Mannau Cyhoeddus: Hafan i Fyd Natur?

Pwy feddyliai y gallai’r lawntiau diflas o gwmpas adeiladau cyhoeddus fod yn hafan ar gyfer bywyd gwyllt, tra hefyd yn arbed arian ac yn gwella iechyd y rhai sy’n eu defnyddio?

Mae Swyddfa Maes y Ffynnon Cyfoeth Naturiol Cymru yng Ngogledd Cymru yn nodweddiadol o’r adeiladau sy’n cael eu defnyddio gan nifer o gyrff cyhoeddus a busnesau bychain: llawer o darmac, ambell i wely blodau, a lleiniau glaswellt sy’n rhy serth i barcio arnynt. Mae’r safle hefyd yn llawn tegeirianau a blodau gwyllt. Ar ddyddiau braf mae’r staff yn gallu mwynhau eu cinio yng nghanol byd natur, gan ddychwelyd at eu desgiau’n hapusach a’n llawn egni o ganlyniad. Tybed y gallai pob adeilad swyddfa efelychu hyn yn y dyfodol?

Fel pob adeilad cyhoeddus arall, mae angen gwaith cynnal a chadw ar dir swyddfeydd CNC er mwyn eu cadw’n ddiogel ac yn ddefnyddiol. Roedd hyn yn arfer golygu torri’r glaswellt pob wythnos, ond pan darwyd y torrwr gwellt yn wael un gwanwyn gadawyd y glaswellt i dyfu’n wyllt am ychydig fisoedd. Mwyaf sydyn dechreuodd sawl tegeirian flodeuo ymysg y gwair hir a’r blodau menyn. Ar ôl arolwg sydyn gan ein harbenigwyr planhigion daethom i’r casgliad fod y lawntiau’n llawn o flodau gwyllt cyffredin ynghyd â phedwar rhywogaeth tegeirian - rhywogaethau sy’n dod yn llai cyffredin o ganlyniad i ffermio dwys yng nghefn gwlad.

Picture of an orchid - copyright Pete Frost

Newid Ymddygiad

Lluniwyd cynllun syml i adael rhai ardaloedd o laswellt a thegeirianau heb eu torri tra’u bod yn blodeuo ac yn hadu, gan dorri ardaloedd eraill yn daclus er mwyn ei gwneud yn amlwg nad esgeulustra a berodd i’r gwair dyfu’n hir! Roedd y staff a’r ymwelwyr wrth eu boddau â’r blodau, a chynyddodd niferoedd y tegeirianau dros y blynyddoedd - y mae bron i fil yno erbyn hyn!

Dechreuodd bywyd gwyllt fanteisio ar yr adnodd newydd hefyd. Daeth nifer o löynod byw, gan gynnwys ambell i rywogaeth brin,  a daeth mwy o adar hefyd yn sgil y pryfed. Mae yna nifer o rywogaethau cyffredin yn bwydo ar y tir erbyn hyn gan gynnwys esgyll arian a choch y berllan, ac mae ambell i delor y cnau yn hoff o gnocio ar ffenestri’r swyddfa hefyd! 

Darparwyd copi o gynllun rheoli ar gyfer Maes y Ffynnon i Lywodraeth Cymru a’i hasiantaethau, a gofynnwyd i CNC ysgrifennu canllaw i helpu i gyrff cyhoeddus eraill reoli eu tir er budd bywyd gwyllt a phobl. Gyda chymorth ein harbenigwyr rydym wedi llunio canllaw lliwgar sydd ar gael ar-lein, i’w ddefnyddio gan unrhyw gorff cyhoeddus neu fusnes er mwyn trawsnewid y tir o gwmpas eu hadeiladau i fod yn adnodd i’w staff, ymwelwyr, a natur. 

Creu safleoedd gwell i bobl ac i fywyd gwyllt

Nodwedd allweddol ein dull yw sicrhau bod ardaloedd yn ddeniadol i bobl yn ogystal â bywyd gwyllt. Mae hyn yn golygu cadw nodweddion fel gwelyau blodau, ond dewis y rhywogaethau sydd ynddynt yn ofalus, fel eu bod yn darparu digon o baill a neithdar tra hefyd yn edrych yn dda. Yn y mannau lle bydd y glaswellt yn tyfu’n hir rydym yn cynghori i dorri’r gwellt o’u cwmpas yn fyr er mwyn pwysleisio fod presenoldeb y mannau gwyllt yn fwriadol. Rydym hefyd yn awgrymu bod meinciau neu gadeiriau yn cael eu gosod o amgylch y safle er mwyn i bobl a staff allu ymlacio ar eu hegwyl. Mae digonedd o waith ymchwil wedi dangos bod gweithwyr yn fwy cynhyrchiol os bydd eu golygfa’n cynnwys mannau gwyrdd, felly gall tir sydd yn denu bywyd gwyllt wella’ch cynhyrchedd yn ogystal ag arbed costau torri gwair!

Image of a bee on a flower - copyright Ben Anscombe

Gallwch lawrlwytho ein canllaw yma ar ffurf .pdf i ddysgu sut y gallwch chi helpu i drawsnewid eich gweithle i fod yn rhywle gwell i bobl ac i fyd natur.

Mae tir ein swyddfa yma ym Mangor yn gwneud bywyd o ddydd i ddydd yn haws yn y gwaith, ac rydym yn awyddus i rannu’r hyn yr ydym wedi’i ddysgu er mwyn sbarduno eraill i ddilyn ôl ein troed. Mae mwy a mwy o sefydliadau yn dechrau hybu blodau gwyllt i flodeuo ar eu tir, a chyda chymorth cyrff cyhoeddus eraill rydym yn gobeithio y bydd trefi a dinasoedd Cymru yn llawn bywyd gwyllt yn fuan iawn!

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru