Ehangu ein Gwasanaeth Rhybudd Llifogydd i 14,000 o gartrefi ychwanegol

Beth: Rydym yn anfon negeseuon testun i oddeutu 14,000 o bobl i roi gwybod iddynt eu bod wedi’u hychwanegu’n awtomatig at y gwasanaeth rhybuddion llifogydd. Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim a gall cwsmeriaid ddewis cael rhybuddion yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Ble: Byddwn yn anfon negeseuon testun i’r rhan fwyaf o ardaloedd rhybuddion llifogydd yng Nghymru sydd wedi’u pennu gan gydweithwyr ardal.

Pryd: Bydd y negeseuon yn cael eu hanfon ar 4 Rhagfyr (os bydd y tywydd yn caniatáu).

Pam: Bydd y negeseuon yn hysbysu pobl eu bod wedi’u cofrestru’n awtomatig ar gyfer cael rhybuddion llifogydd a byddant yn cynnwys dolen yn arwain at dudalen ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru lle y nodir rhif Floodline pe baent yn dymuno cofrestru’n llawn ar gyfer y gwasanaeth. Gallant ddewis optio allan o’r gwasanaeth hefyd trwy ateb y neges destun.

Sut: Bydd tua 14,000 o negeseuon testun awtomataidd yn cael eu hanfon trwy’r System Rhybuddion Llifogydd.

Cefndir

Ers 2010 mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth ag Asiantaeth yr Amgylchedd i gyrchu a chofrestru rhifau llinell dir a ffôn symudol yn awtomatig, mewn ardaloedd sydd â risg uchel o lifogydd, i'n system rhybuddio am lifogydd am ddim. Gallwn gael gwybodaeth yn ddiogel yn ymwneud â'r cyfeiriad cofrestredig ar gyfer llinellau tir a dyfeisiau symudol o dan gytundeb a gefnogir gan Ddeddf Wrth Gefn Sifil 2004 (CCA). Mae'r gwaith hwn wedi arwain at 70,000 o gyfeiriadau nad oeddent wedi ymuno â'n gwasanaeth o'r blaen bellach yn derbyn rhybuddion llifogydd uniongyrchol.

Bydd cwsmeriaid symudol Vodafone yn derbyn rhybuddion llifogydd perthnasol a negeseuon rhybuddio llifogydd difrifol ar gyfer eu cyfeiriad bilio o 4ydd Rhagfyr 2019 - os bydd y tywydd yn caniatáu. Bydd hyn yn ein galluogi i anfon rhybuddion uniongyrchol i amcangyfrif o 14,000 o eiddo ychwanegol yng Nghymru.

Yr amserlen ar gyfer ychwanegu cwsmeriaid Vodafone

Ar 4 Rhagfyr byddwn yn anfon negeseuon testun i 14,000 o gwsmeriaid Vodafone i roi gwybod iddynt fod eu rhif ffôn wedi’i ychwanegu at ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd rhad ac am ddim.

Bydd y negeseuon testun yn cael eu hanfon trwy ein System Rhybuddion Llifogydd i gwsmeriaid 14,000 Vodafone sydd â chyfeiriad bilio yn ein hardaloedd Rhybuddion Llifogydd.

Ar y diwrnod byddwn yn cadarnhau amodau’r tywydd ac ni fyddwn yn bwrw ymlaen pe bai’r rhagolygon yn addo tywydd garw neu pe bai unrhyw rybuddion llifogydd wedi’u cyhoeddi. Oherwydd y nifer fawr o negeseuon y mae angen eu hanfon, efallai y bydd yn rhaid inni newid yr amserlen ar fyr rybudd er mwyn anfon y negeseuon testun mor gyflym â phosibl.

Cynnwys y Neges

Byddwn yn anfon un neges destun ddwyieithog i bob cwsmer i’w hysbysu eu bod wedi’u cofrestru bellach ar gyfer y gwasanaeth. Bydd y neges yn cynnwys dolen yn arwain at ein gwefan er mwyn cael mwy o wybodaeth a bydd modd i’r cwsmer ateb gyda neges destun i optio allan o’r gwasanaeth.

Helo gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydych yn byw mewn ardal perygl llifogydd. Byddwn yn cysylltu â’r rhif hwn os bydd rhybudd llifogydd yn eich ardal, am ddim. Hello from Natural Resources Wales. You live in a flood risk area. We’ll contact this number if there’s a flood warning in your area, for free. Gwybodaeth & Preifatrwydd /Info & Privacy: www.cyfoethnaturiol.cymru/warning Optio allan: tecstiwch DILEU i 60006. To opt out: text REMOVE to 60006

Bydd y cwsmeriaid sy’n penderfynu peidio ag optio allan o’r gwasanaeth yn cael galwad ffôn bob tro y caiff Rhybudd Llifogydd neu Rybudd Llifogydd Difrifol eu cyhoeddi ar gyfer eu cyfeiriad bilio. Yn y Saesneg yn unig y bydd y rhybudd hwn. Pe baent yn edrych ar ein gwefan, bydd cwsmeriaid yn cael eu hannog i gofrestru’n llawn ar gyfer y gwasanaeth fel y gallant nodi eu dewis iaith a chael rhybuddion trwy SMS ac e-bost.

Mwy o Wybodaeth

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Lucy Edwards

Cynghorydd Arbenigol, Rhybuddio a Hysbysu am Lifogydd

Lucy.Edwards@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru