Y rhesymau y tu ôl i waith prosiect Twyni Byw i dynnu conwydd o’r twyni yn Nhwyni Whiteford
Mae gwaith y gaeaf pwysig gan y prosiect Twyni Byw yn Nhwyni Whiteford yn cynnwys gwaith teneuo yn rhai o glystyrau’r planigfeydd conwydd (tua 4 hectar) a llwyrgwympo blociau o gonwydd (tua 3.5 hectar).
Yma mae Laura Bowen, Swyddog Prosiect a Monitro Twyni Byw y De, yn trafod pam mae'r gwaith mor bwysig wrth i'r prosiect fynd ati i adfywio twyni tywod ledled Cymru.
Pam mae angen y gwaith hwn?
Nid yw conwydd yn frodorol i'n twyni tywod ac fe'u plannwyd yn y gorffennol ar gyfer pren ac i sefydlogi'r twyni a oedd ar un adeg yn symud. Fodd bynnag, mae conwydd yn rhoi gormod o gysgod, yn llethu rhywogaethau brodorol ac yn sychu ardaloedd sy’n naturiol wlyb.
Mae rhai o'r coed conwydd hyn yn cyrraedd diwedd eu hoes fasnachol a byddant yn dechrau dirywio a chwythu drosodd os na chânt eu cynaeafu. Bydd eu tynnu hefyd yn helpu i adfer y twyni tywod trwy greu ardaloedd agored o gynefin glaswelltir y twyni sy’n llawn blodau.
Ble yn Nhwyni Whiteford y bydd y gwaith yn digwydd?
Bydd y gwaith arfaethedig o fewn y tri chlwstwr o goed conwydd yn rhan ogleddol y penrhyn yn unig; yn bennaf y coed conwydd i'r gorllewin o'r trac. Mae'r gwaith wedi'i gynllunio i sicrhau y bydd lleiniau o gonwydd yn dal i fod yn bresennol yn y dirwedd a bydd estheteg y safle'n cael ei chynnal.
Sut y byddwn yn cwblhau'r gwaith?
Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau gan gontractwyr coedwigaeth trwy ddefnyddio peiriannau cynaeafu pwysedd daear isel arbenigol a fydd yn torri'r coed ac yn eu gostwng yn ysgafn i'r ddaear i leihau aflonyddwch i'r ddaear. Bydd y pren yn cael ei storio'n ddiogel ar y safle.
A fydd cyfyngiadau dros dro i'r cyhoedd?
Bydd mynediad i'r ardaloedd gwaith yn gyfyngedig pan fydd gwaith yn digwydd am resymau diogelwch; fodd bynnag, bydd gweddill y safle ar agor fel arfer.
Pryd fydd y gwaith yn cychwyn a pha mor hir y bydd yn para?
Bwriedir i’r gwaith gychwyn ddechrau mis Tachwedd 2021 ac amcangyfrifir y bydd yn para tua 30 i 40 diwrnod.
Mae holl waith Twyni Byw yn cael ei gwblhau i helpu i gadw cynefinoedd twyni tywod yn iach. Cadwch lygad ar ein ffrydiau cyfryngau cymdeithasol lle byddwn yn parhau i bostio diweddariadau rheolaidd am ein gwaith. Dewch o hyd i ni @TwyniByw ar Twitter, Instagram a Facebook neu trwy chwilio am Sands of LIFE.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach am ein gwaith, mae croeso i chi gysylltu â mi yn uniongyrchol trwy e-bost ar Laura.Bowen@CyfoethNaturiolCymru.gov.uk