Dysgu yn yr awyr agored - llesol i bobl a'r amgylchedd

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar gyfer ysgolion wrth iddynt baratoi i ail-agor yn raddol ddiwedd y mis. Mae dysgu yn yr awyr agored yn cael sylw canolog yn y canllawiau ‘Diogelu Addysg’ a chyfeirir at y manteision sylweddol a ddaw o ddysgu yn yr awyr agored trwy’r ddogfen. Dyma Sue Williams, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol: Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes & Sgiliau, i egluro pam fod hyn yn newydd mor dda.

Mae helpu pob plentyn yng Nghymru i gael profiad o, a gwerthfawrogi’r amgylchedd yn un o’n hamcanion sylfaenol fel sefydliad. Rydyn ni ers peth amser wedi bod yn pwysleisio mor fanteisiol yw dysgu yn yr awyr agored – dysgu yn, dysgu am a dysgu ar gyfer yr amgylchedd naturiol.

Mae tystiolaeth yn dangos fod dysgu yn yr awyr agored yn cryfhau ein cysylltiad gyda byd natur sy’n fanteisiol i ni fel pobl, ond hefyd yn llesol tu hwnt i’r amgylchedd.

Mae gosod dysgu yn yr awyr agored wrth graidd y system addysg yn helpu i wella cyrhaeddiad, sicrhau gweithredu amgylcheddol positif o oed cynnar a hyrwyddo ymddygiad positif hir oes.

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio’n galed i ddylanwadu ar ddatblygiad y Cwricwlwm i Gymru, ac i sicrhau bod dysgu yn yr awyr agored yn elfen ganolog o bob agwedd ar addysg mewn ysgolion.

Roedden ni’n hynod falch o weld fod dysgu yn yr awyr agored a’r holl fanteision a ddaw o hynny yn cael lle mor ganolog yn ‘Diogelu Addysg’, sy’n ategu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddysgu yn yr awyr agored. Mae’r ddogfen yn nodi y dylid ystyried chwarae a dysgu yn yr awyr agored “yn rhan ganolog o unrhyw ddychwelyd yn raddol” ac y “dylai ysgolion sicrhau bod dysgwyr yn treulio cymaint o amser â phosibl yn yr awyr agored”.

Gyda ffocws cryf ar gefnogi iechyd a lles dysgwyr a staff, mae’r canllawiau yn tynnu sylw at fanteision dysgu yn yr awyr agored o ran lles corfforol, meddyliol, emosiynol ac addysgiadol.

Mae hefyd yn pwysleisio’r rôl allweddol y gall ei chwarae wrth helpu i gadw pellter cymdeithasol a lleihau’r risg o ledaenu’r haint o fewn ysgolion yng Nghymru yn ystod pandemig y coronafeirws.

Mae Cyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored wedi cyflwyno llythyr ar y cyd i’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams ar ran y sector dysgu yn yr awyr agored yng Nghymru, yn cynnwys  Rhwydwaith Hyfforddiant Dysgu yn yr Awyr Agored a Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru. Fel llofnodwr ar y llythyr hwnnw, rydym wedi ymrwymo i:

  1. Darparu adnoddau a hyfforddiant proffesiynol o ansawdd ar gyfer staff, a’u cyfeirio atynt, i’w helpu i ddatblygu, delifro a gwerthuso eu rhaglenni dysgu eu hunain y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, boed hynny yn yr ysgol neu gartref (Cam 1).
  2. Cynnig cefnogaeth i leoliadau addysg gan weithwyr proffesiynol annibynnol i helpu i adnabod y gefnogaeth a’r adnoddau sy’n cwrdd â’u hanghenion orau, ac i fynd gyda hwy wrth iddynt ddysgu yn yr awyr agored a'r tu hwnt i gatiau’r ysgol lle bo’r angen (Cam 1 a 2).
  3. Pan fo’r amser yn addas, cynnig cefnogaeth leol a chenedlaethol i ddisgyblion a staff o ran cynnal ymweliadau y tu allan i’r ysgol ac, yn ddiweddarach, teithiau dros nos (Cam 3 a 4)

Felly mae cyfnod prysur ond cyffrous o’n blaen ni fel tîm. Mae CNC mewn sefyllfa gref iawn i barhau i ddylanwadu ar, a chefnogi dysgwyr trwy ein hadnoddau, rhaglenni hyfforddi ac ymgyrchoedd cenedlaethol, ac i’w cynnwys yn ein gwaith ar y Weledigaeth 2050.

Yn bwysicaf oll, mae gennym rôl allweddol i’w chwarae o ran cyfrannu at ddatblygiad dinasyddion cyfrifol y dyfodol - sy’n hanfodol er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng natur a’r argyfwng newid hinsawdd sy’n ein hwynebu.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru