Gwasanaethau digidol CNC yn cefnogi mwy o bobl i weithredu a pharatoi ar gyfer llifogydd
Ym mis Medi 2020, cyflwynodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wasanaethau digidol newydd ar ei wefan gyda'r nod o wella sut y caiff rhybuddion llifogydd a data afonydd byw eu rhannu cyn ac yn ystod llifogydd.
Mae gwasanaethau Rhybuddion a Negeseuon Llifogydd (FWAA), Perygl Llifogydd 5 Diwrnod (5DFR) a Lefelau Afonydd, Glawiad a Data Môr (RRS) eisoes yn cael eu herio wrth i gymunedau ledled Cymru wynebu cyfnodau helaeth o law trwm.
Yma, mae Andrew Wall, Rheolwr Gwasanaethau Perygl Llifogydd Cenedlaethol CNC, yn myfyrio ar sut mae'r systemau newydd yn perfformio a sut y gallant helpu mwy o bobl i ddeall a gweithredu ar eu perygl o lifogydd cyn i'r dyfroedd ddechrau codi.
Ni fydd yn syndod i'r rhai sy'n byw mewn cymunedau ledled Cymru yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd dros yr wythnosau diwethaf fod y genedl eisoes yng nghanol gaeaf gwlyb iawn. Datgelodd data'r Swyddfa Dywydd mai Cymru a gafodd y glawiad mwyaf o wledydd y DU ym mis Rhagfyr (256.2mm) gyda Chaerdydd yn profi ei mis Rhagfyr gwlypaf mewn 72 o flynyddoedd.
Unwaith eto, yn dilyn effeithiau digwyddiadau glaw trwm cyn y Nadolig a'r dilyw a ddaeth yn ystod Stormydd Bella a Christoph dros yr wythnosau diwethaf, gwelwyd pa mor ddinistriol y gall effeithiau llifogydd fod i deuluoedd, busnesau a chymunedau. Mae pob cartref sydd wedi dioddef llifogydd yn drasiedi bersonol, ac rydym yn cydymdeimlo â’r rhai sy'n dal i adfer heddiw.
Er na allwn byth atal pob achos o lifogydd, bydd CNC bob amser yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu i ddiogelu cymunedau sydd mewn perygl.
Ac mae sicrhau bod gwybodaeth gynhwysfawr am berygl llifogydd a lefelau afonydd ar gael i bawb i gyd yn rhan o'r gwaith pwysig rydym yn ei wneud i wella'r ffordd rydym yn cyfleu perygl llifogydd i bobl Cymru.
Yn gynyddol, rydym yn gweld mwy o bobl yn troi at lwyfannau digidol i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt sy'n berthnasol i'r ardal y maent yn byw ynddi.
Pan ragwelir glaw trwm a stormydd, gwelwn ymchwydd enfawr mewn traffig i'n gwefan ac i'n ffrydiau cyfryngau cymdeithasol. Felly, mae'n hanfodol bod ein gwasanaethau rhybuddio a hysbysu ar-lein yn gadarn.
Yn y misoedd ers stormydd dinistriol mis Chwefror 2020, mae CNC wedi lansio gwasanaethau data ar-lein newydd sy'n cynnwys nifer o welliannau i'r tudalennau rhybuddion llifogydd a lefelau afonydd byw ar ein gwefan.
Mae'r gwelliannau'n cynnwys mwy o ymarferoldeb, mapiau manylach, mwy o ddata o'n rhwydwaith o fesuryddion gan gynnwys glawiad a lefelau'r môr, gwell cydnawsedd ar gyfer dyfeisiau symudol, a gwell profiad i ddefnyddwyr drwy eu galluogi i lywio'n gyflymach ac yn haws drwy wybodaeth am rybuddion sydd mewn grym a lefelau afonydd.
Datblygwyd y gwasanaethau Rhybuddion a Negeseuon Llifogydd (FWAA), Perygl Llifogydd 5 Diwrnod (5DFR) a Lefelau Afonydd, Glawiad a Data Môr (RRS) mewn ymateb i adborth helaeth gan ddefnyddwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Cawsant eu profi'n drylwyr cyn eu lansio, ond nid oes prawf gwell na gweld sut y maent yn perfformio yn ystod digwyddiad glawiad sylweddol.
Gan gymryd Storm Christoph fel ein henghraifft ddiweddaraf, cyrchwyd tudalennau FWAA a 5DFR tua 300,000 o weithiau dros gyfnod o bum niwrnod. Aeth bron i 200,000 o ymwelwyr i’r tudalennau RRS dros yr un cyfnod.
