Rhowch hwb i'ch gyrfa ym maes coedwigaeth gyda chyfle am leoliad gyda ni

Yn gynharach y mis hwn, cawsom sgwrs gyda dau o'n myfyrwyr lleoliad coedwigaeth, Jack Richardson a Lamorna Richards (hyperlink) a ymunodd â #TîmCyfoeth fis Medi y llynedd, fel rhan o flwyddyn ar leoliad â thâl gyda'n timau coedwigaeth a rheoli tir.

Yn yr ail ran hon o'n blog ar leoliadau, cawn sgwrs ag Emyr Parker a Fraser Gilchrist, a lwyddodd hefyd i sicrhau lleoliadau gyda ni o Brifysgol Bangor a Phrifysgol yr Ucheldiroedd a'r Ynysoedd, i ddarganfod sut fath o brofiad maen nhw wedi’i gael ar eu lleoliad hyd yma:

Emyr Parker

"Rwy’ wedi bod yn gweithio fel aelod o’r tîm gweithrediadau coedwigaeth ar leoliad addysg uwch gyda CNC ers rhai misoedd bellach. Mae wedi bod yn brofiad hynod o foddhaol; rwy’ wedi cael fy nghynnwys mewn trafodaethau wythnosol ar ddigwyddiadau cyfredol a chynlluniau at y dyfodol ar draws ardal y Canolbarth a’r Gogledd, ac mae fy nhîm wedi cymryd pob cyfle i fy nghynnwys. Ers dechrau fy lleoliad, rwy’ wedi bod yn cysgodi aelodau o fy nhîm mewn ystod o weithrediadau parhaus, yn amrywio o gynaeafu i sefydlu coed. Nawr, ychydig fisoedd yn ddiweddarach, rwy'n gallu ymgymryd â mwy o gyfrifoldebau yn annibynnol.

Mae wedi bod yn brofiad anhygoel gweld gweithrediadau cynaeafu a chasglu fy hun, ac rwy’ wedi adeiladu ar y wybodaeth a ddysgais yn ystod fy astudiaethau ym Mhrifysgol Bangor. Mae'r profiadau hyn wedi rhoi canolbwynt i fy astudiaethau ac i fy ngyrfa at y dyfodol. Mae mynd allan ar fy mhen fy hun a goruchwylio safleoedd paratoi tir a phlannu wedi rhoi hwb mawr i fy hyder, ac mae'r profiad ymarferol wedi gwneud fy astudiaethau coedwigaeth gymaint yn fwy real. Rwy’n llwyr argymell lleoliad gyda CNC. Peidiwch â cholli allan ar y cyfle."

Fraser Gilchrist

"Ar fy lleoliad yn y tîm Gweithrediadau Coedwigaeth, rwy'n dysgu llawer mwy am agweddau ar fusnes coedwigaeth nag yr oeddwn wedi'i ystyried neu ei werthfawrogi, gan gynnwys mesurau cydymffurfio. Fel arfer, o ddydd i ddydd, rwy’ wedi bod ar safleoedd yn cael gweld gwahanol weithrediadau, cynaeafu a phlannu coed yn bennaf, ac wedi meithrin dealltwriaeth well o'r holl broses a'r camau gweithredu angenrheidiol. Mae wedi bod yn ddiddorol cael mwy o wybodaeth am flociau coedwigoedd, a chael syniad o'r broses gynllunio a’r ystyriaethau angenrheidiol er mwyn gweithio tuag at amcanion penodol. Rwy’ hefyd wedi mwynhau teithio o amgylch Cymru a gweithio yn yr awyr agored gyda golygfeydd godidog, a gweld y newidiadau i goedwigoedd nad ydynt efallai’n amlwg wrth ymweld yn unig."

Ydych chi'n meddwl bod gennych chi'r hyn sydd ei angen er mwyn cwblhau lleoliad gyda ni?

Rydym yn falch iawn o allu cynnig lleoliadau â thâl gyda'n timau coedwigaeth a rheoli tir eto ym mis Medi.

Mae pedair swydd ar gael, felly os ydych yn astudio ar gyfer gyrfa ym maes coedwigaeth neu reoli tir ac yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i ymuno â #TîmCyfoeth, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Gallwch ddysgu mwy am y lleoliadau a dod o hyd i’r ffurflen gais ar ein gwefan.


Darllenwch y blog gan ein Huwch-Swyddog Gweithrediadau Coedwigaeth sy'n nodi’r hyn y maen nhw’n chwilio amdano mewn ymgeiswyr a'u cyngor ar ddechrau gyrfa mewn coedwigaeth. 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Ionawr.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y lleoliadau, mae croeso i chi gysylltu: Michael.cresswell@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru