Sut y gall prentisiaeth neu leoliad eich helpu i lunio gyrfa mewn coedwigaeth

Mae ymgymryd â phrentisiaeth neu leoliad rhyngosod wrth astudio yn hynod fuddiol. Bydd yn eich helpu i ennill profiad gwerthfawr a'ch paratoi ar gyfer eich llwybr gyrfa dewisol. Yn #TîmCyfoeth bu i lawer o'n staff talentog ac ymroddedig elwa o leoliadau rhyngosod yn ystod eu hastudiaethau eu hunain ac rydym yn awyddus i ddarparu cyfleoedd tebyg i'r genhedlaeth nesaf sy'n dymuno dilyn gyrfa yn yr amgylchedd.

Mae cyfle gwych ar gael ar hyn o bryd gan ein timau Coedwigaeth ac maent yn cynnig pedwar lleoliad â thâl y flwyddyn nesaf i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â lleoliad canol blwyddyn fel rhan o'u gradd mewn coedwigaeth neu reoli tir o sefydliad addysg uwch. Rydym hefyd yn cynnig lleoliadau eraill e.e. prentisiaethau. Cadwch lygad ar ein gwefan am gyfleoedd newydd.

Mae'r lleoliadau'n gyfle gwerthfawr i weithio ochr yn ochr â'n tîm cyfeillgar, ymroddedig a phrofiadol o goedwigwyr ac i feithrin gwybodaeth a phrofiad ymarferol wrth helpu i reoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Yma, mae Michael Cresswell, un o'n Harweinwyr Tîm ac Elaine Harrison, un o’r Uwch Swyddogion yn ein timau Gweithrediadau Coedwigaeth, yn rhannu'r hyn maen nhw'n chwilio amdano mewn darpar ymgeiswyr ac yn rhoi eu cyngor gorau i rywun sy'n ceisio dilyn gyrfa mewn coedwigaeth:

Beth ydym ni'n ei gynnig trwy ein lleoliadau?

Michael Creswell:

Mae CNC yn lle gwych i fyfyrwyr gymryd rhan yn ein gwaith. Rydym yn rheoli 126,000 hectar o goedwigoedd a choetir ar draws Cymru ar ran Llywodraeth Cymru – sef chwech y cant o gyfanswm arwynebedd tir y wlad - a thua 40 y cant o goedwig Cymru. Mae'r lleoliadau rydym ni'n eu cynnig y flwyddyn nesaf i’w cael yn ein timau Rheoli Tir a Gweithrediadau Coedwig, sy'n golygu y bydd gennych chi ran uniongyrchol ym mron pob agwedd ar goedwigaeth a rheoli tir.
Rydym yn teilwra ein lleoliadau gyda phob myfyriwr, yn seiliedig ar eu diddordebau a chynllun traethawd eu blwyddyn olaf. Rydym ni'n wirioneddol awyddus i sicrhau eich bod chi'n ennill cymaint o brofiad ymarferol â phosib tra'ch bod chi gyda ni. Byddwch yn treulio'r rhan fwyaf o'ch amser allan yn rhai o'r lleoliadau prydferthaf sydd gan Gymru i'w cynnig.

Fel trosolwg byr, gallai eich profiad gynnwys yn uniongyrchol, unrhyw un neu'r cyfan o'r canlynol; rheoli atebolrwydd cyfreithiol, rheoli Gwarchodfa Natur Genedlaethol, gwaith cadwraeth, diogelwch coed, cysylltu â'r gymuned a chymdogion, seilwaith hamdden, cynllunio coedwigoedd, gweithrediadau coedwigoedd, plannu a chynnal a chadw coed.

Elaine Harrison:

Rydym ni hefyd yn gobeithio gallu eich cynnwys chi yn ein timau eraill ar draws #TîmCyfoeth e.e. ein tîm peirianneg integredig a rheoli bywyd gwyllt er mwyn i chi gael gwell dealltwriaeth o'u gwaith a sut mae'r cyfan yn cyd-fynd â'i gilydd.

Yr hyn rydyn ni'n chwilio amdano mewn darpar ymgeiswyr:

Michael Cresswell:

Rydym ni'n chwilio am berson llawn cymhelliant sy'n ymgymryd â chymhwyster rheoli tir neu goedwigaeth addysg uwch perthnasol. Rydym ni eisiau rhywun sy'n gallu dangos ei allu i weithio gydag ystod o bobl er mwyn rhoi budd i'n timau a'ch i’ch dysgu.

Elaine Harrison:

Myfyrwyr brwd sydd eisiau ennill rhywfaint o brofiad go iawn yn y sector coedwigaeth. Rydym ni eisiau clywed amdanoch chi a'ch profiadau a sut y byddai hynny'n eich gwneud chi'n ychwanegiad gwych i #TîmCyfoeth, felly cofiwch ei gynnwys yn eich cais - waeth pa mor fawr neu fach. Ceisiwch feddwl am enghreifftiau perthnasol o'ch astudiaethau a sut y gallai hynny fod yn berthnasol i'r hyn rydym ni’n ei wneud.

Y cyngor gorau i rywun sydd am ddilyn gyrfa mewn coedwigaeth:

Michael Creswell:

Mae coedwigaeth yn yrfa wych, gydag ystod amrywiol iawn o opsiynau. Nid oes un llwybr clir y dylai pawb ei ddilyn, felly ystyriwch beth sy'n gweithio orau i chi. Gallai hyn fod trwy ddilyn y llwybr ymarferol, prentisiaethau, ymgymryd â gradd neu hyd yn oed radd meistr trwy ddysgu o bell, os byddwch yn newid gyrfaoedd yn ddiweddarach mewn bywyd. Os ydych yn ansicr, estynnwch allan a siaradwch â rhywun yn y sector all roi mwy o fanylion a chyngor i chi mewn perthynas â'ch amgylchiadau.

Elaine Harrison:

Os ydych chi am gael gwybod mwy am yrfa mewn coedwigaeth, cysylltwch â ni, ewch i ddigwyddiadau hyfforddi a cheisiwch ennill rhywfaint o brofiad. Mae pob diwrnod yn wahanol, gallwn roi profiadau i chi all eich gosod mewn sefyllfa wych i ddechrau eich gyrfa goedwigaeth!

Ydych chi'n meddwl bod gennych chi'r hyn sydd ei angen i ymuno â #TîmCyfoeth?

Os ydych chi'n astudio ar gyfer gyrfa mewn coedwigaeth neu reoli tir ac yn meddwl bod gennych chi'r hyn sydd ei angen i ymuno â'n timau coedwigaeth gwych, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.

Gallwch ddarganfod mwy am y lleoliadau a gweld y ffurflen gais ar ein gwefan.

Mae'r ceisiadau'n cau ar Ionawr 31.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y lleoliadau, cysylltwch â: Michael.cresswell@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru