O wneud clocsiau i gadwraeth
Bob mis mae ein timau’n ysgrifennu blog am y lleoedd arbennig y gofalant amdanynt. Yma, mae ein Rheolwr Gwarchodfa, Huw Green, yn sôn y byddai rhai o’r coed yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Coedydd Aber yn cael eu torri ar un adeg i ddarparu esgidiau, ond eu bod yn cael eu torri bellach i helpu bywyd gwyllt…
Islaw’r llechweddau dan eu mantell dderw ar hyd priddoedd dirlawn llawr y dyffryn, saif clwstwr pur bron o goetir gwern gwlyb.
Mae’r math hwn o goetir gwlyb wedi prinhau yng Nghymru, ond mae ganddo werth cadwraeth uchel am ei fod yn gynefin pwysig i lawer o rywogaethau cyffredin, anghyffredin a phrin.
Roedd y coetir gwern yng Nghoedydd Aber mewn perygl
Tua dechrau’r 1900au, roedd y coetir yn cyrraedd ei ddisgwyliad oes naturiol, heb lawer o arwydd o eginblanhigion neu lasbrennau Gwern ifanc, os o gwbl, i gymryd lle’r coed a oedd yn heneiddio.
Prin y bydd Gwern yn byw y tu hwnt i wyth deg o flynyddoedd, felly tybiwyd y byddai’r coetir, heb unrhyw waith rheoli, yn troi yn y pen draw yn goetir onn-bedw-criafol sychach neu’n diflannu’n llwyr.
Roedd angen gwneud rhywbeth i achub y coed ac, fel mor aml yn y maes cadwraeth natur, llywiwyd gwaith rheoli’r dyfodol gan waith rheoli’r gorffennol.
Roedd cofnodion hanesyddol yn dangos y byddai’r coetir yn cael ei reoli ar un adeg drwy brysgoedio neu fôndocio – sef torri ardaloedd bychain o’r goedwig i greu ardaloedd agored golau. Credwyd y byddai’r ddwy ardal o goetir gwern o’r enw Gwern Goch a Gwern Fudur yn cael eu prysgoedio gan wneuthurwyr clocsiau teithiol.
Byddent yn gwersylla yn y dyffryn i gynaeafu’r coed gwern er mwyn cynhyrchu gwadnau i esgidiau poblogaidd yr oes. Mae hefyd yn debygol y buasai’r pren yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu golosg ar gyfer ffwrneisiau metel. Yn ystod gaeaf 1994, gwnaethpwyd y penderfyniad dewr i ailgyflwyno prysgoedio. Roedd tri rheswm dros hynny, sef:
1) Diogelu’r clystyrau o goetir gwern,
2) Ffafrio planhigion sy’n hoffi golau a rhywogaethau sy’n dibynnu ar goed gwern;
3) Cadw’r arfer traddodiadol hwn yn fyw.
Ailgyflwynwyd prysgoedio yng Ngwern Fudur, a phan ddechreuodd y gwaith roedd y coetir yn wir yn driw i’w enw.
Drwy gyfuniad o bridd gwlyb, olion traed y dynion yn torri coed a’r grefft draddodiadol o ddefnyddio ceffylau i gludo coed allan, trowyd y lle’n llaid.
Ond tyfodd y coed yn ôl
Y flwyddyn ganlynol, cafwyd tyfiant newydd grymus o’r boncyffion a dorrwyd. A thrwy’r holl gorddi ac aflonyddu ar y pridd, ymddangosodd bywyd newydd o’r llaid ar ffurf eginblanhigion gwern.
Rydym yn parhau i brysgoedio coetir gwlyb Gwern Fudur bob deng mlynedd, gan dorri’r coed yn ystod y gaeaf er mwyn aflonyddu cyn lleied â phosibl ar y bywyd gwyllt.
Erbyn hyn, mae gan Wern Fudur gymysgedd o fonion wedi’u prysgoedio’n ddiweddar, clystyrau deng mlwydd oed a choed gwern hynafol, mawr.
Mae eginblanhigion a glasbrennau hefyd ar wasgar drwy’r holl ardal a chaniateir iddynt aeddfedu heb gael eu torri.
Gwelsom ymateb dramatig yn fflora’r ddaear gyda rhywogaethau’n ffynnu, gan gynnwys gwlyddyn melyn Mair, erwain, hesg blodau anghyfagos a brigwellt garw.
Tua diwedd y gwanwyn/dechrau’r haf, daw’r ardal yn fwrlwm o weithgarwch gyda digonedd amrywiol o bryfetach yn ymddangos o’r pren marw fel cacwn parasitig a phryfed hofran.
Ymhlith y llu o drychfilod, chwilod a phryfed, ceir hefyd rai rhywogaethau prin fel y chwilen hirgorn a chwilen y dail sy’n dibynnu ar y math hwn o gynefin i oroesi.
Mae llawer o’r infertebratau hyn yn bwydo ar y neithdar melys a gynhyrchir gan blanhigion blodeuol, ac yn eu tro maent yn darparu gwasanaeth hanfodol peillio – maent hefyd yn bryd bwyd blasus i’r adar, ac felly’n rhan hanfodol o’r gadwyn fwyd hefyd!
Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain
Gwneir llawer o’r prysgoedio erbyn hyn gyda chymorth gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri, sy’n gwneud gwaith rheoli prysgoedio yn y ffordd hen ffasiwn, gydag offer llaw a digon o lafurio.
Gwerthfawrogir cymorth ac ymdrech Cymdeithas Eryri a’i gwirfoddolwyr yn fawr ac mae’n gyfle gwych i bobl gymryd rhan a dysgu am ein tirwedd a’n cynefinoedd ddoe, heddiw ac yfory.
Os oes awydd arnoch chi gymryd rhan a rhoi cynnig ar reoli coedlan yng Nghoedydd Aber, cadwch lygad ar galendr Cymdeithas Eryri y gaeaf nesaf. Ond byddwch yn barod am fudreddi! Esgidiau glaw yw’r dewis gorau i’ch traed (nid clocsiau!).
Ymweld â Choedydd Aber
Rydym yn croesawu ymwelwyr gofalus i’r lleoedd arbennig hyn y gofalwn amdanynt, a gallwch gael gwybod rhagor am ymweld â’r ardal ar ein gwefan.