Rhywogaethau anfrodorol ymledol morol: Yr Ewin Mochyn yng Ngogledd Cymru

Mae gennym ddiddordeb yn eich gweld o'r rhywogaeth hon yng Ngogledd Cymru a Bae Aberteifi i'n helpu i fonitro lledaeniad ewin mochyn a gweithio allan sut y cyrhaeddodd Gogledd Cymru. Mae gennym ddiddordeb mewn cofnodion o ewin mochyn byw a chregyn gwag. Mae'n bwysig cofnodi INNS fel y gallwn fonitro'r gyfradd y maent yn ymledu o amgylch arfordir Cymru a datblygu mesurau bioddiogelwch effeithiol.

Rhowch wybod os welwch nhw gyda llun gan ddefnyddio'r ap iRecord, neu iRecord ar-lein neu gyda'r ap dwyieithog LERC Cymru. Mae'r ddau yn rhad ac am ddim i'w lawrlwytho ar ffonau symudol.

Y peth gorau yw edrych am y rhywogaeth hon ar lanw isel, felly gwiriwch amseroedd y llanw cyn mynd allan. Os dewch chi o hyd i ewin mochyn yna tynnwch lun ohono, ond peidiwch â'i symud.

Rhywogaethau anfrodorol ymledol (INNS)

Mae rhywogaethau anfrodorol ymledol (INNS) yn blanhigion ac anifeiliaid nad ydyn nhw'n byw yn naturiol mewn ardal ond sydd wedi cael eu symud yno, fel arfer gan weithgareddau dynol. Gallant achosi difrod sylweddol a gallant effeithio ar sut mae'r ecosystem yn gweithredu. INNS yw un o achosion mwyaf arwyddocaol colli cynefinoedd a bygythiadau i fioamrywiaeth. Gallant drechu rhywogaethau brodorol, cyflwyno afiechydon ac amcangyfrifir eu bod yn costio oddeutu £ 1.7 biliwn y flwyddyn i economi Prydain.

Rydym yn pryderu am ledaeniad yr ewin mochyn (Crepidula fornicata) i ogledd Cymru, sy'n INNS morol. Mae'n dod yn wreiddiol o America ac fe'i cyflwynwyd i'r DU yn ddamweiniol yn y 19eg Ganrif. Mae wedi bod yn ymledu o amgylch yr arfordir yn araf. Darganfyddwch fwy am y rhywogaeth a sut i'w hadnabod.

Effeithiau ewin mochyn

Gall ewin mochyn ffurfio cytrefi trwchus. Maent yn cystadlu am ofod ac yn mygu rhywogaethau brodorol a gallant newid y cynefin. Gall ewin mochyn fod â chost economaidd i ffermio pysgod cregyn, fel wystrys a chregyn gleision, oherwydd y glanhau ychwanegol sydd ei angen. Gellir lleihau gwerth y cynnyrch a gall pla arwain at gyfyngiadau ar symud stoc. Mwy o fanylion ar yr effeithiau amrywiol yma.

Y symud i Ogledd Cymru

Mae ewin mochyn eisoes yn gyffredin mewn rhannau eraill o'r DU, gan gynnwys de Cymru a Sir Benfro. Fodd bynnag, ni welwyd unrhyw weldiadau ym Mae Aberteifi yn flaenorol. Hyd yn ddiweddar nid oedd poblogaeth sefydledig yng Ngogledd Cymru. Yn ystod 2020, gwnaed cofnodion yn y Fenai a de-ddwyrain Ynys Môn. Nid yw'n glir sut y cyrhaeddodd y rhywogaeth yma.

Sut olwg sydd ar ewin mochyn?

Mae ewin mochyn yn nodedig iawn. Mae ganddyn nhw gragen cromennog ac maen nhw siâp hirgrwn neu arennau. Maent fel arfer hyd at 5 cm o hyd, ond gallant fod ychydig yn fwy. Mae gan gregyn agoriad neu agorfa fawr ar y silff wastad waelod a mewnol sydd tua hanner hyd y gragen - mae hyn yn golygu bod ochr isaf y gragen yn debyg i ewin mochyn. Mae wyneb allanol y gragen yn welw, gyda llinellau twf afreolaidd a chlytiau brown / oren.

Fe'u canfyddir yn aml yn tyfu ar ben ei gilydd gan ffurfio pentyrrau o hyd at 15 plisgyn, sy'n fwy tuag at y sylfaen. Ar waelod y pentwr, mae'r ewin mochyn mwyaf ac hynaf yn fenywod, gyda'r gwrywod llai ac iau ar ei ben. Fodd bynnag, os bydd y fenyw yn marw, bydd y gwryw mwyaf yn troi'n fenyw.

Mae ewin mochyn yn glynu wrth arwynebau solet, neu wrthrychau bach fel cerrig neu gregyn ar waddod, mewn dyfroedd bas arfordirol. Weithiau gellir eu canfod ar y lan pan fydd y llanw'n isel ac allan yn llawn. Gellir golchi cregyn gwag ar draethau. Dyma fideo ar sut i adnabod ewin moch. 

Topen o ewin moch, llun gan Duncan Dumbeck

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru