Mae Chris Roscoe yn rhan o Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol, sy'n rhaglen beilot ddeg mis gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ganolog iddi.

Mae'r Academi yn fenter a sefydlwyd i ddangos gwerth arweinyddiaeth yn y dyfodol trwy uwchsgilio arweinwyr ifanc o sectorau amrywiol i lunio a dylanwadu ar newid go iawn yng Nghymru.

Dyma Chris yn esbonio sut mae'n gobeithio y bydd ei ran yn yr Academi yn arwain at newid cadarnhaol.

Mae cymryd rhan yn yr Academi ar ran CNC wedi bod yn fraint. Mae'r profiad hwn gyda Swyddfa'r Comisiynydd wedi rhoi nifer o gyfleoedd unigryw imi gymryd rhan mewn gwahanol ddigwyddiadau a siarad ag arweinwyr o wledydd eraill sy'n ceisio gwneud newid cadarnhaol tebyg.
Yr hyn rydw i wedi ei werthfawrogi fwyaf, fodd bynnag, yw'r cyfle i weithio'n agos gyda phobl ifanc eraill ledled y wlad, sydd i gyd yn ymroddedig i ddyfodol Cymru. Mae carfan ein hacademi yn cynnwys cynrychiolwyr o amrywiaeth eang o sectorau.
Yn flaenorol, roedd y ffin rhwng yr Amgylchedd, y Celfyddydau, a'r Trydydd Sector yn glir yn fy meddwl. Fodd bynnag, yn sgil yr amser a dreuliais gyda chydweithwyr yn yr academi, mae'r muriau hyn bellach wedi'u dymchwel. Mae'r gwaith hwn wedi bod yn agoriad llygad ar ba mor gydgysylltiedig yw ein holl rolau a sut mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i gyflawni ein nodau.
Arweinydd yr academi yw Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ac mae'n tynnu'n helaeth ar egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae cyfranogwyr yr Academi yn mynychu sgyrsiau a gweithdai ar amrywiaeth o bynciau hunanddatblygiad a sgiliau, ynghyd â mynychu ymrwymiadau allanol.
Ym mis Ionawr cyflwynais sgwrs yn nigwyddiad xChange Llywodraeth Cymru, gan siarad ag arweinwyr o Lywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus ehangach ar fy marn am y Ddeddf a’r cyfleoedd a ddaw yn ei sgil wrth inni ddechrau’r ddegawd newydd.
Yn ystod 'Wythnos Cymru' ym mis Mawrth, teithiais i Ddulyn ac roeddwn yn rhan o drafodaeth banel ar sut mae'r Ddeddf wedi dylanwadu ar benderfyniadau yng Nghymru a thramor. Mynychais hefyd Swyddfa Dramor Iwerddon, trafodais ddefnydd y Gwyddelod o Gynulliadau Dinasyddion gyda'r Ysgrifennydd Cyffredinol ac ymunais â grŵp Cynaliadwyedd Prifysgol Dulyn i gael trafodaeth ar eu gwaith.
Ar hyn o bryd rwy'n gweithio ar broject ar y cyd gyda fy ngharfan yn yr academi gyda'r bwriad o baratoi cyngor i'w gynnig i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar y camau y gallant eu cymryd i fynd i'r afael â'r heriau sydd gennym yn ein cymdeithas.
Bydd yr allbwn hwn yn rhan o Her Fawr ein carfan, sy'n canolbwyntio ar archwilio'r mater o godi lefelau sgiliau yng Nghymru a’r ffordd orau o fynd i'r afael â'r her o arfogi pobl Cymru â'r sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer y dyfodol. Mae hwn yn bwnc HELAETH a chymhleth ac felly fe benderfynon ni ganolbwyntio ein cylch gwaith ar fynd i'r afael â'r her o uwchsgilio'r rhai sydd y tu allan i addysg ffurfiol ar hyn o bryd.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd yn mynd law yn llaw wrth ddatblygu gofod meddwl sy'n gynhwysol, wedi'i seilio ar wirionedd, ac sy'n canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig. Mae sylfaen y Nodau Llesiant ac egwyddorion Rheoli Cynaliadwy ar ein Hadnoddau Naturiol eisoes wedi esgor ar brosiectau rhagorol ar draws y sefydliad e.e. Grangetown Gwyrddach, Dŵr ar gyfer Llesiant a Llethrau Iach.
Mae cyhoeddi’r Datganiadau Ardal yn rhoi cyfle gwych i barhau â'n gwaith mewn prosiectau cydweithredol. Trwy fynd i’r afael â materion lleol ar y cyd (e.e. anghydraddoldeb iechyd) trwy lens ein dyletswyddau o ran yr amgylchedd, gallwn hyrwyddo’r defnydd o SMNR mewn cylchoedd y tu hwnt i’n rheolaeth uniongyrchol.
I mi, does dim anfanteision i hyn: canlyniadau cadarnhaol i'r amgylchedd, canlyniadau cadarnhaol i bobl, a pherthynas agosach rhwng y ddau. Rwy’n arddel y dywediad “y byddwn yn gwarchod yr hyn yr ydym yn ei garu yn unig; byddwn yn caru dim ond yr hyn a ddeallwn; a byddwn yn deall dim ond yr hyn a addysgir inni” ac yn gweld fframwaith y deddfau fel cyfle i gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd am eu byd naturiol.
Un o'r heriau a osodais i fynychwyr cynhadledd xChange oedd edrych y tu hwnt i gymhwyso Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol trwy eu gwaith a dechrau ystyried cymhwyso ei hegwyddorion yn ein bywydau personol.
Er enghraifft, ychydig ohonom a fyddai’n herio’r nod o weithio tuag at Gymru gadarnach yn amgylcheddol, ond pa mor aml ydyn ni’n blaenoriaethu’r eitemau rhataf a mwyaf cyfleus yn ystod ein siopa wythnosol, gan esgeuluso manteision amgylcheddol. Mae'r dyhead o fyw mewn cymunedau cydlynol yn rhywbeth i’w edmygu, ond faint ohonom sy'n adnabod ein cymdogion?
Fel unigolion mae gennym bŵer diamheuol yn y penderfyniadau a wnawn bob dydd. Mae'r ffordd rydyn ni’n treulio ein hamser ac yn gwario ein harian yn arwydd i eraill o’r eitemau, y gwasanaethau a'r ymddygiadau sy'n bwysig yn ein barn ni. Credaf fod gennym gyfle, trwy fyw'r nodau Llesiant yn ein bywydau o ddydd i ddydd, i arwain trwy esiampl, gyda phob un ohonom wedyn yn cael cyfle i rannu'r safonau hyn gyda mwy a mwy o bobl.
Rydw i wrth fy modd o gael bod yn rhan o'r Academi a’r prosiect sydd gennym ar y gweill ac yn teimlo bod yna lawer y gallwn ni i gyd ei ddysgu.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru