Rôl Carbon Glas yn yr argyfwng hinsawdd a gwrthbwyso carbon yng Nghymru
Dyma Siobhan Vye, Ymgynghorydd Morol Arbenigol, yn dweud wrthym am rôl newydd Carbon Glas yng Nghymru, diolch i'n hastudiaeth ddiweddar ar botensial y moroedd o amgylch Cymru o ran storio carbon.
Rydym eisoes yn ymwybodol y caiff carbon ei storio mewn coetiroedd a chynefinoedd mawndir. Fodd bynnag, mae cynefinoedd morol hefyd yn bwysig wrth storio “carbon glas”. Mae ein hastudiaeth yn ymchwilio i'r cynefinoedd carbon glas hyn yng Nghymru, o fflatiau rhynglanwol Afon Menai a morwellt Porth Dinllaen, i'r gwelyau sêr brau oddi ar arfordir Sir Benfro ac ehangder gwely'r môr wedi'i orchuddio â thywod a graean ymhellach allan.
Rydym yn gwybod ei bod yn debygol y bydd newidiadau difrifol a pharhaol i gymunedau yng Nghymru o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd. Mae ein hastudiaeth yn dangos y gall cynefinoedd morol, ochr yn ochr â mesurau lliniaru ac addasu eraill, chwarae rhan bwysig wrth ein helpu i addasu i effeithiau'r argyfwng hinsawdd.
Gall cynefinoedd morol Cymru, fel morfeydd heli a gwelyau morwellt, roi llawer iawn o garbon mewn storfa hirdymor bob blwyddyn. Gyda’i gilydd, maen nhw’n storfa mor sylweddol o garbon â choetiroedd a choedwigoedd Cymru. Mae'r astudiaeth yn datgelu bod cyfanswm y carbon sy’n cael ei ddal gan yr amgylchedd morol bob blwyddyn yn cyfateb i allyriadau blynyddol 64,800 o geir neu 115,600 o hediadau o Gaerdydd i'r Ynysoedd Dedwydd ac yn ôl.
Mae carbon yn cael ei storio mewn organebau byw fel morwellt a physgod cregyn, ac mewn ffurfiau nad ydyn nhw'n fyw, fel mewn gwaddod ar wely'r môr, ac yng nghregyn anifeiliaid morol. Mae’n bosibl cloi rhywfaint o garbon i ffwrdd am genedlaethau yng ngwely’r môr filltiroedd o’r lan, ond mae rhywfaint, fel y carbon sy'n cael ei storio mewn gwymon, yn cael ei storio am oes y planhigyn, cyn cael ei ryddhau eto yn ôl i'r amgylchedd.
O'r holl gynefinoedd arfordirol yr edrychwyd arnynt yn yr adroddiad, morfeydd heli oedd y mwyaf effeithlon wrth gymryd carbon i mewn a'i roi mewn storfa hirdymor, sef yr hyn a elwir yn ‘ddal a storio carbon’. Mae morfeydd heli’n cymryd carbon deuocsid o'r aer a'r dŵr o'u hamgylch ac yn ei storio yn eu gwreiddiau a'r gwaddodion o'u cwmpas. Maen nhw hefyd yn bwysig o ran lliniaru effeithiau eraill yr argyfwng hinsawdd, trwy amddiffyn yr arfordir rhag stormydd a lleihau llifogydd arfordirol. Yng Nghymru, mae morfeydd heli’n bresennol o amgylch yr arfordir ac yn cael eu gwarchod mewn rhai ardaloedd fel Bae ac Aberoedd Caerfyrddin, ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau.
Mae cynyddu potensial cynefinoedd morol i storio carbon yn hanfodol fel rhan o ymdrechion Cymru i frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd. Mae llawer o gynefinoedd carbon glas eisoes yn cael eu gwarchod trwy’r rhwydwaith helaeth o ardaloedd morol gwarchodedig Cymru. Mae’r gwaith o reoli’r ardaloedd hyn yn ceisio cynyddu gwytnwch cynefinoedd yn wyneb newid yn y dyfodol, yn ogystal â gwarchod a gwella ansawdd cynefinoedd. Mae gweithgareddau dynol wedi effeithio ar rai cynefinoedd carbon glas yng Nghymru a gallai eu hadfer i gyflwr da gynyddu faint o garbon y gallant ei storio. Mae CNC hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i adfer cynefin carbon glas mewn safleoedd fel Cwm Ivy ar Benrhyn Gŵyr.
Mae’n amlwg o'r astudiaeth nid yn unig bod storio carbon yn wasanaeth a ddarperir gan ein coetiroedd a'n mawndiroedd, ond hefyd bod cynefinoedd amrywiol ein harfordir a'n môr yn chwarae rhan bwysig wrth helpu Cymru i fynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd a gwarchod ein hamgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad.