Gweithrediadau coedwig yng Nghanol De Cymru

Dyma’r cyntaf mewn cyfres o flogiau gan ein tîm Gweithrediadau Coedwig yng Nghanol De Cymru. Yma, mae Chris Rees, Arweinydd Tîm Gweithrediadau Coedwig Canol De Cymru, yn sôn am y manteision lu y mae coedwigoedd yn eu rhoi i bobl a natur, ynghyd â’r gwaith a wna ei dîm i’w rheoli’n gynaliadwy.

Where would we be without a tree?

No apples, pears or plums for tea

No ships to sail across the sea

 

No tables, chairs or wooden stools,

No carts for horses, ox or mules,

No handles for the workers tools,

No warming fires as night air cools.

 

No sturdy props for pits or mines,

No casks or crates for ales or wines,

No sleepers for the railway lines,

No paper for the Sunday times.

 

No wood for windows or for doors,

No blocks, panels or parquet floors,

How would actors tread the boards,

No guitars, all hidden chords.

 

Then of course I do believe,

The forest makes the air we breath

So, take care wherever you might be,

And keep our woodlands wild and free.

 

Manteision ein coetiroedd

Gobeithio eich bod wedi cael blas ar y gerdd uchod sy’n tynnu sylw at fanteision ein coetiroedd a'r pren maen nhw'n eu cynhyrchu. Edrychwch o gwmpas holl ystafelloedd eich cartref i weld faint o gynhyrchion sydd wedi’u gwneud o bren, yn cynnwys papur a deunyddiau pacio.

Gellir defnyddio pren i wneud cynifer o bethau ac mae o fudd i economi ac amgylchedd Cymru. Mae ganddo’r potensial i greu ystod eang o fusnesau a swyddi. Mae defnyddio pren wrth adeiladu, ar gyfer cynhyrchion ac fel ffynhonnell ynni adnewyddadwy, yn ein helpu i fynd i’r afael â lefelau niweidiol o allyriadau carbon deuocsid.

Mae coetiroedd yn bwysig inni yn ddiwylliannol, fel nodweddion sy’n diffinio’r dirwedd. Maent yn lleoedd pwysig i fioamrywiaeth ac yn fannau pwysig hefyd i’n gweithgareddau hamdden, ein hiechyd a’n llesiant ni. Ymhellach, mae coed yn bwysig iawn inni o ran cefnogi ein hecosystemau trefol, trwy leihau llygredd, lleihau dyfroedd wyneb, gostwng y tymheredd a dal carbon – pob un o’r rhain yn bwysig o ran sut y gallwn fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Mae deall ac archwilio mwy ar y ffordd y gallwn elwa i’r eithaf o’r manteision sy’n perthyn i goetiroedd, ynghyd â’r modd y gallwn adfer ecosystemau ein coetiroedd, yn rhan bwysig o Ddatganiad Ardal Canol De Cymru.

Sector coedwig cystadleuol a chynaliadwy

Mewnforion sy’n cyfri am y rhan helaethaf o farchnad Cymru ar gyfer cynhyrchion pren. Mae hyn yn golygu bod tyfwyr a gweithgynhyrchwyr pren yn gweithredu mewn amgylchedd eithriadol o gystadleuol. Erbyn hyn, mae’r sector coedwig yng Nghymru yn cyfrannu rhyw £650 miliwn at yr economi ac yn cyflogi mwy na 14,000 o bobl mewn cannoedd o fusnesau gwledig bach-canolig eu maint. Ni yw’r cyflenwr pren ardystiedig mwyaf ar gyfer y busnesau hyn yng Nghymru.

Rydym yn cynhyrchu oddeutu 850,000 tunnell o bren yng Nghymru bob blwyddyn, gyda rhyw 72,000 o dunelli’n cael eu cynhyrchu yng Nghanol De Cymru yn flynyddol.

Plâu a Chlefydau

Ar hyn o bryd, rydym yn ymateb i achos o Phytophthora ramorum (pathogen coed ffyngaidd) sy’n effeithio ar y tri phrif fath o goed llarwydd. O ganlyniad i’r haint hwn, mae Hysbysiadau Iechyd Planhigion Statudol wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer rhannau mawr o’r ystad goetir. Mae’r hysbysiadau hyn yn ei gwneud hi’n ofynnol cwympo neu ddinistrio’r coed.

Er bod y clefyd llarwydd P.ramorum wedi effeithio’n fawr ar dirwedd Cymoedd y De, mae’r clefyd dinistriol hwn wedi ein galluogi, fel ceidwaid Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, i aildyfu’r goedwig a chreu coedwig ar gyfer y dyfodol.

Gan fod cymaint o’r goedwig yn arfer bod yn goetir brodorol, rydym wedi gwneud yn fawr o’r cyfle i adfer cynefin coetir brodorol dros ran helaeth o’r ystad gyhoeddus, gan ychwanegu at wytnwch ein hecosystemau coetir er budd bioamrywiaeth a’r cymunedau o’u cwmpas.

Cynaeafu pren

Yn ystod y gwaith cynaeafu coed rydym yn sicrhau ein bod yn marchnata’r holl bren er mwyn cael y gwerth gorau am arian i’r pwrs cyhoeddus.

Er bod y pren wedi’i heintio, mae nodweddion lu yn perthyn iddo o hyd sy’n ei wneud yn addas ar gyfer ei ddefnyddio fel pren adeiladu ac ar gyfer gwneud pethau eraill.

Er ein bod yn sicrhau na fyddwn yn defnyddio rhisgl na llwch llif y coed llarwydd ar gyfer compost gardd, rhag lledaenu’r clefyd i blanhigion gardd, caiff y pren a’r coed i gyd eu defnyddio mewn ffordd fuddiol.

Caiff cyffion isaf y coed eu defnyddio fel pren adeiladu yn y diwydiant adeiladu tai, gan gloi’r carbon am 100 mlynedd a darparu cartrefi i drigolion Cymru yr un pryd.

Defnyddir rhan ganol y coed i gynhyrchu dodrefn a ffensys gerddi a phaledau er mwyn sicrhau bod ein bwyd a’n cynhyrchion fferyllol yn cael eu cludo’n ddiogel ar draws y wlad.

Arferai rhan uchaf a lleiaf y coed fod yn anodd i’w marchnata, ond bellach fe’i defnyddir i wneud nifer o bethau, yn cynnwys cynhyrchion ffensio ar gyfer ffermydd a sglodion coed ar gyfer gweithgynhyrchu sglodfyrddau a byrddau panel i’w defnyddio oddi mewn i dai ac i wneud unedau cegin.

Ac os oes yna unrhyw beth ar ôl, byddwn yn cynhyrchu ar gyfer y farchnad tanwydd coed, sydd wedi tyfu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Erbyn hyn, mae nifer o ffatrïoedd, adeiladau awdurdodau lleol ac ysbytai yn defnyddio systemau gwresogi tanwydd coed ynghyd â system ac adnodd ynni adnewyddadwy.

Mae ein cwsmeriaid pren yn cynnwys nifer o gwmnïau o Dde Cymru, megis contractwyr sy’n cyflogi pobl leol ac yn cynnig swyddi crefftus fel gweithredwyr peiriannau cynaeafu.

Mae yna ffocws o’r newydd ar goedwigaeth yng Nghymoedd y De ac, o dro i dro, gall fod yn negyddol. Sylweddolwn pa mor bwysig yw coetiroedd a choed ar sail eu manteision amgylcheddol, ond hefyd ar sail yr amryfal fanteision cymdeithasol ac economaidd a ddaw yn eu sgil. Rydym yn archwilio sut y gellir rheoli coetiroedd a choed yn well er mwyn iddynt esgor ar y manteision y mae eu gwir angen yng Nghanol y De, gan sicrhau yr un pryd fod coetiroedd wedi’u cysylltu, eu bod yn iach a’u bod yn amrywiol, fel y gallant gynnig ecosystemau gwydn i fioamrywiaeth a chenedlaethau’r dyfodol.

Darllenwch ragor am Ecosystem Coetir Canol De Cymru.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru