Safleoedd enghreifftiol y Fforest Genedlaethol – Pam maen nhw'n arbennig a sut rydyn ni'n eu rheoli

“Ymhlith y coetiroedd gorau yng Nghymru”

Dyna sut y disgrifiodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig y 14 o goedwigoedd a ddewiswyd fel safleoedd enghreifftiol o Fforest Genedlaethol Cymru sydd newydd ei lansio.

Mae'r Goedwig Genedlaethol yn brosiect hirdymor sydd â'r nod o gyfuno a gwella coedwigoedd presennol gyda chynlluniau i blannu coetiroedd newydd ledled Cymru. Bydd hyn yn creu coetiroedd cysylltiedig ar hyd a lled Cymru.

Pam bod y safleoedd enghreifftiol yn arbennig?

Coedwigoedd ydy’r safleoedd enghreifftiol sy'n cael eu rheoli'n ofalus gan staff Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae gennym rwydwaith pwrpasol o swyddogion coedwigaeth, rheoli tir, amgylcheddol a hamdden sy'n datblygu, cynnal a gofalu am y safleoedd arbennig hyn.

Wedi'i leoli ar hyd a lled Cymru, mae'r coetiroedd enghreifftiol yn cwmpasu dros 43,000 hectar o rai o'r golygfeydd gorau sydd gan y genedl i'w cynnig.

Coedwigoedd o safon

Fel pob coedwig a reolir gan CNC, mae’r safleoedd enghreifftiol yn bodloni Safon Coedwigaeth y DU a Safon Sicrwydd Coetiroedd y DU. Mae hyn yn golygu bod y coedwigoedd hyn o ansawdd uchel ac yn cefnogi rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy.

Mae'r coedwigoedd yn cefnogi bioamrywiaeth leol, yn ein helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur drwy storio carbon, bod o fudd i'r pridd a'r dŵr yn eu hardaloedd wrth barhau i gynnal yr amgylchedd a'r dirwedd hanesyddol, a chefnogi cymunedau lleol.

Llefydd gwych i ymweld

Mae'r safleoedd coedwig enghreifftiol yn cynnig amrywiaeth o brofiadau gwych i ymwelwyr lle gall pobl gysylltu â natur. Mae rhai o'r safleoedd yn cynnig teithiau cerdded tawel mewn coedwig tra bod eraill yn cynnig golygfeydd syfrdanol.

Mae Coedwig Bwlch Nant yr Arian ger Aberystwyth yn enwog am yr olygfa drawiadol a dyddiol o fwydo 180 o farcutiaid coch. Gall ymwelwyr fwynhau’r olwg ddramatig o guddfan ond troedfeddi i ffwrdd o'r adar yn plymio am eu bwyd. Mae'r safle, ynghyd â Pharciau Coed y Brenin ger Dolgellau a Choedwig Afan yng Nghastell-nedd Port Talbot hefyd yn fagnetau ar gyfer i feicwyr mynydd dewr.

Mae'r safleoedd coedwig enghreifftiol yn cynnig diwrnodau allan gwych i'r teulu. Mae gan rai canolfannau ymwelwyr, caffis a chyfleusterau chwarae i blant.

 

Rhannau hanfodol o gymunedau lleol

Mae'r coedwigoedd hyn yn fwy na rhannau o'u cymunedau yn unig. Mae llawer ohonynt wedi bod yn gefn i gymunedau cyfan a ffyrdd o fyw yn y blynyddoedd a fu.
Mae llawer o'r safleoedd yn goetiroedd cynhyrchiol sy'n cynhyrchu pren cynaliadwy ac yn cefnogi teuluoedd a chymunedau gwledig.

Mae safleoedd eraill yn iau – ond yn ddim llai bywiog. Lleolir Coetir Ysbryd Llynfi ar lethrau dwyreiniol Cwm Llynfi Uchaf, naw milltir i'r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr a phum milltir i'r de-ddwyrain o Barc Coedwig Afan.

Wedi'i sefydlu'n ddiweddar ar hen safle diwydiannol, mae'r coetir cymunedol hwn yn cynnig mynediad i bobl leol i fannau gwyrdd ar garreg eu drws ac mae ganddo amrywiaeth o gyfleusterau i bawb eu mwynhau.

Mae coedwigoedd y genedl hefyd wedi cael mwy o amlygrwydd yn ystod 2020 wrth i fwy o bobl fanteisio ar y cyfle i gysylltu â natur yn ystod pandemig Covid-19. Darparodd coedwigoedd lleol ymdeimlad o ddianc ac adnewyddu i lawer o bobl a manteisiodd ar y cyfle i roi hwb i'w lles ac i ddarganfod lleoedd newydd fel rhan o'u hymarfer corff dyddiol.

Sut mae CNC yn rheoli'r safleoedd?

Ein nod yw hyrwyddo'r amgylchedd naturiol ym mhopeth a wnawn. Rydym eisiau helpu pobl i fanteisio i'r eithaf ar y buddion y mae'r Amgylchedd yn ei gynnig yn ogystal â'i werthfawrogi er ei fwyn ei hun nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rydym yn rheoli ein safleoedd yn unol ag egwyddorion Rheoli Cynaliadwy ar Adnoddau Naturiol. Yr egwyddorion yw:

  • Rheoli addasol - rheoli mewn modd ymaddasol, drwy gynllunio, monitro, adolygu a, phan fo hynny’n briodol, newid gweithredoedd.
  • Graddfa - ystyried y raddfa briodol ar gyfer gweithredu;
  • Cydweithio a denu - hyrwyddo cydweithio a chydweithredu, a chyfranogi ynddynt
  • Cyfranogiad Cyhoeddus - gwneud trefniadau priodol i’r cyhoedd gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau.
  • Tystiolaeth - ystyried yr holl dystiolaeth berthnasol a chasglu tystiolaeth mewn perthynas â materion y ceir ansicrwydd yn eu cylch.
  • Buddiannau lluosog - ystyried manteision a gwerth cynhenid adnoddau naturiol ac ecosystemau.
  • Hirdymor - ystyried effeithiau tymor byr, tymor canolig a hirdymor gweithredoedd.
  • Gweithredu’n ataliol - cymryd camau i atal niwed arwyddocaol i ecosystemau.
  • Adeiladu gwytnwch - ystyried gwytnwch ecosystemau

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru