Diwrnod Rhyngwladol Gwerthfawrogi Ystlumod: Y rôl bwysig sydd gan ystlumod yn ecosystem Cymru

Mae ystlumod yn famal mewn perygl yn y Deyrnas Unedig. Cânt eu gwarchod gan Reoliadau Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (y ‘Rheoliadau Cynefinoedd’) a Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) oherwydd y gostyngiad hanesyddol yn eu poblogaeth a’u statws cadwraethol ‘dan fygythiad’.

Yn ein blog diweddaraf mae Sam Dyer o Dîm Cyfoeth, sef un o’n Cynghorwyr Arbenigol ar Gynefinoedd a Rhywogaethau’r Tir, yn dweud mwy wrthym am y rôl bwysig sydd gan ystlumod yn ein hamgylchedd, pam y mae angen inni eu gwarchod a pha ganllawiau y dylech eu dilyn os byddwch yn dod o hyd i glwydfan ystlumod yn eich cartref.

Ystlumod yng Nghymru

Mae Cymru yn gartref i sawl math gwahanol o ystlum, yn cynnwys rhai o’r ystlumod prinnaf ym Mhrydain. Yn wir, mae Cymru yn gadarnle i ystlumod pedol lleiaf (enw gwyddonol Rhinolophus hipposideros) a welir yn aml yn ystod misoedd yr haf mewn toeau neu seleri cynnes mewn hen adeiladau, lle mae’r ystlumod benywaidd yn casglu ynghyd i roi genedigaeth i’w rhai bach. Yn ystod misoedd y gaeaf, maent yn gaeafgysgu mewn ogofâu, mwyngloddiau a seleri, lle maent angen tymheredd lled oer sefydlog.

Yng Nghymru, mae pump o ardaloedd wedi’u dynodi’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) fel rhan o rwydwaith Natura 2000, a nodir mai ystlumod pedol lleiaf yw’r prif reswm dros ddewis y safleoedd hyn. Hefyd, ceir tri safle ychwanegol lle mae’r rhywogaeth yn bresennol fel nodwedd gymwys.

Ar sail data monitro cyfredol, lleolir 21.1% o’r amcangyfrif gorau o gyfanswm poblogaeth Cymru oddi mewn i safleoedd ACA yn ystod tymor magu’r haf.

Er bod y niferoedd a geir mewn clwydfannau unigol yn amrywio dros y blynyddoedd, mae’r duedd gyffredinol a welir mewn poblogaethau yn y byrdymor oddi mewn i’r rhwydwaith ACA yn cynyddu. Mae Dyffryn Gwy yn ACA Fforest y Ddena ymhlith y safleoedd hyn. Dyma gynefin pwysig yng Nghymru i ystlumod pedol lleiaf ac mae’n cynnal poblogaethau mawr o rywogaethau eraill, yn cynnwys rhai o’r clwydfannau mwyaf yn y Deyrnas Unedig ac o bosibl yn Ewrop.

Pa rôl sydd gan ystlumod yn ein hecosystemau?

Mae ystlumod yn greaduriaid gwirioneddol anhygoel. Ystlumod yw’r unig famal, mewn gwirionedd, sy’n gallu hedfan. Mae mwy na 1400 o wahanol rywogaethau i’w cael trwy’r byd ac mae ganddynt rôl hanfodol yn ein hamgylchedd. Mae ystlumod yn ein helpu trwy wneud y canlynol:

Helpu i beillio

Er mai pryfed yw’r unig bethau y mae holl ystlumod y Deyrnas Unedig yn eu bwyta, o amgylch y byd mae nifer o rywogaethau’n beillwyr naturiol – mae hyn yn golygu bod ystlumod, ochr yn ochr â glöynnod byw a gwenyn, yn ddolen hollbwysig yn ein cyflenwad bwyd. Mae rhai planhigion yn dibynnu’n rhannol neu’n gyfan gwbl ar ystlumod i beillio’u blodau, fel y cactws agafe a ddefnyddir i wneud tecila.

Rheoli plâu

Gellir dweud bod ystlumod yn rheoli plâu byd natur a gallant fwyta miloedd o bryfed bob nos. Mae ystlumod Prydain yn bwydo’n gyfan gwbl ar bryfed. Pan fydd y tywydd yn ddigon cynnes, dônt allan o’u clwydfan i fwydo ar ôl iddi nosi; ond os bydd y tywydd yn arbennig o wlyb neu wyntog, neu os bydd y tymheredd yn gostwng, byddant yn mynd yn swrth. Maent yn defnyddio uwchsain (ecoleoli) i ddod o hyd i’w hysglyfaeth.

Helpu i wasgaru hadau coed a phlanhigion

Mewn sawl rhan o’r byd, mae gan rai ystlumod rôl hollbwysig yn y dasg o wasgaru hadau coed a phlanhigion eraill. Ymhellach, ystyrir eu bod yn bwysig oherwydd y pellteroedd mawr y gallant gludo hadau. Gan fod ystlumod yn helpu i beillio a gwasgaru hadau, gallant hyd yn oed fod â rhan bwysig yn y dasg o helpu coedwigoedd i aildyfu ar ôl iddynt gael eu clirio.

Beth ddylwn i ei wneud os oes gennyf ystlum yn fy nghartref?

Mae gan ystlumod berthynas unigryw â phobl ac mae rhai ohonynt yn rhannu ein cartrefi am ran o’r flwyddyn. Mae cannoedd o ddeiliaid tai yn cysylltu â ni bob blwyddyn gydag ymholiadau’n ymwneud ag ystlumod.

Fel arfer, does dim angen ichi bryderu os dewch o hyd i glwydfan ystlumod yn eich cartref. Yn gyntaf, dylech edrych ar ein gwefan i gael cyngor. Caiff ystlumod eu gwarchod gan y gyfraith, a ddylech chi ddim gwneud unrhyw beth a allai niweidio’r ystlumod, neu gau neu ddifrodi eu clwydfan.

Os oes ystlum wedi hedfan i mewn i’ch tŷ, ac os yw’n gallu hedfan, yna agorwch y ffenestri neu’r drysau allanol a diffoddwch oleuadau llachar. Dylai’r ystlum allu hedfan allan unwaith eto, oni bai ei fod yn ystlum ifanc iawn neu wedi’i anafu.

Os yw’r ystlum wedi’i anafu, neu os oes cath wedi dod ag ef i mewn i’r tŷ, mae’n bosibl na fydd yn gallu hedfan. Efallai y bydd yn rhaid ichi gysylltu â gofalwr ystlumod lleol trwy gyfrwng yr Ymddiriedolaeth Gwarchod Ystlumod (Bat Conservation Trust) neu fynd â’r ystlum at filfeddyg lleol. Gallwch hefyd ffonio’r Llinell Gymorth Ystlumod ar 0345 1300 228.

Mae ystlumod llawndwf yn fach iawn – oddeutu’r un maint â bocs matsis bach. Caiff ystlumod ifanc eu geni rhwng mis Mai a mis Awst. Os gwelwch ystlum y tu allan i’r misoedd hyn, ystlum llawndwf fydd ef.

Os dewch o hyd i ystlum ifanc, dylech gysylltu â’r Grŵp Ystlumod lleol neu’r Ymddiriedolaeth Gwarchod Ystlumod. Bydd modd iddynt eich cynghori sut i’w roi’n ôl yn ei glwydfan er mwyn rhoi’r siawns orau iddo oroesi.

Os dewch o hyd i fwy nag un ystlum, yn ôl pob tebyg mae yna glwydfan yn y tŷ ac mae’n bosibl bod yr ystlumod ifanc yn mynd ar goll. Dylech ofyn i’ch grŵp ystlumod lleol am gymorth neu ein ffonio ni ar 0300 065 3000.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru