Mae mwy i wair...
Yma, mae ecolegydd glaswelltir CNC, Stuart Smith, yn codi cwr y llen ar yr hyn sydd i'w ganfod…
Glaswelltiroedd yw rhai o gynefinoedd mwyaf amrywiol a gwahanol Cymru.
Maen nhw'n amrywio o borfeydd calchaidd sych iawn ac asid; dolydd iseldir llawn blodau toreithiog; i dyweirch tal, brwynog ar briddoedd llaith. Ac mae'r holl fathau yn cefnogi cyfoeth o wahanol blanhigion ac anifeiliaid.
Mae glaswelltiroedd ymhlith ein hecosystemau sydd fwyaf dan fygythiad. Maen nhw'n arbennig o fregus i newidiadau mewn defnydd tir megis cynnydd yn nefnydd gwrteithiau neu, ar y pegwn arall, yn cael eu gadael wedi'u hesgeuluso.
Mae glaswelltiroedd yn gorchuddio swmp o ardal tir Cymru. Ond mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi'u 'gwella', sy'n golygu bod y pridd wedi'i gyfoethogi yn artiffisial. Yn y cyflwr hwn, ychydig iawn o amrywiaeth rhywogaethau y maen nhw'n eu cefnogi.
Collwyd mwy na 90 y cant o'n glaswelltiroedd iseldir rhwng yr 1930au a'r 1990au.
Arferai glaswelltiroedd wedi'u rheoli'n draddodiadol fod yn rhan o bob fferm. Ond mae dôl sy'n llawn rhywogaethau yn olygfa brin erbyn hyn.
Yn ffodus, mae cyfradd y golled wedi arafu yn ystod y blynyddoedd diweddar. Mae cynlluniau amddiffyn cynefinoedd a rheoli tir yn fwy sensitif wedi chwarae eu rhan wrth ddechrau troi'r llanw.
Mae glaswelltiroedd cyfoethog eu rhywogaethau yn dal i'w cael mewn rhai ardaloedd - megis yr un yma yn Fferm Berthllwyd ym Mrycheiniog (prif lun).
Mae glaswelltiroedd hefyd yn ffurfio rhai o'n tirluniau mwyaf eiconig - megis llethrau calchfaen Gŵyr yng ngorllewin Morgannwg neu laswelltiroedd Pen y Gogarth, Conwy.
Gall glaswelltiroedd fod o arwyddocâd diwylliannol mawr hefyd - er enghraifft dolydd rhos llaith yn rhannu o orllewin Cymru a maes glo de Cymru.
Gwarchod glaswelltiroedd
Gan fod ein glaswelltiroedd pwysig wedi lleihau cymaint erbyn hyn, mae angen rhoi mesurau yn eu lle i roi help llawn iddyn nhw.
Mae creu safleoedd a warchodir wedi bod yn effeithiol iawn yn hyn o beth, ac os gallwn gyplysu hyn â rheolaeth well ar draws dirweddau eang a gwella ymwibyddiaeth o bwysigrwydd glaswelltiroedd, mae gobaith am sefyllfa well.
Adnabu gwaith arolwg yn yr 1990au a'r 2000au, bod dros 1000 o safleoedd glaswelltir yn iseldir Cymru, er roedd llawer o'r rhain yn fach ac mewn cyflwr gwael. Bellach, rydym yn gweithio tuag at sicrhau bod y gorau o blith y rhain yn cael eu gwarchod yn gyfreithiol fel SoDdGA neu Ardaloedd Cadwraeth Arbennig.
Prosiectau
Gall prosiectau lleol wneud cyfraniad sylweddol hefyd i ddiogelu glaswelltir.
Mae nifer o brosiectau glaswelltir yn cael eu cynnal yng Nghymru ar hyn o bryd, gan gynnwys un ym Mhen Llŷn sy'n arbrofi gyda 'talu am ganlyniadau' fel rhan o gynlluniau amaeth-amgylchedd. Mae hyn yn golygu bod ffermwyr yn cymryd cyfrifoldeb dros wella bioamrywiaeth eu ffermydd, ac yn cael eu talu am yr hyn maen nhw'n ei gyflawni, yn hytrach na dim ond dilyn set o gyfarwyddebau rheoli.
Rydym hefyd wedi bod yn adnabod ac yn asesu ansawdd dolydd a glaswelltiroedd eraill yn ardal Dyfi. Mae prosiect dilynol wedi'i gynllunio i wella sut maen nhw'n cael eu rheoli fel rhan allweddol o reoli adnoddau naturiol yr ardal mewn ffordd gynaliadwy.
Cynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy
Gall glaswelltiroedd sy'n gyfoethog eu rhywogaethau ffurfio cydran allweddol ar ffermio cynaliadwy.
Mae glaswelltiroedd yn fannau gwych i fagu anifeiliaid ar gyfer cynhyrchu cig o ansawdd uchel wrth ddarparu gwasanaethau ecosystem gwerthfawr eraill hefyd - o fod yn gynefin gwych i bryfed peillio i storio lefelau cynyddol o garbon pridd.
Yma, mae gwartheg Duon Cymreig, yn pori dôl yng Ngheredigion – mae cadw’r borfa yn fer yn helpu i sbarduno tyfiant blodau gwyllt y gwanwyn canlynol.
A beth am fuddion ehangach eraill?
Mae glaswelltiroedd heb wrtaith yn diogelu stociau pridd pwysig ac yn helpu i ddarparu dŵr glân i nentydd ac afonydd.
Ac mae tystiolaeth gynyddol fod rheoli glaswelltiroedd yn sensitif yn yr ucheldiroedd ac ymylon yr ucheldiroedd yn gallu cynyddu gallu'r tir i ddal dŵr - gan ostwng risg o lifogydd yn yr ardaloedd is.
Yn wir, mae diogelu a rheoli glaswelltiroedd yn elfennau hanfodol wrth reoli adnoddau naturiol Cymru mewn ffordd gynaliadwy. Mae ein glaswelltiroedd cynhenid yn ryfeddol o amrywiol. Ac mae amrywiaeth cynefinoedd a rhywogaethau yn hollbwysig i wneud yn siwr fod ecosystemau yn wydn, sy’n sail i gynaladwyedd.
A'r gorau yr ydym wrth ddeall a gwerthfawrogi ein cyfoeth o laswelltiroedd a'r hyn y maen nhw'n ei gynnig i gymdeithas, y mwyaf y byddwn yn eu mwynhau ac yn eu diogelu i genedlaethau'r dyfodol.