Ydych chi erioed wedi ystyried sut y gallech chi fod yn achosi llygredd?
Llygredd - mae'n air budr ond a oeddech chi'n gwybod y gallech chi fod, yn ddiarwybod i chi, yn achosi i ddŵr budr fynd i mewn i'n hafonydd a'n nentydd trwy gamgysylltiadau yn eich cartref neu fusnes?
Yma mae Luke Burton, Swyddog Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru, yn esbonio sut mae wedi bod yn mynd i'r afael â chamgysylltiadau yn Ne Cymru.
Mae gan y mwyafrif o adeiladau a godwyd ar ôl 1920 ddwy garthffos ar wahân: Mae'r garthffos fudr yn mynd â dŵr gwastraff - dŵr budr - o doiledau, ystafelloedd ymolchi, ceginau ac elifiant masnach busnes i waith carthffosiaeth i'w drin tra bod y garthffos ddŵr wyneb yn mynd â dŵr glaw - dŵr glân - o'r to a'i anfon i afonydd a thraethau.
Os oes gan eich cartref neu fusnes bibellau dŵr gwastraff wedi'u cysylltu â charthffos dŵr wyneb a fwriadwyd ar gyfer dŵr glaw yn unig, bydd yn achosi llygredd mewn afonydd a thraethau.
Gelwir hyn yn gamgysylltiad.
Mae'r dŵr budr o gawodydd, toiledau, sinciau, peiriannau golchi a phrosesau busnes yn cynnwys cymysgedd annymunol gan gynnwys ysgarthion, wrin, papur, gwastraff bwyd a chemegau, pan fydd camgysylltiadau bydd y dŵr budr hwn yn mynd i'n cyrsiau dŵr gan achosi llygredd ac arogleuon annymunol a niweidio planhigion a bywyd gwyllt.
Gall effeithiau camgysylltiadau unigol fod yn fach ond gyda'i gilydd mae camgysylltiadau yn cael effaith sylweddol ar ansawdd dŵr.
Mae pawb yn haeddu ansawdd dŵr da ble bynnag maen nhw'n byw, sy'n cyfrannu at well lles meddyliol a chorfforol ond mae camgysylltiadau yn niweidio ansawdd dŵr ac yn ein hatal rhag mwynhau'r amgylchedd naturiol.
Fel rhan o waith CNC i leihau’r risg i bobl a chymunedau o beryglon amgylcheddol megis llygredd oherwydd camgysylltiadau, dwi wedi bod yn gweithio gyda Dŵr Cymru ac Adran Iechyd Amgylcheddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i leoli ac atal camgysylltiadau ym Mharc Watford a chyffiniau Caerffili.
Yma mae dŵr budr o gartrefi yn llifo heb ei drin i lyn Castle View ac yn ei lygru.
Mae'n debygol bod mwy nag un eiddo yn cyfrannu at y llygredd sydd, o'i gyfuno, yn cael effaith fwy. Efallai fod y llygredd wedi bod yn digwydd yn ysbeidiol dros gyfnod hir ond efallai nad yw wedi cael ei weld a’i riportio o'r blaen, sy’n golygu na chafwyd ymchwiliad iddo chwaith.
Ers i'r mater hwn gael ei nodi yn 2020 mae CNC, DCWW a'r awdurdod lleol wedi bod yn cynnal gwiriadau gweledol o amgylch gollyngfeydd dŵr wyneb, profion ansawdd dŵr yn y llyn, profion lliwio dŵr ar eiddo lle amheuir bod yna gamgysylltiadau, arolygon teledu cylch cyfyng o'r rhwydwaith carthffosydd, yn ogystal ag ymchwilio i ffynonellau llygredd posibl eraill a allai fod yn llifo i'r llyn.
Dros y misoedd nesaf a lle mae'n ddiogel gwneud, byddwn yn mynd at berchnogion tai sydd, yn ein barn ni, wedi'u camgysylltu ac yn gweithio gyda nhw i ddatrys y camgysylltiadau ac i atal llygredd rhag mynd i mewn i Lyn Castle View.
Mae camgysylltiadau yn achosi llygredd ledled Cymru. Er mwyn ein helpu i atal camgysylltiadau mae angen i chi edrych ar y gwaith plymio yn eich cartref neu fusnes.
Cadarnhewch fod gennych y cysylltiadau cywir yn eich cartref neu fusnes ar gyfer yr holl waith plymio dŵr wyneb a dŵr budr. Ewch i www.connectright.org.uk i gael mwy o wybodaeth.
Perchennog yr eiddo sy'n gyfrifol am drwsio unrhyw gamgysylltiadau, hyd yn oed os cafodd y rhain eu gosod cyn ei fod yn berchen ar yr eiddo ond mae trwsio'r broblem yn aml yn syml ac yn rhad.
Gallwn eich tywys trwy'r broses felly mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni os dewch o hyd i gamgysylltiad. Rhowch wybod i ni trwy ein ffonio ar 03000 65 3000.