Miri Mes yn helpu grwpiau i ddysgu yn, am ac ar gyfer yr amgylchedd naturiol
Fel arfer ar yr adeg hon o’r flwyddyn, bydden ni’n annog grwpiau addysgol i fynd allan i gasglu mes ar ein rhan ar gyfer ymgyrch Miri Mes. Oherwydd yr amgylchiadau presennol, nid yw’n bosib i ni gynnal yr ymgyrch eleni. Dyma Aled Hopkin, Ymgynghorydd Arbenigol: Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes, i esbonio mwy am y prosiect ac i edrych ar rai o’r llwyddiannau hyd yn hyn.
Cynhaliwyd yr ymgyrch Miri Mes genedlaethol gyntaf yn 2017. Roedd hi’n flwyddyn dda ar gyfer mes, a chasglwyd ychydig dros dunnell fetrig o 76 lleoliad ledled Cymru. Aeth yr ymgyrch o nerth i nerth ers hynny wrth i ddiddordeb ac ymwybyddiaeth gynyddu, ac wrth i grwpiau amrywiol, yn ysgolion, meithrinfeydd, Brownies a Ffermwyr Ifanc, gymryd rhan.
Bob hydref, rydyn ni wedi bod yn gofyn i ddisgyblion o bob cwr o Gymru sicrhau bod gennym gyflenwadau digonol o goed derw brodorol, lleol, drwy fynd allan i gasglu mes yn eu hardal leol. Dyma ffordd wych o addysgu plant a phobl ifanc yn yr amgylchedd naturiol, amdano a throsto, a rhoi cyfle i godi arian ar gyfer eu lleoliad ar yr un pryd.
Felly sut mae’n gweithio? Wedi iddyn nhw fynd i hel y mes, bydd grwpiau sy’n cymryd rhan yn eu gadael yn eu swyddfa CNC agosaf. Cânt eu hanfon at Feithrinfeydd Oakmere yn Swydd Gaer (rhan o Gyflenwad Planhigion a Hadau Forestry England), ar gyfer eu graddio, eu pwyso a’u plannu. Byddwn ni wedyn yn gwobrwyo’r grŵp addysgol gan dalu am eu hymdrechion, yn seiliedig ar sawl mesen a gasglwyd a pha mor dda oedd eu hansawdd.
Pan fydd y mes wedi tyfu i fod yn goed bach ond gwydn, cânt eu cymryd o’r feithrinfa goed rhwng mis Hydref ac Ebrill, a’u plannu’n ôl yn yr ardal ble daeth y mes ohoni’n wreiddiol.
Gyda’r newid parhaus yn yr hinsawdd, mae coed derw Cymru’n wynebu brwydr yn erbyn plâu a chlefydau. Bydd gan goed a dyfir o hadau lleol gyfradd tyfiant uwch, a mwy o allu i wrthsefyll a goroesi clefydau nag sydd gan goed a dyfir ymhellach i ffwrdd a’u mewnforio.
Drwy gael grwpiau addysgol o bob cwr o Gymru’n cymryd rhan yn ein hymgyrch Miri Mes, byddwn ni’n derbyn mes a gasglwyd o sawl lleoliad amrywiol, sy’n ein helpu i gynyddu a chryfhau pwll genetig ein coed derw Cymreig.
Daeth y deri Miri Mes cyntaf, a dyfwyd o fes a gasglwyd yn 2017, yn ôl i Gymru a’u plannu gan rai o’r disgyblion a helpodd i hel y mes, ar gyrion Rhuthun yn Sir Ddinbych yn 2019.
Yn 2019, fe wnaethon ni dderbyn 166 sach o fes oddi wrth 44 grŵp addysgol ledled Cymru. Casglwyd 1,083.45 kg o fes mewn chwe wythnos o 87 lleoliad – dyna ryw 3.2 miliwn o fes, yn fras, digon i blannu coed derw ar dir sy’n gyfwerth â 232 cae pêl-droed!
Bwriad CNC yw plannu dros 870,000 o goed llydanddail bob blwyddyn; bydd 300,000 ohonynt yn dderi o Gymru. Mae Miri Mes yn chwarae rhan fawr wrth ein helpu i gyflawni hynny. Rydyn ni’n ddiolchgar i bob ysgol a grŵp addysgol sydd wedi cymryd ran hyd yn hyn, ac edrychwn ymlaen at roi hwb i’r ymgyrch unwaith eto hydref nesaf os bydd yr amgylchiadau’n caniatáu hynny.
Yn y cyfamser, mae gennym ddigonedd o weithgareddau ac adnoddau addysgol am fes a deri ar ein gwefan. Ewch i’n tudalen we Coed a Choetiroedd.