Cais am drwydded ar gyfer Cyfleuster Crynhoi Gwastraff Gogledd Powys arfraethedig yn Aber-miwl

Datganiad Sefyllfa

Cyfeirnod y Cais: PAN-018305

Ymgeisydd: Cyngor Sir Powys

Cyfleuster: Cyfleusterau Crynhoi Gwastraff Gogledd Powys, Parc Busnes Aber-miwl, Aber-miwl, Powys, SY15 6NU

Beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn?

Mae Cyngor Sir Powys wedi gwneud cais am drwydded i weithredu cyfleuster newydd ar gyfer crynhoi deunydd nad yw'n beryglus o gasgliadau ymyl y ffordd.

Y gweithrediadau arfaethedig ar y safle fydd derbyn a phrosesu hyd at 22,500 tunnell y flwyddyn (tpa) o wastraff nad yw'n beryglus. Cynigir cadw uchafswm o 425 tunnell ar y safle ar unrhyw un adeg.

Yr unig weithgaredd trin arfaethedig yw crynhoi deunyddiau. Bydd deunyddiau a dderbynnir ar y safle yn cael eu gwahanu cyn cyrraedd ac felly ni fydd angen unrhyw ddidoli na gwahanu â llaw.

Cafodd cais blaenorol gan Gyngor Sir Powys (PAN-013001) ei wrthod yn gynharach eleni.

Darllenwch pam y gwrthodwyd y cais.

Mae'r cais newydd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol i'w hasesu. Darllenwch amlinelliad o'r wybodaeth ychwanegol a ddarperir gan Gyngor Sir Powys.

Ystyriwyd bod y cais yn un “A wnaed yn briodol” ar 9 Mehefin 2022. Mae “A wnaed yn briodol” yn golygu ein bod wedi ystyried bod y cais yn y ffurf gywir a’i fod yn cynnwys digon o wybodaeth i ni allu dechrau ein penderfyniad. Nid yw o reidrwydd yn golygu bod y cais yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom i gwblhau ein penderfyniad.

Fe wnaethom ni gynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn ymwneud â’r cais hwn, a ddaeth i ben ar 23 Tachwedd 2022. Roeddem ni’n ystyried bod y cais hwn yn debygol o ennyn llawer o ddiddordeb gan y cyhoedd. Felly – yn unol â’n Datganiad Cyfranogiad y Cyhoedd – cymerwyd camau priodol i godi ymwybyddiaeth o’r cais a’r ymgynghoriad, er mwyn sicrhau bod y cyhoedd a’r gymuned yn gallu dweud eu dweud ar y cais.

Cynhaliwyd digwyddiad ymgysylltu rhithwir ar 27 Hydref 2022 fel rhan o’r broses ymgynghori, a rhoddodd hyn gyfle i unrhyw aelodau o’r gymuned â diddordeb ofyn cwestiynau am y cais, ein rôl a’r broses asesu, a thrwy hynny gefnogi unigolyn i gyflwyno ymateb gwybodus.

Ymgynghorwyd â chyrff eraill yn unol â'n cytundebau cydweithio. Mae gwrando ar eraill yn ein helpu i wneud penderfyniadau gwell. Rydym yn defnyddio arbenigedd eraill ac yn sicrhau ein bod wedi ystyried yr holl risgiau amgylcheddol.

Rydym wedi ymgynghori â’r sefydliadau canlynol:

  • Cyngor Sir Powys - Adran Gynllunio
  • Cyngor Sir Powys - Adran Iechyd yr Amgylchedd
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Cwmni Gwasanaethau Dŵr Hafren Dyfrdwy

Bydd gohebiaeth yn ymwneud â’n hymgynghoriad â sefydliadau eraill ar gael ar ein Cofrestr Gyhoeddus Ar-lein, yn ogystal â’u hymatebion.

Camau nesaf

O ganlyniad i'n hasesiad technegol parhaus, sydd wedi ystyried sylwadau perthnasol o'n ymgynghoriad, rydym wedi nodi y wybodaeth sydd ei hangen arnom gan yr ymgeisydd. Cyflwynom hysbysiad atodlen 5 ar 12 Ionawr 2023 gyda'r ymateb gofynnol erbyn 2 Chwefror 2023. Hysbysiad cyfreithiol yw hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu erbyn dyddiad penodol. Yn dilyn cais gan yr ymgeisydd, rydym wedi newid y dyddiad terfyn hyd at 16 Chwefror 2023.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ofyn am ragor o wybodaeth gan yr ymgeisydd wrth i’n gwaith fynd rhagddo a byddwn yn ystyried yr holl sylwadau a dderbyniwyd o ganlyniad i'n hymgynghoriad. Bydd unrhyw geisiadau am ragor o wybodaeth yn cael eu rhoi ar y gofrestr gyhoeddus ar-lein ynghyd ag unrhyw ymatebion dilynol. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon i adlewyrchu hynny.

Ar ôl y broses ystyried, byddwn yn dod i benderfyniad drafft naill ai i ganiatáu neu wrthod y cais am drwydded. Os mai’r penderfyniad drafft hwnnw yw caniatáu trwydded, byddwn wedyn yn ail-ymgynghori â’r cyhoedd ar ein penderfyniad drafft, eto gan ystyried unrhyw sylwadau perthnasol cyn dod i benderfyniad terfynol. 

Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru wrth i'r cais fynd rhagddo.

 

Diweddarwyd ddiwethaf