Ffermydd gwynt yn chwarae eu rhan i oresgyn argyfwng yr hinsawdd
Fel y gwyddoch i gyd, un o'n cenadaethau yma yn CNC yw symud Cymru tuag at ynni mwy gwyrdd a chynaliadwy, ac yn ddiweddar buom yn dathlu llwyddiant sawl prosiect fferm wynt ar ein tir.
Dechreuodd y cyfan fel ymarfer a gynhaliwyd gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru yn 2005, ac ers hynny rydym wedi helpu i adeiladu ffermydd gwynt ym Mhen y Cymoedd, Gorllewin Coedwig Brechfa a Choedwig Clocaenog.
Buom yn gweithio mewn partneriaeth â dau ddatblygwr rhyngwladol, sef Vattenfall ac innogy, i adeiladu'r ffynonellau ynni gwyrdd hyn a all bellach bweru bron 300,000 o gartrefi bob blwyddyn.
Drwy bweru'r cartrefi hyn ag ynni adnewyddadwy, gallwn atal 14 miliwn o dunelli o allyriadau CO2 rhag mynd i'r atmosffer dros oes y prosiectau.
Dyrannwyd £3m hefyd i adfer mawnogydd a rheoli cynefinoedd er mwyn gwrthbwyso effeithiau amgylcheddol gwaith adeiladu Vatenfall, a fydd y ddau broject yn cyfrannu amcangyfrif o £75m i gymunedau lleol dros oes y prosiectau yn ogystal.
Nid yn unig y mae'r prosiectau ynni gwyrdd hyn o fudd i'r economïau cyfagos, ond byddant hefyd yn creu dros £250m o incwm yn ystod eu hoes i ni ac i Lywodraeth Cymru drwy freindaliadau o gynhyrchu trydan.
Mae symud Cymru tuag at ffynonellau ynni adnewyddadwy gwyrdd yn hollbwysig yn y frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.
Mae hyn yn enghraifft o lwyddiant gwirioneddol sydd nid yn unig yn cyfrannu at dargedau ynni adnewyddadwy Llywodraeth Cymru ond sy’n cyflawni ein nodau ni o ran llesiant a rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Mae dwy fferm wynt fawr arall ar dir Cyfoeth Naturiol Cymru ar y gweill, sef prosiect Alwen yn y Gogledd a phrosiect y Bryn, a fydd yn cael ei adeiladu yn y De.
Mae ein timau’n parhau i hwyluso'r prosiectau hyn ar ôl gweithredu eu Cynllun Parhad Busnes tra byddant yn gweithio gartref.