Bywyd newydd i Gorsydd Crynedig
Fel un o’r ddau brosiect newydd sylweddol gan raglen LIFE yr UE sydd bellach ar y gweill, bydd prosiect Corsydd Crynedig yn gwario ychydig dros £4.5 miliwn dros y pedair blynedd nesaf i adfer Corsydd Crynedig – sy’n dwyn yr enw hwnnw yn sgil y ffaith bod y cynefin mawndir hwn yn crynu o dan eich traed yn llythrennol!
Yma fe gewch ragor o wybodaeth am y cynefinoedd unigryw a phrin hyn.
Beth yw corsydd crynedig?
Cynefinoedd gwlypdir yw corsydd crynedig ble mae amodau perffaith ers miloedd o flynyddoedd i greu mawn.
Wrth i fathau arbennig o fwsogl ddadelfennu dros amser, a gyda’r lefel gywir o ddŵr yn bresennol, yn ogystal â lefelau isel o ocsigen a maethynnau, a ffactorau eraill fel pori i gadw gweiriau a phlanhigion eraill o dan reolaeth, mae amgylchedd delfrydol yn cael ei greu ble gall y mawn hwn gronni.
Mae hanes hir a hynod ddiddorol gan fawn, ond yn yr oes fodern sydd ohoni mae mawn yn arbennig o arwyddocaol am ei fod yn chwarae rhan mor bwysig mewn dal a storio llawer iawn o garbon.
Wrth i gynefinoedd gwlypdir drosi o fod yn llynnoedd rhewlifol i fod yn ffeniau, o fod yn fignenni pontio i fod yn gorsydd crynedig, mae’r tir, er bod modd sefyll arno, mewn difrif yn crynu dan eich traed, sy’n rhywbeth eithaf unigryw a chyfareddol i’w weld ac i’w deimlo!
Mae cynefin cors grynedig iach yn gartref i amrywiaeth eang o blanhigion, mwsoglau a gweiriau, sydd yn eu tro yn cynnig amodau perffaith i rywogaethau prin – o bosib y mwyaf nodedig o’r rhain yw’r corryn Dolomedes plantarius a’r glöyn byw britheg y gors.
Pam maen nhw mor arbennig?
Mae cyfrifoldeb arbennig gan y DU am y cynefinoedd hyn, gyda bron i ddau draean wedi’u lleoli yn ardal fioddaearyddol yr Iwerydd – ac 8% o hynny yng Nghymru.
Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar saith Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) – Cors Crymlyn, Comins Gogledd Orllewin Sir Benfro, Preseli, Rhos Goch, Corsydd Eifionydd, Gweunydd Blaencleddau a Chors Caron.
Mae’r cynefin wedi’i asesu fel un ‘anffafriol’ ym mhob un o’r safleoedd hyn, ac ymysg y prif resymau mae pori helaeth neu bori annigonol; rhoi’r gorau i reoli’r tir; llygredd yr aer o ffynonellau cymysg; llygredd gwasgaredig ac o darddle penodol mewn dŵr wyneb a/neu ddŵr daear; llystyfiant goresgynnol a draenio.
Mae mawndiroedd iach yn arbennig o bwysig o ran dal a storio carbon. Os caiff y cynefinoedd hyn eu difrodi, neu os nad ydynt yn gweithredu fel y dylent, mae’r ardaloedd eang hyn yn rhyddhau carbon a fu’n cael ei storio ers miloedd o flynyddoedd.
Yn ogystal gall corsydd ble nad yw lefelau’r dŵr yn cael eu cynnal yn iawn achosi llifogydd mewn ardaloedd cyfagos. Gall mawndir hefyd ein helpu i ddeall ein hanes. Mae mawn i’w gael mewn ardaloedd ble mae’r amodau’n berffaith ar gyfer arafu dadelfeniad, felly yn aml mae cliwiau i’w cael yma am ein gorffennol.
Maen nhw hefyd yn ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol yn sgil helaethrwydd ac amrywiaeth y llystyfiant a’r bywyd gwyllt sydd i’w cael yno. Yn gryno – mae’n werth eu cadw ac maent yn haeddu cael eu mwynhau!
Beth mae prosiect Corsydd Crynedig yn ei wneud i’w hadfer?
Nod prosiect Corsydd Crynedig yw adfer a chynnal mignenni pontio, corsydd crynedig a’r tirweddau gwlypdir ehangach sy’n eu cynnal i statws cadwraeth ffafriol.
Mae rhai o safleoedd y prosiect yn rhy wlyb i gorsydd crynedig ffynnu, tra bo eraill heb fod yn ddigon gwlyb. Bydd y prosiect yn cynnal arolygon cynhwysfawr ar gyfer y safleoedd er mwyn cael gwell dealltwriaeth o beth sy’n digwydd a pham.
Bydd y prosiect hefyd yn adfer a sicrhau cyfundrefnau pori cynaliadwy priodol – gan godi bron i 50 km o ffensys, yn ogystal â seilwaith arall i wella mynediad i borwyr.
Bydd rhywogaethau anfrodorol goresgynnol hefyd yn cael eu tynnu, a bydd y gweiriau sy’n dominyddu ac sy’n gallu mygu’r cynefin naturiol yn cael eu torri.
Un rhan bwysig o’r prosiect fydd gwella dealltwriaeth a gwerthfawrogiad ymysg y cyhoedd a rheolwyr tir lleol, ffermwyr a rhanddeiliaid o ran pwysigrwydd a gofynion cadwraeth mignenni pontio a chorsydd crynedig.
Mae’n siŵr o fod yn bedair blynedd brysur iawn i brosiect Corsydd Crynedig ond mae’r tîm y tu ôl i’r prosiect yn awyddus i fwrw iddi ac adfer y cynefinoedd arbennig a gwerthfawr hyn i fod yn iach, i ffynnu ac i gynnal bioamrywiaeth!
Dilynwch y prosiect ar y cyfryngau cymdeithasol: Facebook a Twitter drwy chwilio am CorsyddCrynedigLIFE