Cynllun i leihau perygl llifogydd a diogelu parciau

Wrth i ni ailddechrau gwaith ar gynllun llifogydd y Rhath, mae John Hogg, Pennaeth Gweithrediadau Canol De Cymru, yn egluro'r cefndir a rhywfaint o'r gwaith manwl a arweiniodd at roi’r cynllun hwn ar waith.

Mae'r prosiect i leihau perygl llifogydd i bobl mewn 405 o dai yn y Rhath wedi bod yn un o'r rhai mwyaf heriol y mae tîm Cyflenwi Prosiectau CNC wedi gweithio arno.

Ymhlith rhai o'r pethau y bu'n rhaid eu hystyried oedd ei leoliad trefol a phoblog, statws Rhestredig Gradd II ac Ardal Gadwraeth y parciau, effaith gyfunol llifogydd i fyny'r afon a’r llanw sy'n dod i mewn, eiddo mewn gwahanol rannau o'r ardal â siawns wahanol o gael llifogydd, a'r gwerth y mae pobl leol yn ei roi ar yr ardal i ymlacio a mwynhau.

Ymgynghoriad

Dangosodd nifer o ddigwyddiadau galw-heibio a fynychwyd yn dda fod pobl leol yn awyddus i wybod mwy a gweithio gyda ni ar y prosiect lle bynnag y bo'n bosibl.

Mae cartrefi yn yr ardal wedi bod yn agos at gael llifogydd bedair gwaith yn ystod y degawd diwethaf, felly buom yn siarad â phobl am eu perygl llifogydd a sut y gallem ei leihau.

Buom hefyd yn trafod sut y gallwn wneud hynny yn y modd mwyaf sensitif posibl a diogelu cymeriad Edwardaidd arbennig parciau'r ardal, tra’n dal i ddiogelu'r rhai sydd mewn perygl o lifogydd.

Ac wrth i'r gwaith symud ymlaen, cynhaliwyd digwyddiadau pellach a dosbarthwyd cylchlythyrau rheolaidd yn lleol i ddiweddaru pobl am ddatblygiadau.

Ymchwil a chynllunio gofalus, manwl

Mae'r cynllun cyfan yn costio £11.5 miliwn o arian trethdalwyr a bu'n rhaid i ni fod yn gwbl sicr mai'r cynllun oedd yr un cywir. Un sy'n amddiffyn pobl ac eiddo ond ar yr un pryd yn gadael amgylchedd parc a fydd yn cael ei fwynhau gan lawer o genedlaethau i ddod a helpu natur i ffynnu.

Felly, cyn torchi llewys, cynhaliwyd llawer o ddadansoddiadau technegol manwl, modelu hydrolegol ac ymchwil amgylcheddol - fel y gwnawn ar gyfer pob cynllun llifogydd a ddarparwn.

Edrychom yn fanwl ar yr holl opsiynau gwahanol. Roedd y rhain yn cynnwys carthu Llyn y Rhath, gan greu ardaloedd storio llifogydd i fyny'r afon, carthu Nant y Rhath, adeiladu sianel dargyfeirio, gosod drysau llanw a defnyddio amddiffynfeydd dros dro.

Dangosodd yr ymchwiliad cynhwysfawr hwn yn glir, er mwyn lleihau'r perygl o lifogydd i bobl mewn 60 eiddo yn Alma Road a Cressy Road (a elwir yn Gam 3 y prosiect) yr opsiwn gorau oedd ehangu Nant Lleucu yng Ngerddi Nant y Rhath a Gerddi Melin y Rhath fel y gall gario mwy o ddŵr i ffwrdd o'r ardal pan fydd llifogydd yn bygwth.

Coed gwerthfawr

A cadarnhaodd ein hymgynghoriad i ni hefyd pa mor bwysig oedd coed i gymeriad yr ardal ac i’r bobl sy'n defnyddio'r parciau hyn.

O ganlyniad, rydym wedi gallu cadw llawer o goed mwyaf ysblennydd a phwysig y parciau trwy ddylunio cynllun llifogydd o'u cwmpas yn fwriadol.

Yn anffodus, ar gyfer y cam hwn o'r prosiect, ni allwn osgoi'r angen i dorri 38 o goed o Erddi Nant y Rhath a Melin y Rhath.

Mae hyn yn anffodus, fodd bynnag, mae dwy ran o dair o'r rhain (25) yn cael eu diffinio gan arbenigwyr fel bod o ansawdd gwael, yn fach ac yn hawdd plannu coed tebyg yn eu lle, yn berygl i bobl neu'n debygol o farw yn fuan iawn oherwydd henaint a chlefyd.

Yn eu lle, fe fyddwn yn plannu 41 o goed newydd, hyd at bum metr o uchder, o ystod o rywogaethau brodorol ac egsotig - gan gadw cymeriad Edwardaidd y parciau i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau. Bydd 200 o goed eraill hefyd yn cael eu plannu yn y gymuned ehangach.

Rydym yn deall nad yw pobl am weld y coed yn cael eu tynnu. Mae coed yn rhan hynod bwysig o'n hamgylchedd. Maent yn cloi carbon, yn gartref gwerthfawr i fywyd gwyllt ac yn creu mannau lle gallwn ymlacio a mwynhau natur.

Ac yn y niferoedd cywir yn y mannau cywir, gallant hefyd helpu i leihau lefelau llifogydd. Fodd bynnag, yn yr achos hwn, ni fyddent yn gwneud unrhyw wahaniaeth o nôd i lefelau dŵr yma.

Cael y cydbwysedd cywir

Yn ffodus, nid yw cartrefi yn yr ardal hon wedi dioddef llifogydd hyd yn hyn. Ond maent mewn perygl ac nid ydym yn barod i aros nes bydd llifogydd yn digwydd cyn iddynt gael yr un lefel o amddiffyniad â phobl mewn cymunedau i lawr yr afon fel Gerddi Waterloo a thu hwnt.

Gall llifogydd ddifetha bywydau pobl ac mae gennym gyfrifoldeb i amddiffyn cymunedau mewn perygl ledled Cymru yn well. Felly hoffwn sicrhau'r bobl sy'n byw yn yr ardal y bydd y gwaith i leihau eu risg llifogydd yn parhau.

Ac mewn ychydig flynyddoedd bydd y parc ar ei ffordd i ailsefydlu ei hun fel man lle gall pobl fwynhau nant fyrlymus, amrywiaeth o goed sydd â bywyd hir o'u blaenau a bywyd gwyllt.

Gall pobl sy'n byw yn y gymuned hefyd fod yn fwy hyderus y bydd eu cartrefi a'u busnes yn cael eu hamddiffyn yn well rhag effeithiau llifogydd.

Yna bydd ganddynt siawns well o gael yswiriant cartref fforddiadwy a gallant gysgu ychydig yn well pan fydd glaw trwm neu lanw uchel yn bygwth.

Nid yw cydbwyso gofynion gwrthdaro pobl, cymunedau a'u hamgylchedd byth yn hawdd.

Ond rydym yn credu'n gryf bod y prosiect i leihau perygl llifogydd i bobl sy'n byw ger Nant y Rhath yn gwneud hynny.

Y canlyniad fydd cymuned yn cael ei diogelu'n well rhag llifogydd a bydd cymeriad arbennig Edwardaidd y parciau yn cael ei gadw ar gyfer y presennol a cenedlaethau'r dyfodol i'w mwynhau.

Gall pobl sy'n poeni am lifogydd ddarganfod eu perygl llifogydd, ac os oes gwasanaeth rhybudd llifogydd am ddim ar gael yn eu hardal trwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188 neu drwy fynd i www.cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru