’r amddiffyniad rhag llifogydd cyfredol a’r mannau cyhoeddus cysylltiedig, gan ddarparu manteision ehangach i’r gymuned leol. Rydym yn awyddus i weithio gyda’n gilydd i ganfod atebion a all gynnig dyfodol cynaliadwy i Bwllheli.

Cadw mewn cysylltiad

Byddwn yn cyhoeddi diweddariadau ar y wefan hon ac ar wefan ymgynghoriad y prosiect:

Rheoli Llifogydd ym Mhwllheli

Cysylltwch â ni os hoffech ddarganfod mwy ac i rannu eich barn gyda ni, yn ogystal â chofrestru i dderbyn diweddariadau yn y dyfodol:

E: risgllifogydd.pwllheli@grasshopper-comms.co.uk

Ff: 0300 065 3000

Diweddarwyd ddiwethaf