SoNaRR2020 - Llwybr at ddyfodol cynaliadwy i Gymru

Ar 27 Ionawr 2021, ddiwrnod y lansiad swyddogol ar gyfer SoNaRR2020, dyma ein Prif Weithredwr, Clare Pillman, yn rhannu gyda ni ei theimladau am arwyddocad yr adroddiad a'r llwybr at ddyfodol cynaliadwy i Gymru. 

"Amgylchedd naturiol Cymru yw ein hetifeddiaeth fwyaf gwerthfawr, sy'n ganolog i'n hunaniaeth fel cenedl ac, fel sydd wedi dod yn eglur dros y flwyddyn ddiwethaf, yn greiddiol i iechyd a lles ein pobl a'n heconomi.

"Diogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yw un o heriau mwyaf ein hoes. Wrth i ni edrych tuag at ddilyn llwybr gwyrddach allan o bandemig byd-eang Covid-19, rhaid i ni hefyd fanteisio ar y cyfle i ailddychmygu sut rydym yn defnyddio ein hasedau naturiol i fynd i'r afael â bygythiadau deuol argyfyngau'r hinsawdd a natur

"Heddiw, rydym ni'n lansio yr air Adroddiad ar Sefylfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR2020) – ein cyhoeddiad carreg filltir sy'n ceisio llywio'r camau y mae'n rhaid i ni a'r Llywodraeth eu cymryd yn ein hymdrechion i amddiffyn ein hamgylchedd yng Nghymru. Ynddo mae'n dangos rhai o'r heriau, blaenoriaethau a chyfleoedd allweddol ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ac yn ganolog iddo mae'r uchelgais i bontio'r bwlch rhwng ein sefyllfa ar hyn o bryd a ble mae angen i ni fod.

"Mae SoNaRR2020 yn cynnwys y cofrestrau traddodiadol sy'n crynhoi pwysau, effeithiau a'n hasesiad o wahanol ecosystemau – o'n moroedd i'n mynyddoedd ac o dir fferm i ardaloedd trefol.

 "Ond mae hefyd yn mynd lawer ymhellach na hynny.

"Mae'n esbonio sut mae lles pobl a'r blaned yn cydblethu, gan nodi sut y gallai Cymru sicrhau newid amgylcheddol drwy drawsnewid y systemau yr ydym i gyd yn eu defnyddio i gefnogi ein ffyrdd o fyw. Mae'n awgrymu y gallai ailgynllunio'r systemau ynni, trafnidiaeth a bwyd helpu cymdeithas i fyw o fewn ei chapasiti amgylcheddol a mynd i'r afael â'r pwysau sy'n achosi'r argyfyngau natur a hinsawdd yr ydym i gyd yn eu hwynebu.

"Gan ddefnyddio un o'r systemau hyn fel enghraifft, gallwn egluro sut y gallwn ddefnyddio'r dystiolaeth yn yr adroddiad i wneud penderfyniadau ar bob lefel. Gallwn ailasesu ein gweithredoedd unigol ein hunain; gall sefydliadau fyfyrio ar sut i wneud ymddygiadau amgylcheddol y dewis hawsaf, a gall y llywodraeth wneud newidiadau ar raddfa fawr drwy bolisi.

 

Trawsnewid y system drafnidiaeth

 

"Trafnidiaeth yw'r drydedd ffynhonnell fwyaf o allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru, ac mae'r ffordd rydym yn cludo ein hunain a'r nwyddau a ddefnyddiwn yn cyfrannu at allyriadau carbon, llygredd aer, dŵr a sŵn. Ond y tu hwnt i hynny mae hefyd yn cyfrannu at golli bioamrywiaeth drwy rywogaethau estron goresgynnol sy'n dod i mewn i ddŵr balch llongau er enghraifft.

"A dyma'r effaith amgylcheddol yn unig – mae effeithiau cymdeithasol ac economaidd hefyd yn gysylltiedig â thagfeydd a diffyg cyfleoedd trafnidiaeth hefyd.

"Mae SoNaRR2020 yn nodi'r hyn y mae Cymru'n ei wneud nawr – a'r hyn y dylem fod yn ei wneud yn y dyfodol.

"Mae trydaneiddio trenau a thrafnidiaeth ffyrdd yn dechrau lleihau allyriadau, yn ogystal â chynnydd mewn dulliau teithio llesol fel cerdded neu feicio i'r gwaith. Dylai cynyddu'r defnydd o Gerbydau Allyriadau Isel Iawn, a defnyddio technolegau carbon isel, helpu i sicrhau gostyngiadau sylweddol mewn allyriadau trafnidiaeth yn ystod y degawd nesaf. A gallai technoleg ddigidol arwain at newidiadau radical mewn trafnidiaeth ffyrdd

"Ond mae'n amlwg na fydd datblygiadau technolegol arloesol yn unig, fel y rhai uchod, yn sicrhau cyflymder a graddfa'r newid sydd ei angen i fynd i'r afael ag effeithiau'r system drafnidiaeth ar yr amgylchedd ac iechyd pobl. Mae angen inni feddwl am sut yr ydym i gyd yn byw, sut yr ydym yn ystyried defnyddio mathau eraill o drafnidiaeth a sut y gallem leihau'r angen i deithio.

"Mae pandemig Covid-19 wedi dangos y gellir cyflawni newidiadau cymdeithasol mawr – boed hynny'n sut rydym yn cyfathrebu â'n gilydd, sut rydym yn cymudo i'r gwaith, y ffordd rydym wedi dod i werthfawrogi'r awyr agored o garreg ein drws neu sut rydym yn siopa.

"Ac eto, ni all unrhyw un sefydliad reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ar ben ei hun.

"Mae angen inni ddefnyddio'r adroddiad hwn fel sbardun i lansio'r drafodaeth bwysig hon, i ymgysylltu â phobl a chydweithio, fel y gallwn i gyd chwarae ein rhan i wella gwydnwch ein hamgylchedd, ein hadnoddau naturiol a'n hecosystemau, fel y gallant barhau i gefnogi ein lles am genedlaethau i ddod.

"Mae cyhoeddi SoNaRR2020 yn dod ar adeg dyngedfennol o her a newid, mewn sawl maes.

"Mae Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd byd-eang ac o ran gwella'r amgylchedd naturiol. Fodd bynnag, mae llawer i'w wneud o hyd; nid yw Cymru eto'n cyflawni pedwar nod tymor hir rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, ac mae'n hanfodol bod penderfyniadau polisi yn y dyfodol wedi'u gwreiddio yn y dystiolaeth hon. 

"Fel cymdeithas, mae angen inni gael hyn yn iawn. Mae'r cenedlaethau i ddod yn dibynnu arnom ni."

I weld yr adroddiad, ewch yma.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru