Wythnos Gwirfoddolwyr 2021 – Y pobl sy’n gweithio gyda’i gilydd i reoli perygl llifogydd yn eu cymunedau
Ledled Cymru, mae rhwydwaith o Wirfoddolwyr Llifogydd Cymunedol sy'n arwain neu'n cymryd rhan yn ymateb eu cymuned i lifogydd ac yn gweithio gyda sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i helpu i baratoi ar gyfer llifogydd.
Mae Kelly McLauchlan, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol ar gyfer Ymgysylltu Cymunedol a Chydnerthedd yn CNC, yn egluro buddion dull partneriaeth, a arweinir gan y gymuned, wrth reoli perygl llifogydd.
Mae'r gwirfoddolwyr yn aml yn datblygu Cynllun Llifogydd gan ddefnyddio'r templedi a'r cyngor ategol rydyn ni'n eu darparu ac yn gweithio yn eu cymunedau, a thros eu cymunedau, i helpu i gydlynu'r cynllun a hyrwyddo'r cynllun i drigolion eraill a allai fod mewn perygl o lifogydd. Maent yn darparu cefnogaeth werthfawr i'w cymunedau, gan eu helpu i baratoi ar gyfer llifogydd ac adfer yn gynt ar ôl lifogydd.
Cynlluniau Llifogydd Cymunedol
Nod cyffredinol Cynllun Llifogydd yw, lle bo modd, helpu i leihau'r perygl o niwed i bobl a difrod i eiddo.
Gall gweithio gyda'n gilydd fel cymuned trwy gynllun llifogydd arwain at lawer o fuddion.
Mae’n gallu:
- Darparu cydgysylltiad, cefnogaeth ac arweiniad i gymuned cyn llifogydd
- Helpu i rannu gwybodaeth leol yn ystod llifogydd i gynorthwyo'r Gwasanaethau Brys
- Helpu i drosglwyddo gwybodaeth, pryderon a materion lleol i'r awdurdodau perthnasol cyn ac ar ôl llifogydd
Mae mwy o wybodaeth am Gynlluniau Llifogydd Cymunedol ar gael ar ein tudalennau cyngor ar beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd:
Cyfoeth Naturiol Cymru / Paratoi eich cartref, eich busnes neu eich fferm am lifogydd
Ffynonellau cyngor eraill
Mae grŵp cymunedol Facebook ar gael ar gyfer Gwirfoddolwyr Llifogydd Cymunedol, lle mae CNC yn rhannu gwybodaeth am berygl llifogydd, ac rydym yn annog eraill i wneud yr un peth. Pan nad oes cyfyngiadau, fel y pandemig, rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau cymorth rhwydwaith i wirfoddolwyr ledled Cymru i ddod â Gwirfoddolwyr Llifogydd Cymunedol ynghyd i rannu arferion gorau, cwrdd â sefydliadau a all eu cefnogi a rhoi adborth i CNC ar faterion llifogydd yn eu cymuned.
Yn ystod y pandemig diweddar pan na fu digwyddiadau wyneb yn wyneb yn bosibl, rydym wedi dechrau cyhoeddi cylchlythyr chwarterol sy'n cynnwys cyngor, diweddariadau a newyddion arall sy'n berthnasol i'r Gwirfoddolwyr Cymunedol. Gallwch ddarllen y cylchlythyr diweddaraf a thanysgrifio yma: Llygad ar Lifogydd - Rhifyn 4
Gallwch gysylltu â ni ar befloodready@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk os hoffech chi weld a oes Cynllun Llifogydd Cymunedol yn eich ardal chi. Gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â'ch grŵp cymunedol lleol - gallant hefyd gynllunio ar gyfer argyfyngau ehangach, neu faterion eraill sy'n benodol i'r ardal leol.
Sut y gall CNC helpu
- Byddwn yn darparu cyngor a chefnogaeth i bobl sydd eisiau ymgymryd â rôl gwirfoddolwr cymunedol
- Byddwn yn cyfeirio pobl at ffynonellau gwybodaeth a sefydliadau defnyddiol eraill a all eu cofrestru a'u rheoli ac a all ddarparu hyfforddiant ychwanegol, cyfarpar ac yswiriant, os ydynt eisiau mynd â'u rôl ymhellach
- Byddwn yn parhau i drefnu a chefnogi digwyddiadau rhwydwaith gwirfoddolwyr a byddwn yn parhau i gynghori grwpiau ar gynnal a phrofi cynlluniau llifogydd cymunedol, fel bod cymunedau yng Nghymru yn fwy ymwybodol o'u perygl llifogydd, yn fwy rhagweithiol ynghylch yr hyn y gallant ei wneud drostynt eu hunain, ac adfer yn gynt / bod yn fwy gwydn pe bai'r gwaethaf yn digwydd yn y dyfodol
- Byddwn yn rhannu gwybodaeth am arian grant sydd ar gael yng Nghymru i gefnogi gwydnwch yn erbyn llifogydd
- Byddwn yn annog grwpiau cymunedol i reoli cynlluniau llifogydd lleol eu hunain, sy'n digwydd ledled Cymru. Rydym wedi gweld bod y grwpiau hyn yn dueddol o fod yn fwy cynaliadwy os ydyn nhw'n arwain eu hunain, gan ddefnyddio CNC a sefydliadau proffesiynol eraill i gael cyngor a chyfeirio materion sydd angen cyfranogiad ehangach neu fewnbwn arbenigol.
- Byddwn yn helpu grwpiau sy'n gofyn i ni am gymorth a hefyd yn eu cyfeirio at sefydliadau eraill a all ddarparu cyngor arbenigol, cymorth ymarferol ac arweiniad pellach
- Byddwn yn parhau i wella cyngor ar lifogydd sydd ar gael ar ein gwefan i'w wneud yn berthnasol ac yn glir, ac yn cyfeirio at eraill a all helpu
- Yn dilyn llifogydd, byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid gan gynnwys Awdurdodau Lleol, Cwmnïau Cyfleustodau a'r Sector Gwirfoddol i gefnogi digwyddiadau i gynorthwyo gyda chyngor
- I grynhoi, rydym yma i'ch helpu chi a'ch cymunedau i fod yn fwy gwydn yn erbyn llifogydd