Rhagwelwyd y cyfnod hwn o dywydd gan y Swyddfa Dywydd ond roedd ansicrwydd ynghylch ble yn union y byddai'r glaw trymaf yn syrthio’n golygu ei bod yn anodd rhagweld lle byddai afonydd yn ymateb. Ond gwnaethom ein gwaith a chyhoeddi rhybuddion a negeseuon gyda chyflymder a manylder wrth i'r glaw ddechrau syrthio.
Ac roedd nifer y rhybuddion a'r negeseuon a gyhoeddwyd yn sylweddol – cyhoeddwyd 62 o rybuddion llifogydd a 57 o negeseuon llifogydd - byddwch yn barod yn ystod y storom. Yn fwyaf arwyddocaol, wnaethom hefyd gyhoeddi dau rybudd difrifol ar Afon Dyfrdwy, lle welsom y lefelau uchaf erioed ar yr afon.
Cyrhaeddodd cyfanswm y glawiad a welwyd yn ystod prif gyfnod y digwyddiad hwn hyd at 200mm mewn sawl safle ledled Cymru. Mae hynny'n llawer o law ar draws y wlad gyfan. Mae'r ffaith nad ydym wedi gweld effeithiau mwy sylweddol i bobl ac eiddo yn dyst i'n hamddiffynfeydd rhag llifogydd - a lwyddodd yn eu gwaith – ynghyd â'n timau ar lawr gwlad a'n galluoedd rhagweld a rhybuddio.
Mae'r rhain yn wasanaethau a all wneud y gwahaniaeth rhwng bywyd neu farwolaeth ar adegau fel hyn, ac mae'r gwaith a wnawn o ddydd i ddydd i sicrhau bod ein systemau a'n gwasanaethau'n perfformio'n effeithlon yn hanfodol.
Perfformiodd y gwasanaethau newydd yn effeithiol, gan ymdopi â'r galw enfawr a darparodd ddata clir, hygyrch a manwl i berchnogion tai, busnesau a chymunedau cyn y storm ac yn ystod y storm.
Roedd ein gwefan hefyd yn swyddogaeth bwysig i bobl a oedd yn chwilio am wybodaeth am lefelau afonydd a rhybuddion yn eu hardaloedd. Edrychwyd ar y tudalennau rhybuddio a hysbysu dros 130,000 o weithiau dros gyfnod y digwyddiad gan danlinellu'r pwysigrwydd y mae pobl yn ei roi ar y sianel hon wrth chwilio am wybodaeth glir a chyfredol pan fo'i hangen fwyaf.
Mae twf a llwyddiant parhaus y gwasanaeth hwn yn dyst i'r gwaith partneriaeth rhagorol rhwng ein timau Rheoli Perygl Llifogydd, TGCh, cyfathrebu a digidol.
Yn wir, nid allwn wadu’r ffaith bod ein hinsawdd yn newid ac y byddwn yn profi tywydd mwy eithafol, stormydd amlach, mwy o law a mwy o berygl llifogydd dros y blynyddoedd nesaf. Mae hyn yn golygu y bydd angen i bob un ohonom newid ac addasu i wneud ein hunain mor wydn â phosibl yn erbyn yr effeithiau.
Bydd CNC yn parhau i chwarae ei ran drwy weithio gyda phartneriaid i baratoi ar gyfer tywydd eithafol, drwy roi rhybuddion llifogydd, defnyddio amddiffynfeydd rhag llifogydd dros dro a chau rhwystrau llifogydd lle bo angen. Ond mae angen i bobl a chymunedau chwarae eu rhannau hefyd drwy barhau i fod yn wyliadwrus, drwy wybod beth yw eu perygl o lifogydd a thrwy ymuno â'n gwasanaeth rhybuddion llifogydd am ddim.
Mae'n galonogol iawn gweld pobl ledled Cymru yn mynd ati eu hunain i gyrchu gwasanaethau rhybuddion llifogydd er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf wrth iddynt baratoi ar gyfer llifogydd posibl.
Rydym ni yn CNC yn parhau i fod yn ymrwymedig i wella ein gwasanaethau'n barhaus ac i weithio gyda phartneriaid i gefnogi cymunedau wrth i ni fynd i'r afael â'r heriau sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd gyda'n gilydd.
Gellir cael mynediad i'r gwasanaethau digidol yma