Cynllun Rheoli Risg Llifogydd Crindau

Cefndir

Mae gan ardal Crindau, Casnewydd hanes hir o ddioddef llifogydd llanwol, ac mae’r amddiffynfeydd llanwol a geir yno ar hyn o bryd mewn cyflwr gwael iawn, gan gynnig amddiffyniad yn erbyn digwyddiad llifogydd o ryw 1 mewn 10 mlynedd. O’r herwydd, amcangyfrifir bod 667 o adeiladau mewn perygl o ddioddef llifogydd mewn digwyddiad llifogydd llanwol 1 mewn 200 mlynedd. Amcan strategol Cynllun Lliniaru Llifogydd Crindau yw lleihau’r perygl llifogydd hwn.

Yn 2013-2014 cyflwynodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) achos busnes i sicrhau cyllid ar gyfer y cynllun. Buom yn llwyddiannus yn hyn o beth, ac yn awr rydym yn bwrw ymlaen â’r cynllun manwl, yn trafod gyda thirfeddianwyr ac yn bwrw ymlaen â’r cais cynllunio.

Y Newyddion Diweddaraf

Chwefror 2021

Mae'r gwaith ar y yamddiffynfeydd llifogydd newydd wedi'i gwblhau ac mae'r cynllun bellach yn darparu mwy o ddiogelwch rhag llifogydd i dros 600 o gartrefi a busnesau

Darllenwch ein datganiad i'r wasg i gael mwy o wybodaeth

Mai 2020

Mae hen adeiladau Magnum Scaffolding a National Plastic wedi'u dymchwel. Cafodd yr adeiladau eu dymchwel yn rhwydd - yn ôl y disgwyl ac mae’r holl rwbel wedi ei symud o'r safle. Mae'r safle bellach yn glir.

Oherwydd effaith Coronafeirws ar y gadwyn gyflenwi, ni all Griffiths bellach barhau â cham nesaf y gwaith. Byddant yn gadael y safle am y tro ac yn ailgychwyn ar y gwaith cyn gynted ag y bo modd.

Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth yn y cyfnod anodd hwn.

Mawrth 2020 – tymor yr hydref 2020

Bydd gwaith yn dechrau'n fuan ar ddymchwel yr adeilad a fu'n eiddo i National Plastics ger pont Heol Lyne a'r adeiladau a fu'n eiddo i Magnum Scaffolding ar hyd Stryd Adelaide.

Rhoddwyd y contract i Griffiths Contractors a byddant yn diogelu'r safle â ffensiau yn fuan. Bydd hyn yn golygu bydd rhan o'r llwybr cerdded wedi'i gau ar hyd Stryd Albany a Stryd Adelaide. Ymddiheurwn am yr anghyfleustra, ond ein blaenoriaeth yw diogelu'r cyhoedd.

Bydd Griffiths Contractors yn dosbarthu llythyr i drigolion a busnesau sy'n agos at y safle.

Bydd prif iard Griffiths Contractors drws nesaf i W Harold John (Metals) Ltd ar Stryd Adelaide, fodd bynnag, byddant hefyd yn defnyddio'r brif fynedfa i iard flaenorol Magnum Scaffolding, felly byddwch yn wyliadwrus wrth yrru ac wrth gerdded yn yr ardal hon.

Cyn gynted ag y dymchwelir yr adeiladau, bydd y gwaith o godi amddiffynfa rhag llifogydd yn dechrau. Caiff waliau pentyrru dur hir (12m) eu gyrru i mewn i'r ddaear gan beiriant.

Er mwyn cwblhau'r gwaith yn agos at y bont, bydd angen cau'r heol am gyfnod byr. Eto, ymddiheurwn am yr anghyfleustra, ond ein blaenoriaeth yw diogelu'r cyhoedd.

Ar ben yr amddiffynfa rhag llifogydd byddwn yn gosod trawst concrit fel y gellir codi uchder yr amddiffynfa yn y dyfodol er mwyn ymateb i newidiadau yn yr hinsawdd.

Y rhan olaf o'r gwaith i'w gwblhau fydd tirweddu ardal fach ger y bont. Caiff ei phlannu â gwair a thair coeden.

Medi 2019 – Mawrth 2020

Mae ein gwaith ar gynllun llifogydd wedi'i gwblhau ar ben uchaf y cynllun ger Waterside Court. Caiff gwaith tirweddu ei gwblhau yn y gwanwyn a fydd yn golygu gosod uwchbridd a hau hadau gwair dros yr ardal.

Arhosodd llwybr 88 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ar agor yn ystod y gwaith hwn. Diolch i chi feicwyr am arfer gofal wrth ddefnyddio llwybr y dargyfeiriad.

Cam 2 Datblygiad cyn adeiladu Awst 2018 – Medi 2019

Rydym wedi bod yn gweithio'n galed gyda thirfeddianwyr, penseiri a chynllunwyr i gwblhau ein cynlluniau ar gyfer lleihau'r risg i dair ardal o'r cynllun sy'n weddill.

Gorffennaf 2018 - Cwblhau Cam 1

Roedd Cam 1 cynllun Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnwys adeiladu muriau llifogydd y tu ôl i’r adeiladau diwydiannol i’r gogledd o Bont Heol Lyne, ynghyd ag arglawdd trwy Barc Shaftesbury.

Mae’r arglawdd newydd yn cynnwys terasau â seddi sy’n edrych dros y cae chwarae er mwyn cyfoethogi’r amwynder lleol hwn, a bellach mae llwybr beicio a llwybr troed newydd yn mynd trwy’r holl barc.

Ymhellach, mae’r hen garejys ar hyd Stryd Pugsley wedi cael eu dymchwel ac mae clawdd pridd newydd wedi’i adeiladu trwy hen safle Sainsbury’s.

 

Uwchgynllun

Bydd cynllun arfaethedig CNC yn cael ei adeiladu rhwng traffordd yr M4 a’r rheilffordd rhwng Llundain a Chaerdydd, ar hyd glan orllewinol Afon Wysg a rhan isaf Crindau. Bydd y cynllun yn cynnwys nifer o elfennau gwahanol, gan gynnwys waliau, argloddiau a chodi lefel y tir.

Ar ôl ystyried dichonoldeb, costau, manteision ac effeithiau’r dewisiadau, y dewis a gaiff ei ffafrio yw adeiladu’r amddiffynfeydd newydd fel y byddant yn amddiffyn rhag digwyddiad 1 mewn 200 mlynedd, gan ganiatáu hefyd ar gyfer newid hinsawdd yn ystod yr hanner can mlynedd nesaf. Hefyd, bydd modd addasu’r cynllun ar gyfer newid hinsawdd pellach, fel y gellir ‘ychwanegu’ ato yn y dyfodol pe bai angen.

Darllenwch posteri gwybodaeth y cynllun am fwy o wybodaeth.

Cysylltu

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Melissa Mahavar-Snow (Rheolwr y Prosiect) ar 0300 065 4369 neu melissa.mahavar-snow@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Cyfoeth Naturiol Cymru,
Ty Cambria,
29 Heol Casnewydd,
Caerdydd, CF24 0TP

 

Diweddarwyd ddiwethaf