Amrywiad trwydded ar gyfer Cyfleuster Trosglwyddo Gwastraff Pwynt Naw Milltir Pwynt wedi'i gyhoeddi

Mae amrywiad i drwydded amgylcheddol wedi'i roi i weithredwyr y cyfleuster trosglwyddo gwastraff yn Ystâd Ddiwydiannol Pwynt Naw Milltir, Cwmfelin-fach, Caerffili.

Bydd yr amrywiad yn galluogi'r gweithredwr, Drumcastle Limited, i gael gwared ar hylosgiad nwy naturiol a sychu gwastraff trwy ddrymiau. 

Bydd hefyd yn caniatáu gosod hidlydd carbon awyredig, gan helpu i leihau'r arogleuon posibl a ryddheir o'r safle.

Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yr amrywiad i’r drwydded yn dilyn asesiad trylwyr o’r wybodaeth a ddarparwyd gan yr ymgeiswyr a’r ymatebion i ddau ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Ebrill a mis Medi 2022.

Noder: Ar wahân i’r penderfyniad ar y cais i amrywio'r drwydded amgylcheddol ar gyfer safle Pwynt Naw Milltir, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi asesu cydymffurfiad y gweithredwr yn unol â'r mesurau cyn-weithredol gofynnol yn nhabl S1.4 o'r drwydded bresennol, ac rydym yn fodlon bod y mesurau hyn wedi eu bodloni.

Gwybodaeth gefndirol

Trosglwyddwyd y drwydded amgylcheddol bresennol yn llwyddiannus o Hazrem Environmental i’r gweithredwyr newydd Drumcastle Limited ym mis Ionawr 2022 yn dilyn y gwiriadau a’r gweithdrefnau angenrheidiol.

Roedd gan Drumcastle Limited drwydded amgylcheddol eisoes yn caniatáu iddynt drin gwastraff cartref, masnachol a diwydiannol nad yw'n beryglus i gynhyrchu tanwydd solet wedi'i adfer a thanwydd sy'n deillio o sbwriel.

Cyhoeddwyd y drwydded ar 13 Hydref. 

Gallwch weld y ddogfen penderfyniad ar y gofrestr gyhoeddus:

Cofrestr gyhoeddus - Porth y Cwsmer (naturalresources.wales)

Diweddarwyd ddiwethaf