Prosiect bioddiogelwch Ardal Gadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau

Mae'r prosiect bioddiogelwch yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o feithrin gwydnwch mewn ecosystemau morol yn Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a'r Sarnau (ACA PLAS) yng Ngogledd Orllewin Cymru.

Yn y prosiect tair blynedd hwn, mae'r tîm yn sefydlu cynllun bioddiogelwch morol. Bydd y cynllun yn asesu ac yn lleihau'r risg o ddyfodiad a lledaeniad rhywogaethau estron goresgynnol morol (INNS) yn yr ardal.

Mae'r prosiect yn cynnwys gweithio gyda rhanddeiliaid i edrych ar ba gamau bioddiogelwch sydd eu hangen ac sy'n ymarferol yn yr ardal. Gallai camau bioddiogelwch gynnwys technegau syml fel codi ymwybyddiaeth ac archwilio ardaloedd i ganfod INNS yn gynnar.

Mae INNS yn blanhigion ac anifeiliaid nad ydynt yn byw yn naturiol yn yr ardal ond sydd wedi'u symud yma, fel arfer drwy weithgareddau dynol. Maen nhw’n achosi niwed sylweddol.

INNS yw un o'r achosion mwyaf arwyddocaol wrth wraidd colled cynefinoedd a bygythiadau i fioamrywiaeth. Mae INNS yn disodli rhywogaethau brodorol, yn cyflwyno clefydau ac amcangyfrifir eu bod yn costio tua £1.7 biliwn y flwyddyn i economi Prydain. Os na chânt eu rhwystro, gallant newid ecosystem yn llwyr.

Gall fod yn arbennig o anodd rheoli a gwaredu INNS yn yr amgylchedd morol a gallant effeithio ar sut mae'r ecosystem yn gweithio. Felly, mae eu hatal rhag cyrraedd yn bwysig iawn. Mae INNS yn cyrraedd drwy 'lwybrau' fel dŵr balast, ar gyrff cychod a chyfarpar, a thrwy weithgareddau fel hwylio hamdden, mordeithio a physgota. Gallant hefyd gyrraedd gyda stoc dyframaeth wedi’i ffermio a diwydiannau eraill. 

Mae'r tîm wedi nodi bod rhai o'r prif risgiau o ran dyfodiad INNS i ACA PLAS o ganlyniad i hwylio hamdden, twristiaeth, safleoedd casglu a chynhyrchu pysgod cregyn, a physgota. Maent hefyd wedi nodi effeithiau posibl INNS morol ar nodweddion Ardaloedd Morol Gwarchodedig, pysgodfeydd a dyframaeth.

Er mwyn delio â'r effeithiau hynny, bydd cynlluniau gweithredu ar gyfer rhywogaethau penodol yn diogelu yn erbyn dyfodiad INNS fel y Chwistrell Fôr Garped sy'n gallu mygu rhywogaethau brodorol a difrodi'r amgylchedd o’i chwmpas. Mae ganddi'r potensial hefyd i ymsefydlu ar gewyll, rhwydi a chyfarpar arall mewn ffermydd pysgod - sy’n niweidiol i’r amgylchedd a’r economi leol.

Hefyd, mae INNS fel Gwifrwymon Japan yn flaenoriaeth i'r prosiect. Ymhlith yr INNS sydd wedi cyrraedd ACA PLAS, gall gwifrwymon ddisodli gwymon a morwellt brodorol. Mae'r tîm yn cymryd camau i leihau niferoedd gwifrwymon ac i ddiogelu'r gwymon brodorol sydd dan fygythiad oherwydd ei bresenoldeb. Maent hefyd yn gweithio gyda Chymdeithas Pysgotwyr Cymru, Cyngor Gwynedd, yr Ymddiriedolaeth Natur, a rhanddeiliaid eraill, i ddatblygu gwaith y prosiect. 

I gael rhagor o wybodaeth am y datganiadau ardal morol, edrychwch ar ein tudalennau datganiadau ardal.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru