Diwrnod Rhyngwladol y Coedwigoedd: Cyfraniad Cymru at adfer coedwigoedd
Mae'r dydd Sul hwn (21 Mawrth) yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Coedwigoedd, sef diwrnod sy'n dathlu a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwahanol fathau o goedwigoedd a'r manteision niferus y maent yn eu cynnig.
Mae'r thema eleni yn dathlu 'Adfer coedwigoedd: llwybr at adferiad a lles'. Mae ein coetiroedd yng Nghymru yn chwarae rhan hanfodol yn ein hamgylchedd a'n cymunedau, ac mae pandemig Covid wedi amlygu eu rôl adferol wrth gefnogi iechyd meddwl a chorfforol yn ogystal â lles. Ni fu erioed amser pwysicach i ofalu amdanynt a sicrhau eu bod yn cael eu rheoli'n gynaliadwy i gynorthwyo Adferiad Gwyrdd Cymru ac ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur rydym yn eu hwynebu.
I nodi'r achlysur, dyma Greg Jones, Abi Beath a Melanie Meaden o dimau coedwigaeth a bioamrywiaeth #TîmCyfoeth yn dweud wrthym am rywfaint o'r gwaith sy'n gysylltiedig â rheoli, adfer a gofalu am ein coetiroedd.
Coetiroedd yng Nghymru
Yng Nghymru, mae gennym gymysgedd amrywiol o goetiroedd gan gynnwys coedwigoedd conwydd, coetiroedd hynafol a choed pori. Rheolir y rhain i sicrhau ystod eang o fanteision – gan gynnwys ein helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd drwy ddal carbon, darparu cynefinoedd gwerthfawr i blanhigion a bywyd gwyllt, darparu mannau hamdden awyr agored i bobl eu mwynhau, cynhyrchu cyflenwad o bren a chefnogi cyflogaeth a bywoliaeth yng nghefn gwlad. Darperir rhagor o wybodaeth yn ein Hadroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol.
Yn CNC rydym yn gyfrifol am reoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru (YGLlC) (tua 123,000 hectar), a rhaid i ni sicrhau bod y coetiroedd hyn yn cael eu rheoli'n gynaliadwy fel eu bod yn cael eu cynnal a'u hadfer ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Yn y canolbarth, rydym yn rheoli'r ardal fwyaf o goedwig gynhyrchiol yng Nghymru, sy’n darparu 380,000 metr ciwbig o bren bob blwyddyn i ddiwydiant prosesu coed Cymru (sef bron i 40% o'r pren sy'n tarddu o YGLlC).
Adfer ac ailstocio
Mae rheoli YGLlC yn gofyn am gwympo ac ailstocio (plannu gyda hadau coed newydd) er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i fod yn goetir ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae rheoli YGLlC yn gofyn am gydbwyso gofalus ac mae nifer o heriau sy'n ein hwynebu.
Un o'r heriau hyn yw mynd i'r afael â phlâu a chlefydau, fel clefyd coed ynn a chlefyd llarwydd. Mae clefyd llarwydd yn arbennig wedi heintio tua 6.7 miliwn o goed llarwydd ledled Cymru ac wedi cael effaith ddramatig ar ein coetiroedd.
Mae cwympo coed i gael gwared ar goed heintiedig wedi cael effaith ar olwg, tirwedd ac amwynderau coetiroedd ond mae wedi creu cyfleoedd cadarnhaol ar gyfer adfer ac ailstrwythuro. Mae wedi caniatáu inni ailstocio coetiroedd gyda chymysgedd ehangach o rywogaethau i wella eu gwydnwch yn erbyn plâu a chlefydau a newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol. Y llynedd, gwnaethom ailstocio 1,700 hectar o goetiroedd ledled Cymru, ac roedd cyfran ohonynt yn rhan o'r broses adfer ar ôl clirio coed heintiedig.
Rydym hefyd yn gweithio i adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS). Mae PAWS yn hen goetiroedd lled-naturiol hynafol sydd wedi'u hailblannu'n rhannol neu'n gyfan gwbl â rhywogaethau brodorol neu anfrodorol. Yr her yw adfer y coetiroedd hyn i gyflwr mwy naturiol, gan gael gwared ar goed conwydd yn raddol a’u hadfer yn ardaloedd o goed llydanddail brodorol. Mae ein gwaith yng Nghoed Gwent, ger Casnewydd, yn enghraifft dda o hyn.
Creu amgylchedd mwy gwydn i genedlaethau'r dyfodol
Drwy reoli ac adfer ein coetiroedd, rydym yn gwella gwydnwch ein hamgylchedd, ond rydym hefyd yn cyfrannu at wydnwch pobl a chymunedau Cymru. Mae coetiroedd yn lleoliadau gwych ar gyfer chwarae, addysg a dysgu, gweithgareddau awyr agored, gweithgareddau cymunedol a mentergarwch yn ogystal â lleoedd i ymarfer celf, ymlacio a'n cysylltu â'n tirwedd a'n treftadaeth. Mae treulio amser yn yr awyr agored, mewn coetiroedd, yn gallu cael effeithiau adferol ar iechyd a lles pobl, sy'n helpu i greu cymdeithas iachach a hapusach. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith i ailgysylltu pobl a lleoedd ar ein gwefan.
Dysgwch fwy am Ddiwrnod Rhyngwladol y Coedwigoedd ar wefan y Cenhedloedd Unedig