Rheoliadau llygredd amaethyddol newydd

Dywedodd Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol CNC dros Dystiolaeth, Polisi a Trwyddedu:

"Mae CNC yn croesawu cyhoeddiad Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig am y rheoliadau llygredd amaethyddol newydd a fydd yn helpu i sbarduno camau gweithredu i fynd i'r afael â llygredd nitradau.

“Hyd yn oed gyda gostyngiad cyson yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, yn 2020 gwelsom 141 o achosion o lygredd wedi'u cadarnhau yng Nghymru, gan effeithio ar ein hafonydd yng Nghymru.

"Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r holl lygredd drwy reoleiddio cyson a chlir. Dim ond drwy gyfuniad o gyngor, arweiniad, gwella gwybodaeth a sgiliau yn ogystal ag arloesi a buddsoddi y gallwn ddisgwyl lleihau'r risg o bob math o lygredd amaethyddol a diogelu ein hamgylchedd tra'n cefnogi ffermio ar yr un pryd i fod yn ddiwydiant cynaliadwy a ffyniannus ar gyfer y dyfodol.

"Rydym wedi cymryd camau breision yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan weithio gydag eraill i fynd i'r afael â'r materion sy'n effeithio ar amgylchedd yr afon. Byddwn yn parhau i gydweithio â ffermwyr, cyrff amaethyddol, pysgotwyr, rheoleiddwyr, cwmnïau dŵr, cadwraethwyr a Llywodraeth Cymru i adeiladu ar y cynnydd a wnaed."

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru