Rydym yn chwilio am ein myfyrwyr Coedwigaeth nesaf – ydych chi am roi cynnig arni?

Yn ôl ym mis Medi eleni, croesawyd Lamorna Richards, Jack Richardson, Fraser Gilchrist ac Emyr Parker i #TîmCyfoeth yn ein timau coedwigaeth a rheoli tir fel rhan o flwyddyn o leoliad â thâl. Y bwriad oedd eu cynorthwyo i gael profiad ymarferol ac uniongyrchol o reoli ein coedwigoedd a'n coetiroedd yng Nghymru.

Mae ein timau'n gofalu am ardal sylweddol o 123,000 hectar o dir ar ran Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ac yn gyfrifol am bopeth yn amrywio o gynaeafu a phlannu coed, i seilwaith hamdden a gwaith cyswllt cymunedol.

Yn y blog dwy ran hwn, cawsom sgwrs â Lamorna a Jack o Brifysgol Bangor am eu profiad o'r lleoliad hyd yma, pa gyfleoedd maen nhw wedi’u cael a sut beth yw gweithio i #TîmCyfoeth:

Lamorna Richards:

Hyd yn hyn, ar fy lleoliad gyda CNC, rydw i wedi bod yn cysgodi aelodau gwahanol o'r tîm mewn ymweliadau safle amrywiol iawn, o lwyrgwympo â nenlinell, i raeadrau, i hel defaid yn y goedwig! Mae pawb wedi bod yn gyfeillgar ac yn frwdfrydig iawn dros rannu eu gwybodaeth. Mae gen i hefyd gyfrifoldebau fy hun o oruchwylio safle plannu a safle cynaeafu, sefydlu contract ffensio a chynllunio prosiect i fapio coed hynafol. Mae rheoli fy safleoedd fy hun wedi fy helpu i ddatblygu sgiliau proffesiynol rheoli coedwigoedd, drwy weithio gyda chontractwyr gwahanol.


Mae fy hyder wrth ddefnyddio GIS wedi cynyddu cryn dipyn, ac rwy’ eisoes wedi cael cyfleoedd i dderbyn tystysgrifau mewn cyrsiau fel chwistrellu plaladdwyr a hyfforddiant cymorth cyntaf coedwigaeth. Byddwn yn annog unrhyw un sy'n ystyried gwneud cais am y lleoliad hwn i fynd amdani. Dim ond ychydig fisoedd rydw i wedi’u cwblhau, ac rwy’ wedi ennill cymaint o brofiad gwerthfawr; ar ben hynny, allwch chi byth gwyno am y golygfeydd wrth yrru i'r gwaith drwy Fannau Brycheiniog!

Jack Richardson:

Yn bennaf, rwy’ wedi bod yn cysgodi aelodau'r tîm ar draws fy ardal ac wedi bod yn dysgu amrywiaeth o ddisgyblaethau mewn gweithrediadau coedwigaeth a rheoli tir. Fel arfer, rwy’ allan ar y safle 3 – 4 diwrnod yr wythnos yn rheoli unrhyw beth o rywogaethau goresgynnol ar blanhigfeydd ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol, i oruchwylio safleoedd plannu. Ar wahân i ddyletswyddau gweithredol, rwy’ hefyd yn ymwneud â sawl prosiect. Mae’r rhain yn amrywio o gatalogio cynnwys coedfa a sefydlwyd yn ddiweddar, i leoli coed hynafol ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru i'w diogelu yn ystod gweithrediadau yn y dyfodol.

Mae'r cyfle hwn wedi tanio fy angerdd dros fod allan yn yr awyr agored. Rwy'n dal i ryfeddu fy mod yn cael treulio'r rhan fwyaf o'm hamser yn gweithio y tu allan yn harddwch Cymru! Yn broffesiynol, rwy’ wedi manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd rhwydweithio y gall lleoliad gyda CNC eu cynnig, yn ogystal â chael fy annog i ganolbwyntio ar fy natblygiad proffesiynol parhaus y tu mewn a thu allan i'r sefydliad. Rwy’ hefyd wedi ennill cymwysterau sy’n berthnasol i’r diwydiant i gyd ac sy'n hanfodol i weithio yn y rhan fwyaf o rolau a geir yn y sector coedwigaeth. Yn ogystal â hyn, rwy’ wedi mabwysiadu gwerthoedd gwasanaethau cyhoeddus.

Mae'r lleoliad wedi rhoi gwerthfawrogiad i fi o fywyd gwaith yn y sector coedwigaeth a'r nifer o fathau gwahanol o swyddi a rolau arbenigol sydd ar gael. Rwy’ wedi dysgu ystod eang o sgiliau yn amrywio o reoli safleoedd i archwiliadau diogelwch coed ac arolygon clefyd coed ynn, ynghyd â llawer mwy.


Ai chi fydd ein myfyriwr nesaf ar leoliad?

Rydym yn falch iawn o allu cynnig lleoliadau wedi’u talu gyda'n timau coedwigaeth a rheoli tir eto ym mis Medi.

Mae pedwar lleoliad ar gael, felly os ydych yn astudio ar gyfer gyrfa ym maes coedwigaeth neu reoli tir ac yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i ymuno â #TîmCyfoeth byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Gallwch ddysgu mwy am y lleoliadau a dod o hyd i’r ffurflen gais ar ein gwefan.

Darllenwch ein blog gan ein Huwch Swyddog Gweithrediadau Coedwigaeth sy'n nodi’r hyn y maen nhw’n chwilio amdano mewn ymgeiswyr a'u cyngor gorau ar ddechrau gyrfa mewn coedwigaeth 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Ionawr.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y lleoliadau, cysylltwch â ni: Michael.cresswell@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru