Pren a chymaint mwy
Y dydd Sadwrn yma, 21 Mawrth, yw Diwrnod rhyngwladol coedwigoedd , diwrnod sydd â’r nod o ddathlu a chodi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd pob math o goedwigoedd.
Mae thema eleni yn dathlu bioamrywiaeth. I nodi'r achlysur mae Greg Jones, un o'n Huwch Swyddogion yn ein timau Gweithrediadau Coedwigaeth yn dweud wrthym sut mae ein timau'n gweithio gyda Rheolwyr Coedwigoedd a chontractwyr ar draws Ystâd Goedwig Llywodraeth Cymru, i wneud mwy na dim ond dosbarthu pren i ochr y ffordd.
“Yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) rydym yn rheoli 124,000ha o goedwigoedd a choetir ledled Cymru ar ran Llywodraeth Cymru - dyna 6% o gyfanswm arwynebedd tir y wlad - a thua 40% o adnodd coedwigoedd Cymru, sy'n golygu mai ni yw'r rheolwr tir mwyaf yng Nghymru.
Yn ôl ym mis Ionawr, dechreuodd ein tîm Gweithrediadau Coedwigaeth weithio gyda'r Rheolwr Gwaith Coedwig yn Silva a'r contractwyr MV Davies, i dynnu coed ar Safle Coetir Hynafol a Blannwyd (PAWS) yn ardal Coedwig Maesyfed a oedd wedi'i heintio â Phytophthora ramorum - a elwir fel arfer yn glefyd llarwydd.
Mae'r clefyd llarwydd wedi heintio oddeutu 6.7 miliwn o goed llarwydd ledled Cymru gyfan ac wedi cael effaith ddramatig ar ein coedwigaeth. Mae angen cwympo coed sydd wedi'u heintio o dan Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol, Llywodraeth Cymru fel rhan o strategaeth ledled y wlad i atal y clefyd rhag lledaenu ymhellach.
Roedd y coed llarwydd ym Maesyfed bron i 30 metr o daldra ac yn pwyso 2 fetr ciwbig ar gyfartaledd (mae hynny'n cyfateb i bron i 1.5 tunnell mewn pwysau!) - roedd angen peiriant sylweddol i'n galluogi i gwympo'r pren yn ddiogel.
Yn y Gaeaf, mae'r math hwn o waith - cwympo coed llarwydd gyda swm cyfyngedig o docion - yn gofyn am dipyn o sgìl i sicrhau ein bod yn lleihau'r effaith ar briddoedd a choed llydanddail gweddilliol, gan wella rheolaeth PAWS yn y dyfodol a chynefin Rhywogaethau Gwarchodedig Ewropeaidd ar gyfer pathewod.
Mae'r gwaith yn rhan o'n Cynllun Marchnata Coed a rhaglen Gweithrediadau Coedwigaeth ddilynol, ac mae cynllunio helaeth yn cael ei wneud i sicrhau bod cynefinoedd pathewod ac asedau cadwraeth a threftadaeth eraill yn cael eu gwarchod ar draws y coetir.
Yn ystod y gweithgaredd, llwyddodd ein contractwyr i gael gwared ar adfywiad y sbriws Stika anfrodorol a chafodd un o'r nifer o reidiau hanesyddol sy'n croesi'r goedwig, yn dyddio o'r cyfnod Normanaidd, ei bontio gan ddefnyddio rafft boncyff mewn un man croesi a'i symud wedi hynny, gan amddiffyn y darn pwysig hwn o dreftadaeth goedwig.
Y cam nesaf ar gyfer y coetir hwn fydd plannu coed derw mes di-goes sy'n fwy gwydn ac a fydd yn helpu i ddiogelu'r safle ar gyfer y dyfodol. Bydd grwpiau o goed derw yn sefyll ymhlith y coed llydanddail brodorol, gan ganiatáu i strwythur amrywiol a chynefin y coetir brodorol ailddatblygu, gan alluogi adfywiad coed llydanddail naturiol pellach i sicrhau gorchudd coetir helaeth.
Unwaith y bydd coed wedi'u sefydlu a'r coetir yn datblygu, byddwn yn wyliadwrus am ddifrod gan y wiwer lwyd, sy'n dueddol o dynnu rhisgl o'r dderwen frodorol yn benodol, gan effeithio'n andwyol ar iechyd ac egni'r coed.
Ar 17 a 18 Mehefin bydd Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig yn cynnal Taith Astudio Gweithwyr Proffesiynol Ifanc yng Nghoedwig Maesyfed a dyma fydd un o'r arosfannau.
Gallwch ddarganfod mwy am Ddiwrnod Rhyngwladol Coedwigoedd draw ar Wefan y Cenhedloedd Unedig.