Lleihau ein heffaith er mwyn mynd i'r afael â newid hinsawdd

Gan ei bod hi’n Ddiwrnod Amgylchedd y Byd heddiw (5 Mehefin) rydym am dreulio ychydig o amser yn ystyried effaith ein sefydliad ar yr amgylchedd a'r hyn rydym yn ei wneud i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae ein tîm Carbon Positif wedi bod yn gweithio'n galed i leihau allyriadau carbon Cyfoeth Naturiol Cymru yn ogystal â helpu eraill yn sector cyhoeddus Cymru i wneud yr un peth.

Dyma Silas Jones, Rheolwr Prosiect Carbon Positif, i ddweud wrthym am yr hyn y mae'r tîm wedi bod yn ei wneud a'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Ein huchelgais ehangach a mwy mentrus i fynd i'r afael â newid hinsawdd

Dros y 12 mis diwethaf rydym wedi gweld newid sylweddol yn agweddau pobl tuag at y newid yn yr hinsawdd.

Yn 2019 gwelwyd protestiadau ym mhedwar ban byd wrth i wrthdystwyr, a llawer ohonynt yn blant ysgol, ofyn i arweinwyr y byd gymryd camau brys i ymateb i’r argyfwng cynyddol o ran yr hinsawdd.

Yng Nghymru, ymunodd Llywodraeth Cymru â channoedd o awdurdodau lleol a rhyngwladol eraill wrth ddatgan argyfwng hinsawdd. 

Wrth weld y digwyddiadau byd-eang hyn, penderfynom gefnogi Llywodraeth Cymru yn ei datganiad.  Rhoddodd hyn gyfle i ni bwyso a mesur sut y dylem ni weithredu, ac i ystyried ble y dylem hoelio'n sylw.  Roeddem yn gytûn y dylai ein huchelgeisiau wrth fynd i'r afael â'n cyfraniad ni tuag at newid hinsawdd fod yn fwy beiddgar ac yn ehangach nag erioed o'r blaen.

Nodi ein Blaenoriaethau o ran Newid Hinsawdd

Er mwyn cefnogi datganiad argyfwng hinsawdd Llywodraeth Cymru gofynnodd ein Bwrdd i'r tîm Carbon Positif a Clive Walmsley, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol: Newid Hinsawdd a Datgarboneiddio, ddod ynghyd i nodi ein blaenoriaethau o ran meysydd gwaith, rhai a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol o’u cyflawni, nid yn unig i'n hallyriadau ni ond hefyd i allyriadau sefydliadau eraill ledled Cymru.

Cymeradwywyd y rhestr gan Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Gorffennaf, gan ymrwymo i gwmpasu a chostio'r prosiectau canlynol:

  • Adfer mawn dwfn
  • Creu coetiroedd
  • Cynhyrchu ynni adnewyddadwy
  • Cyflwyno cerbydau trydan a seilwaith ar eu cyfer
  • Gwres carbon isel ac effeithlonrwydd ynni yn ein hadeiladau a'n hasedau
  • Mynd i’r afael ag allyriadau sy'n gysylltiedig â chaffael, sy'n gyfrifol am bron i ddwy ran o dair o'n hallyriadau nwyon tŷ gwydr gweithredol
  • Dylanwadu ar leihau allyriadau allanol ledled Cymru, drwy:
    • estyn cymorth a chyngor datgarboneiddio i Lywodraeth Cymru, i gyrff sector cyhoeddus Cymru, ac i Fyrddau'r Sector Cyhoeddus
    • gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddeall ein rôl bosibl o ystyried carbon o fewn cyfundrefnau cynllunio, trwyddedu, a rheoleiddio
    • gweithredu newid ymddygiad, gan gynnwys ymgysylltu â staff i feithrin ystyriaeth o garbon trwy CNC gyfan a thu hwnt
    • gwerthuso effeithiau presennol newid hinsawdd a’u cyfleu i eraill er mwyn annog rhagor o drafod cyhoeddus a chymorth i ddatgarboneiddio'n gyflym gyda’r bwriad o leihau effeithiau yn y dyfodo

Cyflwynwyd y blaenoriaethau hyn i'r Prif Weinidog a Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni, a Materion Gwledig. O ganlyniad, mae prosiectau fel adfer mawndiroedd a chreu coetiroedd wedi cael eu hariannu drwy Lywodraeth Cymru. 

Rydym ni a Llywodraeth Cymru yn parhau i drafod yr uchelgais o ddatgarboneiddio Cymru yn y dyfodol a rôl CNC, gan gynnwys sut mae rhai o'n blaenoriaethau eraill yn cael eu hariannu a'u cyflawni.

Annog staff i ymuno

Aelod tîm Carbon Positif

Er mwyn helpu i wreiddio’r ystyriaeth o leihau allyriadau carbon yn niwylliant ein sefydliad, rydym wedi annog cydweithwyr ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru i siarad â ni am y mesurau lliniaru sy'n bwysig iddynt.

Yn ystod y diwrnod #TîmCyfoeth ym mis Tachwedd y llynedd, cyflwynodd Carbon Positif a Clive Walmsley weithdy a oedd yn gwahodd staff i gynnig syniadau ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni a chyfleoedd ar gyfer teithio llesol a chynaliadwy, gyda'r nod o weithredu’r awgrymiadau mwyaf ymarferol ac effeithiol.  Cawsom ymateb gwych a dewiswyd tri mesur lliniaru i'w datblygu:

  • Prynu dau e-feic newydd ar gyfer ein swyddfeydd er mwyn annog staff i wneud dewisiadau teithio sy’n fwy gweithredol a chynaliadwy
  • Gosod pympiau mwy effeithlon yn neorfa pysgod Cynrig
  • Gwella'r inswleiddio a thynhau bachau’r ffenestri yn swyddfa Rivers House

Er bod y ddau brosiect olaf wedi'u hoedi oherwydd pandemig Covid-19, rydym yn gobeithio y byddwn yn gallu eu cwblhau yn ystod y flwyddyn ariannol hon.    

Cawsom nifer fawr o awgrymiadau, ac er nad oeddem yn gallu gwireddu pob un cyn diwedd y flwyddyn ariannol rydym wedi'u cydgasglu oll a byddwn yn eu rhannu gyda'r timau perthnasol ar gyfer ystyriaeth ymhellach.

Sefydlu Rhaglen Newid Datgarboneiddio CNC

Yn hanesyddol byddai rhaglen waith y tîm yn cael ei rheoli gan y Grŵp Llywio Carbon Positif a oedd yn goruchwylio ac yn cyfarwyddo'r prosiect. Ond yn sgil yr argyfwng hinsawdd a’r adolygiad o Fyrddau Busnes ac Is-grwpiau penderfynwyd bod angen dull gweithredu ehangach. 

O ystyried hyn, sefydlwyd Bwrdd y Rhaglen Newid Hinsawdd a Datgarboneiddio, a fydd yn edrych ar gyflawni ar lefel sefydliad yn ei gyfanrwydd yn hytrach na chanolbwyntio ar y Prosiect Carbon Bositif yn unig. Ar hyn o bryd, mae'r Bwrdd yn goruchwylio'r gwaith o ddatblygu rhaglen waith ar gyfer 2020/21. 

Aelodau newydd o’r tîm

Croesawom ddau aelod newydd o'r tîm yn 2019 i roi cymorth i ni i gyflawni ein hymrwymiadau. Ymunodd Mefty Haider a Peter Edwards â ni fel cynghorwyr arbenigol yr haf diwethaf. 

Mae Mefty wedi bod yn canolbwyntio ar ddatblygu Cynllun Gweithredu strategol i nodi mesurau lliniaru ar gyfer datgarboneiddio ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru.  Ar hyn o bryd mae'n canolbwyntio ar ystyried datgarboneiddio o fewn maes caffael, sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'n hallyriadau gweithredol, yn ogystal â phrosiectau sy'n ymwneud â lleihau allyriadau’r fflyd, gan gynnwys ymchwilio i fiodiesel a threialu cerbyd tir garw trydan (UTV).

Bu Peter yn canolbwyntio ar sefydlu cynhyrchiad ynni adnewyddadwy, seilwaith cerbydau trydan (EV), a chyflwyno Systemau Rheoli Ynni Adeiladau (BeMS) ar safleoedd bwlch Nant yr Arian a Resolfen i'n helpu i reoli defnydd ynni ein hadeiladau yn fwy effeithlon.  Mae hefyd wedi gweithio gyda’i gydweithwyr yng Ngweithrediadau i ddatblygu profion o dechnoleg batri masnachol mewn offer gweithredol, gan gynnwys tocwyr perthi a pheiriannau lladd gwair.

Cynllun Gweithredu

Y llynedd, cafodd ein Cynllun Galluogi, sy'n nodi amcanion lefel uchel Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer datgarboneiddio, ei gymeradwyo gan Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Yn fwy diweddar, rydym wedi datblygu cynllun gweithredu sy'n nodi sut y byddwn yn gwireddu’ huchelgeisiau datgarboneiddio a ddisgrifir yn ein cynllun galluogi.

Bydd y Cynllun Gweithredu yn rhoi blaenoriaeth i'r mesurau lliniaru a fabwysiadir gan ein sefydliad, gan gwmpasu'r cyfnod 2017-2022 i ddechrau er mwyn cyd-fynd â Chynllun Corfforaethol CNC.

Mae'r Cynllun Gweithredu yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd gennym i werthuso pa opsiynau lliniaru i'w datblygu, a bydd yn allweddol wrth ddatblygu nodau a thargedau mewnol.

Bydd hefyd yn gymorth i ymgorffori’r egwyddor o leihau carbon ym mhrosesau, penderfyniadau, gwariant a diwylliant ein sefydliad

Allgymorth

Mae Clive Walmsley a Carbon Positif wedi bod yn datblygu dull rhanbarthol o gefnogi'r sector cyhoeddus ehangach i ddatgarboneiddio. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi methodoleg a chanllawiau drafft ar gyfer cyfrifo allyriadau'r sector cyhoeddus, dull sy’n cael ei lywio'n helaeth gan y gwaith a wneir gan Carbon Positif. 

Mae'r tîm wedi bod yn arwain gweithdai datgarboneiddio gyda chlwstwr rhanbarthol o bum BGC yn y de ddwyrain sydd wedi sefydlu 'Gwent sy’n Barod ar gyfer yr Hinsawdd'. 

Cyflwynodd Clive Walmsley y prosiect Carbon Positif i gyfarfod BGC Gogledd Cymru ac mae gweithdai rhanbarthol eraill ar y gweill. 

Adnewyddadwy

Mae system PV solar 8kWp wedi'i gosod yn ein swyddfa Bwcle yn ogystal â system 4.7kWp yn Nhalybont.  Bydd y rhain yn cynhyrchu tua 10,500kWh y flwyddyn a disgwylir iddynt arbed 9 tunnell o CO2E yn flynyddol. Fodd bynnag, bu'n rhaid gohirio cynlluniau i osod cynllun 30kWp mwy yn Cynrig oherwydd pandemig Covid-19. 

Mae ceisiadau cynllunio am gynlluniau PV pellach yn ein swyddfa Clawddnewydd ac yng nghanolfan ymwelwyr Coed y Brenin wedi cael eu cyflwyno, tra bod gwaith dylunio ac arolygon wedi'u cwblhau ar gyfer swyddfeydd Rivers House a Llys Afon. 

Yn amodol ar arian a chodi cyfyngiadau Covid-19, ein nod yw cwblhau’r pum cynllun, gyda chapasiti cyfun o tua 100kWp, yn 2020/21.

Cyflwyno seilwaith Cerbydau Trydan (EV)

Er bod y seilwaith arfaethedig ar gyfer gwefru Cerbydau Trydan (EV) wedi'i ohirio oherwydd prinder staff allweddol, mae ein gwaith hyd yma wedi cynnwys cydweithio â thimau Mecanyddol, Trydanol, Offeryniaeth, Rheoli ac Awtomeiddio (MEICA) ynghyd â Chyfleusterau i adolygu'r gosodiadau EV presennol ar draws y busnes ac i ddatrys materion hanesyddol. 

Mae'r prosiect hefyd wedi cynnwys gweithio gyda Lles, Iechyd, a Diogelwch i ddatblygu polisi ac i ystyried sut y gallwn symud ymlaen gan ddefnyddio egwyddorion gosod cyffredinol.

Yn ogystal â hyn, rydym wedi datblygu'r fframwaith a'r egwyddorion ar gyfer dylunio seilwaith EV, ac wedi dylunio seilwaith gwefru EV ar gyfer ein swyddfa Bwcle, gan osod seilwaith offer i wefru 22 o gerbydau cyn i'r maes parcio gael ei ail-wynebu. 

Prosiect arddangos Cerbydau Tir Garw (UTV)

Cerbydau Tir Garw

Er mwyn cefnogi ein hymrwymiad corfforaethol i ddatgarboneiddio ein fflyd, prynwyd Cerbyd Tir Garw trydanol (UTV) ar gyfer prosiect arddangos ym mis Mawrth. Rydym yn ei dreialu fel un a allai gymryd lle ein cerbydau tir garw gyriant pedair diesel a phetrol.

Lleihau ein hallyriadau caffael

Ar hyn o bryd mae bron i ddwy ran o dair o'n hallyriadau gweithredol yn gysylltiedig â chaffael ac, o ystyried eu bod yn cael eu cynhyrchu gennym yn anuniongyrchol drwy ein contractwyr, dyma'r ffynhonnell allyriadau fwyaf heriol i fynd i'r afael â hi. 

I ddatrys y mater hwn, rydym wedi bod yn gweithio gyda'n cydweithwyr yn y maes Caffael i ddefnyddio’r Adnodd Cynllunio Carbon yn rhai o'n contractau uchel eu gwerth. 

Rydym hefyd wedi sicrhau cyllid ar gyfer datblygu'r offer a'r fethodoleg ar gyfer lleihau allyriadau yn ein cadwyn gyflenwi. 

Beth nesa?

Mae gennym gynlluniau i ehangu ein cynhyrchiad o ynni adnewyddadwy yn 2020/21, gan ganolbwyntio ar y dechrau ar y pum cynllun ffoto-foltäig (PV) sy'n weddill yn Cynrig, Clawdd Newydd, Coed y Brenin, Rivers House, a Llys Afon. Byddwn hefyd yn asesu'r posibilrwydd o gael rhagor o offer PV solar ar safleoedd eraill, yn ogystal â threialu technolegau eraill megis storio batris.

Byddwn yn ymdrechu i gwblhau cynllun cyflawni a chynlluniau dylunio safle ar gyfer y seilwaith gwefru cerbydau trydanol i gwrdd â gofynion fflyd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Byddwn yn gweithio gyda'n tîm Caffael i fynd ymhellach wrth ddatgarboneiddio cadwyn gyflenwi a phroses gaffael Cyfoeth Naturiol Cymru gan ddefnyddio contractau allweddol fel astudiaethau achos, gan gynnwys meini prawf gwerthuso a monitro Dangosyddion Perfformiad Allweddol.

Byddwn yn gweithio gyda'n tîm Asedau i ddeall yr hyn y byddai ei angen er mwyn darparu adeiladau ynni-effeithlon a charbon isel erbyn 2030, ac i osod safon perfformiad ynni addas i weithio tuag ato. Drwy recriwtio a Rheolwr Ynni, byddwn hefyd yn ystyried opsiynau ar gyfer integreiddio systemau gwresogi adeiladau, seilwaith gwefru trydan, ynni adnewyddadwy a storio batris yn y dyfodol.

Os hoffech glywed mwy o newyddion gan y tîm Carbon Positif, cofrestrwch ar gyfer eu e-gylchlythyr.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am Carbon Positif yma, neu cysylltwch os oes gennych gwestiwn.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru