Manteision prentisiaethau
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae bron i 40 o brentisiaid newydd wedi mynd ymlaen i ymuno â'#TîmCNC fel aelodau parhaol o staff sy'n helpu ein timau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r amgylchedd a chymunedau ledled Cymru.
Mae llawer o'n staff talentog ac ymroddedig wedi elwa ar brentisiaethau ac rydym yn awyddus i ddarparu cyfleoedd tebyg i'r genhedlaeth nesaf sy'n awyddus i ddilyn gyrfa yn y maes amgylcheddol.
Mae ein Prif Swyddog Gweithredol Clare Pillman yn rhannu pam ei bod yn credu bod prentisiaeth yn gwneud i ymgeisydd sefyll allan i ddarpar gyflogwyr yn y dyfodol, a'r manteision a ddaw yn eu sgil i fusnesau ac unigolion.
Er mai dim ond ers 2013 y mae CNC wedi bodoli, mae hanes o brentisiaethau o fewn ein sefydliadau blaenorol, sy'n golygu bod gennym adnodd cyfoethog o bobl yn gweithio ar bob lefel ar draws gwahanol rannau o'r busnes a ddechreuodd eu gyrfaoedd gyda ni fel prentisiaid.
O'n timau Coedwigaeth a Rheoli Tir, i’n timau Gweithredol a TGCh, mae llawer o'n staff wedi elwa ar gynlluniau prentisiaeth neu leoliad ac wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd hir, gan feithrin cyfoeth o wybodaeth a phrofiad.
Yn ein pencadlys yn Crosshands, Sir Gaerfyrddin er enghraifft, mae gennym ddau berson yn gweithio ochr yn ochr â'i gilydd yn ein tîm Gweithlu Integredig, a ymunodd â'r sefydliad drwy gynlluniau prentisiaeth 50 mlynedd ar wahân.
O'r eiliad y maen nhw’n ymuno â ni, mae ein prentisiaid yn rhan fawr o'r tîm ac yn cymryd rhan ymarferol yn ein gwaith, yn ogystal â chael eu hannog yn gyson a chael cyfleoedd i gymryd rhan mewn gwahanol brosiectau a fydd yn eu helpu i dyfu a symud ymlaen.
Er enghraifft, bydd rhywun sy'n ymgymryd â phrentisiaeth Cadwraeth Amgylcheddol o fewn ein Tîm Gweithlu Integredig yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o wahanol weithiau gweithredol, gan gynnwys cynnal a chadw ein systemau trechu llifogydd. Mae prentisiaid blaenorol yn ein Tîm Cymorth Ymgeisio wedi cael cyfle i gyflwyno newidiadau datblygu i helpu i wella ein systemau mewnol presennol.
Mae dysgu yn broses ddwyffordd, ac rydym wedi dysgu pethau newydd gan ein carfanau o brentisiaid dros y blynyddoedd ac wedi gweld y manteision o'u brwdfrydedd a'u persbectif newydd ar faterion a phrosiectau.
I rywun fel fi a gafodd ei fagu yn gweithio mewn byd analog, mae'n hynod ddiddorol gweld ein prentisiaid ifanc yn defnyddio technoleg i gydblethu â chwsmeriaid a rhanddeiliaid nad oedd yn bodoli pan oeddwn yn dechrau yn fy ngyrfa am y tro cyntaf.
Rwy'n cofio cael sgwrs wych gydag un o'n Swyddogion Llaeth a ymunodd â'r sefydliad yn ddiweddar, ynglŷn â sut yr oedden nhw’n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i gadw mewn cysylltiad â rhanddeiliaid yn ystod cyfyngiadau Covid-19.
O ran sgiliau digidol, rydym wedi cael uwch reolwyr sydd wedi bod gyda'r cwmni ers dros ugain mlynedd, sy'n dweud wrthym eu bod yn awchu am ba mor gyflym y gall eu prentisiaid addasu i brosesau a systemau digidol. Gyda llawer ohonynt wedi tyfu i fyny mewn byd digidol lle mae technoleg yn ail natur iddynt, mae wedi golygu ein bod yn gallu diogelu ein gweithlu gyda gweithwyr llythrennog digidol ar gyfer y dyfodol.
Un peth rydw i mor falch o'i weld drwy ein prentisiaid yw eu llythrennedd hinsawdd a pha mor angerddol ydyn nhw am y blaned a'n byd naturiol.
Yn COP26 y llynedd yn Glasgow, cefais gyfle i gwrdd â phobl ifanc anhygoel ac ysbrydoledig. Mae eu hangerdd a'u gwybodaeth am yr argyfwng hinsawdd a natur yn rhywbeth a welaf yn cael ei adlewyrchu yn ein staff a'n timau yma yn CNC.
Mae gennym genhedlaeth gyfan o weithwyr sy'n gwbl ymroddedig i'w gwaith o amddiffyn a diogelu ein hamgylchedd. Maen nhw wedi tyfu i fyny gyda'r bygythiad o newid yn yr hinsawdd ar y gorwel ac, o ganlyniad, mae'n eu gyrru hyd yn oed yn galetach fyth i wneud y gwaith gorau posibl. Rwy’n falch bod ein prentisiaid yn wir eiriolwyr a llysgenhadon ar gyfer ein planed a'r gwaith a wnawn.
I'r rhai sy'n angerddol am yr amgylchedd ac sydd am helpu i wneud gwahaniaeth, mae CNC yn lle gwych i fod.
Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein cyfleoedd prentisiaeth a lleoliadau diweddaraf drwy ein gwefan:
Cyfoeth Naturiol Cymru / Prentisiaethau, gwirfoddoli, profiad gwaith a lleoliadau eraill
Neu drwy ein dilyn ar Twitter @NRWJobs