Project Ecostrwythur y Môr

Mae ein partneriaid yn y prosiect Ecostrwythur yn dweud wrthym am eu gwaith gyda strwythuron sydd yn gwella bioamrywiaeth yn yr amgylchedd morol.

Mae'r prosiect ecostwythur yn ran o wiath y datganiad ardal morol.

Rydym yn grŵp o wyddonwyr a pheirianwyr morol sydd wedi bod yn gweithio ar atebion yn seiliedig ar natur yn y DU ac Iwerddon ers dros ddeng mlynedd. Mae atebion sy'n seiliedig ar natur yn gamau sy'n amddiffyn, yn rheoli'n gynaliadwy, ac yn adfer ecosystemau naturiol neu rai wedi'u haddasu. Maent yn mynd i'r afael â heriau cymdeithasol mewn ffordd addasol tra hefyd yn darparu llesiant i bobl a buddion o ran bioamrywiaeth.

Rydym yn angerddol am yr amgylchedd morol a'n nod yw darparu tystiolaeth a chyngor arbenigol i sicrhau ei fod yn cael ei warchod a'i reoli'n gynaliadwy. Yn benodol, rydym yn astudio a ellir defnyddio atebion ar sail natur i wella gwerth ecolegol strwythurau artiffisial a adeiladwyd yn y môr, a sut y gellir gwneud hynny. Mae'n ddull a elwir yn eco-beirianneg.

Dangosodd dros ddegawd o ymchwil yng Nghymru y gall ymyriadau eco-beirianneg syml a rhad gynhyrchu llawer o fuddion bioamrywiaeth os ydynt yn cael eu hadeiladu i mewn i strwythurau artiffisial. Er enghraifft, gall creu pyllau creigiau artiffisial ar forgloddiau neu forwaliau ddarparu ardaloedd meithrin a lloches gwerthfawr i rywogaethau morol ac mae'n galluogi strwythurau i weithredu'n debycach i gynefinoedd naturiol.

Mae hefyd wedi dangos y gall defnyddio deunyddiau adeiladu amgen arwain at fuddion amgylcheddol ehangach. Er enghraifft, gall defnyddio deunyddiau naturiol neu ddeunyddiau wedi’u hailgylchu yn lle sment traddodiadol ac agregau leihau ôl troed carbon concrit. Gall hyn hefyd olygu bod yr arwyneb yn fwy ffafriol ar gyfer bywyd morol. Datgelodd yr ymchwil hefyd gefnogaeth gref gan y cyhoedd a rhanddeiliaid i eco-beirianneg yng Nghymru a thu hwnt.

Yn rhedeg o 2017 hyd ddiwedd 2022, mae'r prosiect Ecostrwythur yn adeiladu ar y gwaith cynharach hwn. Mae'n waith cydweithredol rhwng prifysgolion yng Nghymru ac Iwerddon, gan weithio gyda chymunedau lleol, cyrff cyhoeddus a diwydiant. Mae'n symud i ddeall a mynd i'r afael â'r rhwystrau i ddefnyddio atebion ar sail natur mewn datblygiadau morol o amgylch Môr Iwerddon.

Nod y prosiect yw codi ymwybyddiaeth o atebion eco-beirianneg a chryfhau'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer gweld sut mae gwahanol ymyriadau yn gweithio. Mae hefyd yn anelu at roi'r offer angenrheidiol i ddatblygwyr a rheoleiddwyr i roi’r ymyriadau hyn ar waith.

Hyd yn hyn, mae'r prosiect wedi mapio a nodweddu'r holl strwythurau artiffisial ar hyd morlin Cymru, gyda chyfanswm o 3405 o strwythurau artiffisial a 1260 o amddiffynfeydd llifogydd arfordirol. Pe baent yn cael eu rhoi at ei gilydd, byddai'r rhain yn cyfateb i 495km o arfordir Cymru.

Trwy gymharu strwythurau artiffisial â glannau creigiog naturiol, mae ein hymchwilwyr yn datblygu offer i ragfynegi'r amrywiaeth o rywogaethau morol sy'n debygol o gytrefu strwythurau newydd. Maent hefyd yn rhagweld y buddion y byddant yn eu darparu a'r risgiau y byddant yn cefnogi rhywogaethau goresgynnol.

