Mae Kate Lock, Swyddog Morol, yn adrodd hanes arbennig Parth Cadwraeth Morol Sgomer, wrth iddo eleni ddathlu 30 mlynedd ers cael ei ddynodi

“Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, ychydig iawn o bobl oedd yn gwybod am y byd tanddwr cudd oddi ar arfordir Sir Benfro. Doedd y rhan fwyaf ddim yn meddwl am fodolaeth y lle.

Eleni, rwy’n falch iawn cael dathlu penblwydd Parth Cadwraeth Morol (PCM) Sgomer yn 30 oed.  Fel yr unig PCM yng Nghymru, mae Sgomer yn safle arbennig iawn sy'n gartref i ystod eang o fywyd morol. Mae wedi bod yn gyfle euraidd i ni gael gwell dealltwriaeth o fywyd tanddwr o amgylch arfordir Cymru er mwyn i ni allu amddiffyn a gwella'r amgylchedd yn ogystal â'r creaduriaid sy'n byw ynddo.

Mae tîm o bedwar gwyddonydd morol CNC yn gweithio yn PCM Sgomer. Maen nhw'n gyfrifol am reoli'r safle a chynnal rhaglen fonitro morol helaeth sydd wedi adeiladu ar yr arolygon biolegol morol a ddechreuwyd yn yr 1980au.

Mae monitro morol yn cynnwys rhywogaethau a chynefinoedd tanddwr a thraeth, mamaliaid morol, eigioneg a meteorolegol yn ogystal â chofnodi defnyddwyr fel ymwelwyr hamdden a gweithgareddau pysgota masnachol  Mae'r gwaith monitro yn darparu setiau data tymor hir sydd, ar gyfer rhai prosiectau, yn ymestyn yn ôl 35 mlynedd. Mae ehangder y gwaith hwn yn golygu ei bod yn cael ei chydnabod fel y rhaglen monitro morol fwyaf cynhwysfawr yn y DU.

Mae PCM Sgomer wedi'i leoli lle mae rhywogaethau gogleddol a deheuol yn gorgyffwrdd. Mae yma amrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt o bob lliw a llun - gan ei wneud yn lle gwych i astudio a monitro newidiadau yn yr amgylchedd morol. Gyda newid yn yr hinsawdd a heriau eraill yn wynebu'r amgylchedd morol, mae'n bwysicach nag erioed bod Sgomer yn parhau i ffynnu fel man dysgu a chadwraeth.

Dyma rai o uchafbwyntiau'r 30 mlynedd diwethaf:

  • Mae astudiaethau rhywogaethau yn amrywio o dros 130 o rywogaethau o sbyngau i forloi llwyd, ac o wlithod môr bach a lliwgar i wyntyllau môr gosgeiddig sy'n tyfu'n araf.
  • Ymwelir â dros 130 o wyntyllau môr a thynnir lluniau ohonynt bob blwyddyn i astudio newidiadau ynddynt. Mae staff wedi cwblhau 2305 o ymweliadau unigol â gwyntyllau môr.
  • Mae saith gwaith cymaint o gregyn bylchog ag oedd yma 30 mlynedd yn ôl, ac maent wedi'u hamddiffyn rhag pob math o bysgota yn y Parth Cadwraeth Morol.
  • Mae gwellt y gamlas, cynefin prin a sensitif sy'n cuddio cyfoeth o fywyd gwyllt, wedi cynyddu o ran arwynebedd a dwysedd.  Mae'n cael ei warchod yn y PCM gan fwiau marcio a thrwy ddarparu angorfeydd ar gyfer cychod sy'n ymweld - mae'n hawdd niweidio gwellt y gamlas os yw angorau'n cael eu llusgo trwyddo.
  • Mae 79 rhywogaeth o  noethdagellogion (gwlithod môr) yn y PCM sy'n cynrychioli 70% o rywogaethau'r DU. Mae gwlithod môr yn ysglyfaethwyr arbenigol sy’n ddewisol iawn o ran bwyd, ac felly maent yn ddangosydd da o iechyd cyffredinol yr ecosystem. 
  • Mae gwyntoedd o dros 110 mya a thonnau dros 13 metr o uchder wedi'u mesur.
  • Mae staff wedi dilyn ffawd mwy na 7430 o forloi bach;
  • Mae deifwyr gwirfoddol, gan weithio gyda CNC, wedi arolygu mwy na 180,040 metr sgwâr o wely'r môr yn edrych ar gregyn bylchog, pysgod, draenogod môr a gwellt y gamlas;
  • Mae mwy na 390,000 o bobl wedi ymweld ag arddangosfa PCM yn Martin’s Haven.
  • Mae mwy na 55,400 o ddeifwyr wedi archwilio'r PCM - naill ai er pleser neu i gyfrannu at yr arolwg a'r gwaith monitro;

Nid oedd ei daith i statws PCM yn un hawdd na chyflym - cychwynnodd yn ôl ym 1971 diolch i grŵp o naturiaethwyr a biolegwyr lleol o'r Cyngor Astudiaethau Maes. Gyda’i gilydd, daethant ag achos Sgomer i gael dynodiad fel gwarchodfa forol i sylw gwahanol grwpiau dylanwadol.

Ar ôl blynyddoedd o waith caled, sefydlwyd Pwyllgor Rheoli Gwarchodfa Forol Sgomer yn sgil ymdrech leol a chenedlaethol. Penderfynodd y dylai Sgomer ddiogelu'r draethlin a darparu "parth tawel" o amgylch cytrefi bridio adar môr o bwysigrwydd rhyngwladol y Warchodfa Natur Genedlaethol. Nodwyd hefyd effeithiau niweidiol posibl pysgota masnachol trwy garthu ar y gwaelod, sydd mor hysbys heddiw.

Daeth ei bwysigrwydd yn fwyfwy amlwg tan yn y pen draw, roedd yn rhaid gwireddu ei gyfraniad posibl at ddiogelu morol.  O'r diwedd fe'i dynodwyd yn Warchodfa Natur Forol yn 1990 ac yna newidiodd ei enw i fod yn ‘Barth Cadwraeth Morol’ yn 2014

Erbyn hyn, mae PCM Sgomer wedi gweithio gydag ystod eang o randdeiliaid o'r sectorau academaidd, masnachol a hamdden i gyflawni'r canlyniad gorau i fywyd gwyllt y môr. I lawer ohonynt, mae’n fater o barhau â’r gwaith a ddechreuwyd ganddynt ddegawdau ynghynt i ennill cydnabyddiaeth i'r ardal. 

Mae eraill wedi ymuno yn fwy diweddar ac, yn achos ein gwirfoddolwyr niferus, mae eu cyfraniad hyd yn oed yn fwy personol gan eu bod wedi ein helpu i gyflawni rhaglen fonitro a rheoli uchelgeisiol.   Mae arnom ddyled fawr i bob un ohonynt a gobeithiwn allu anrhydeddu eu buddsoddiad yn y safle trwy barhau â'r gwaith am flynyddoedd lawer i ddod. 

Heddiw, mae tîm PCM Sgomer yn cynhyrchu adroddiadau tystiolaeth monitro morol CNC ar ei holl brosiectau. Mae'r rhain yn darparu tystiolaeth i gefnogi nid yn unig gwaith rheoli PCM Sgomer ond hefyd i reoli Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol a'r amgylchedd morol yn adroddiadau ‘Cyflwr yr Amgylchedd’ Cymru. 

I weld yr adroddiadau, gallwch ddilyn y ddolen hon neu i ddeall fwy am Sgomer, ewch yma.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru