Mwy o amser i'n corsydd!
Mae Prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE wedi'i ymestyn tan fis Mawrth 2023 gan gronfa LIFE yr UE. Roedd y prosiect i fod i orffen ym mis Awst 2021.
Patrick Green yw Rheolwr y prosiect ac mae wedi bod gyda’r prosiect ers blwyddyn yr haf hwn. Yma mae’n egluro beth fydd yr estyniad yn ei olygu i’r prosiect a beth mae ‘diwrnod yn y swyddfa’ yn ei olygu iddo, ei uchafbwyntiau a’i heriau hyd yn hyn a’i ddisgwyliadau ar gyfer y dyfodol.
Newyddion da wrth i'r prosiect gael ei ymestyn
Mae'r estyniad diweddar yn newyddion gwych i'n prosiect. Bydd yn caniatáu inni fanteisio ar y gwaith gwych a gyflawnwyd hyd yma wrth sefydlu'r tîm, cychwyn contract monitro mawr, prynu a defnyddio ein peiriant cynaeafu gwair, ymgysylltu â chymunedau lleol a sicrhau cytundeb ar gyfer gwerth £2 filiwn o waith tir.
Ar ôl ymuno â’r tîm ym mis Gorffennaf 2019, gallwn weld y byddai angen i ni ofyn am estyniad o gronfa LIFE yr UE, gan fod y prosiect wedi wynebu oedi annisgwyl wrth ddechrau rhywfaint o’r gwaith adfer.
Diolch byth, cytunodd ein Bwrdd Prosiect a chronfa LIFE yr UE. Mae'r cynllun gwaith ar gyfer y prosiect wedi'i aildrefnu a'i wella, ac mae'r prosiect mewn sefyllfa well o lawer i gyflawni ei amcanion, sy'n aros yr un fath.
Gwaith arloesol yn digwydd
Rydym yn defnyddio rhai dulliau eithaf arloesol ar raddfa nas gwelwyd yng Nghymru o'r blaen. Er enghraifft, byddwn yn adeiladu dros 60 km (60,000 metr) o fyndiau mawn isel (tua 25 cm o uchder), ar ein safleoedd, graddfa na wnaed o'r blaen gydag unrhyw brosiect mawndir.
Rydym hefyd yn defnyddio'r peiriant cynaeafu gwair ar draws amrywiaeth eang o safleoedd ac amodau, oherwydd er gwaethaf ei bwysau bydd yn arnofio ar rannau gwlyb iawn o'r cyforgorsydd ac yn caniatáu inni gael mynediad i rannau o'r safleoedd na chafwyd mynediad iddynt o'r blaen.
Rydym yn gobeithio dangos sut y gallwn sicrhau nifer o fuddion, i fywyd gwyllt, i blanhigion, i storio carbon a mwy, trwy adfer y safleoedd gwych hyn i gyflwr gwell.
Diwrnod arferol yn y swyddfa
Gall fy niwrnod amrywio'n aruthrol gydag un diwrnod yn cynnwys ymweld â safleoedd i edrych ar weithrediadau neu fonitro gweithgaredd gyda'r swyddogion prosiect, i drafodaeth ar sut rydym yn parhau â'n hymgais i ymgysylltu â'n cynulleidfa ar gyfryngau cymdeithasol a thu hwnt!
Rydym yn treulio llawer o amser ac ymdrech yn cynllunio digwyddiadau ac arwyddion ac yn gweithio gyda'r cyfryngau er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r prosiect a pha mor bwysig ydyw yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
Agwedd arall ar y gwaith yw cadw trefn ar y cyllid, fel ein bod yn cadw at ein cyllideb ac yn sicrhau bod Bwrdd y Prosiect yn hapus gyda'n cynnydd.
Uchafbwyntiau ac isafbwyntiau adfer mawndir
Mae fy uchafbwyntiau hyd yn hyn yn cynnwys mynd allan ar y safle i weld y gwaith o greu byndiau diweddar yng Nghors Fochno - rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi ger Borth, a gwylio ein peiriant cynaeafu gwair yn torri glaswellt y bwla (molinia) yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron.
Rwyf hefyd yn mwynhau gweld brwdfrydedd a medr ein contractwyr a'n staff; a rhwydweithio yng Nghynhadledd IUCN yn Belfast gyda'r tîm, a thrafod yr hyn rydyn ni wedi'i ddysgu yn ystod y dydd dros beint o Guinness gyda'r nos. Hefyd yn gwahodd Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i’r safle ac yn dangos iddo beth mae'r prosiect yn ei gyflawni a'r etifeddiaeth y gall ei gyflawni.
Y brif her uniongyrchol, wrth gwrs, yw Covid 19 a sut y gallai hynny effeithio ar ein gallu i gyflawni gweithrediadau’r gaeaf hwn a thu hwnt. Ymhlith yr heriau eraill mae tywydd ac argaeledd contractwyr sydd wedi'u hyfforddi'n addas a all gyflawni'r gwaith arbenigol hwn.
Mae gennym raglen waith fawr iawn i'w chwblhau dros yr ychydig flynyddoedd nesaf ac mae'n mynd i fod yn her i'w chwblhau, ond rydyn ni'n dawel hyderus ar hyn o bryd.
Y dyfodol i amgylchedd Cymru a’i mawndiroedd
Rwy'n credu bod Cymru mewn lle gwych i arwain ar adfer a rheoli'r amgylchedd a mawndiroedd yn benodol.
Mae gennym y ddeddfwriaeth angenrheidiol, mae gennym Ddatganiadau Ardal, mae gennym un corff amgylcheddol ac mae Llywodraeth Cymru yn llwyr gefnogi pwysigrwydd atebion naturiol - megis adfer mawndiroedd a phlannu coetir - yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
Bellach mae angen i ni symud o ‘gynllunio’ i ‘weithredu’ ac yn hollbwysig, ei wneud ar raddfa fawr. Gobeithio y gall prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE ddangos faint y gellir ei gyflawni mewn ychydig flynyddoedd gan raglen a ariennir yn iawn a thîm ymroddedig a brwdfrydig.
Bydd prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE , sydd werth £4 miliwn a ariennir gan yr UE, yn adfer saith o gyforgorsydd yng Nghymru; Cors Caron a Chors Fochno yng Ngheredigion a phump arall ledled Cymru.
Mae cyforgorsydd yn cael eu henw oherwydd eu siâp cromennog. Maent yn ardaloedd o fawn sydd wedi cronni dros 12,000 o flynyddoedd a gallant fod mor ddwfn â 12 metr.
Maent yn gartref i blanhigion ac anifeiliaid prin, gan gynnwys gweirlöyn mawr y waun ac andromeda’r gors eiconig.
Bydd eu hadfer yn helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd trwy greu mawn newydd i gloi mwy o garbon a gwella ansawdd dŵr mewn afonydd lleol. Maent hefyd yn lleoedd gwych i ymweld â nhw i fwynhau natur a’r awyr agored.
Nod y prosiect yw adfer hyd at bedair milltir sgwâr o gyforgorsydd - un o gynefinoedd prinnaf a phwysicaf Cymru.
Mae cyllid ar gyfer y prosiect wedi'i roi i CNC o grant rhaglen LIFE yr UE, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Brosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE dilynwch ni ar Facebook @CyforgorsyddCymruWelshRaisedBogs neu Twitter @Welshraisedbog