Rydym wedi bod yn profi dyluniadau eco-beirianneg sydd eisoes yn bodoli, fel pyllau creigiau wedi’u drilio, pyllau creigiau wedi’u bolltio, canopïau gwymon artiffisial a theils waliau â rhigolau, i weld pa mor effeithiol ydyn nhw ar gyfer strwythurau ym Môr Iwerddon. Rydym hefyd wedi datblygu a phrofi dyluniadau eco-beirianneg newydd, gan gynnwys unedau agennauarloesol i ddarparu llochesi ar gyfer pysgod a chrancod ar forgloddiau lle na allent fyw fel arall.

Yn ogystal, rydym wedi arloesi dull newydd o ddylunio unedau eco-beirianneg pwrpasol sy'n dynwared topograffi creigres naturiol, y gellir eu cymhwyso i wahanol strwythurau a senarios safle-benodol. Yn hytrach nag ychwanegu nodweddion cynefin penodol yn unig fel pyllau creigiau ac agennau, gallwn efelychu brithwaith llawn o dopograffi riff ar arwynebau strwythurau artiffisial. Trwy wneud hynny, efallai y byddan nhw mewn gwell sefyllfa i ddarparu'r ystod lawn o amodau golau, tymheredd, lleithder, cerrynt a llethr. Rydym yn gwybod bod yr amodau hyn yn galluogi cymunedau bioamrywiol i ffynnu ar riffiau naturiol.

Bydd tystiolaeth o'r prosiect Ecostrwythur a'r maes eco-beirianneg ehangach ar gael mewn catalog un stop ar wefan Conservation Evidence i randdeiliaid ei defnyddio. Bydd y catalog yn galluogi eraill i ddefnyddio’r camau eco-beirianneg cywir yn y lleoedd a'r cynefinoedd cywir. Nod hyn yw cefnogi mwy o fioamrywiaeth a gwytnwch ecosystem ledled Cymru, ac ar draws y DU ac Iwerddon.

Yn olaf, mae ein modelwyr hydrodynamig wedi cynnal arbrofion mewn tanciau cafnau tonnau gan ymchwilio i fanteision ychwanegu nodweddion garw at forgloddiau. Roeddem eisoes yn gwybod y gall ychwanegu pyllau creigiog wedi’u bolltio neu nodweddion garw eraill at forgloddiau hyrwyddo bioamrywiaeth. Mae'r gwaith newydd hwn yn awgrymu y gallant hefyd wella perfformiad waliau trwy leihau faint o donnau sy'n gorlifo. Gallai hyn fod yn fanteisiol i fioamrywiaeth ac i gymdeithas.

Mae ein hymchwil yn arbennig o bwysig o safbwynt polisi morol. Mae ymdrech gynyddol i ymgorffori atebion sy'n seiliedig ar natur i fanteisio i’r eithaf ar fuddion bioamrywiaeth seilwaith yn yr amgylchedd morol. Mae'n hynod bwysig bod gan reoleiddwyr, datblygwyr, ymgynghoriaethau a'r cyhoedd ddealltwriaeth gadarn o ble a phryd y gallwn ddefnyddio peirianneg ecolegol. Mae hyn oherwydd ôl troed cynyddol y strwythurau hyn.

Fel ymchwilwyr, rydym wedi ymrwymo'n bersonol i sicrhau bod gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau y dystiolaeth fwyaf cadarn i sicrhau bod y canlyniadau eco-beirianneg arfaethedig yn cael eu cyflawni'n effeithiol.

Ariennir ecostrwythur yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) trwy Raglen Gydweithredu Tiriogaethol Iwerddon Cymru 2014-2020. I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, ewch i wefan y prosiect Ecostrwythur.

Mae ein partneriaeth gyda'r prosiect Ecostrwythur yn rhan o'n gwaith datganiad ardal morol. 

EU funds logo for Ireland and Wales Programme 2014-2020. Logo rhaglen cyllido Cymru ac Iwerddon 2014 - 2020 Logo for cofunding from Irish Government and European Union. Logo gydcyllido Llywodraeth Iwerddon a'r Undeb Ewropeaidd  Logo for Welsh Government and ERDF Funding. Logo cyllido Llywodraeth Cymru a CDRE

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru