Cyfleoedd gwaith newydd cyffrous i ymuno â #TîmCyfoeth yn ein tîm rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd
Cyfleoedd gwaith newydd cyffrous i ymuno â #TîmCyfoeth yn ein tîm rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd
Rydyn ni'n recriwtio! Ydych chi'n meddwl bod gennych chi'r hyn sydd ei angen i ymuno â'n tîm Rheoli Perygl Llifogydd a helpu i wneud gwahaniaeth i'r amgylchedd a phobl Cymru?
Rydyn ni eisiau recriwtio ar gyfer nifer o rolau newydd cyffrous, o rybuddio a hysbysu am lifogydd i reoli asedau perygl llifogydd, ac i'n tîm Perygl Llifogydd anhygoel allan ar lawr gwlad ac yn ein swyddfeydd ledled Cymru.
Dewch i gwrdd â Richard Kelland, ein harweinydd sgiliau a datblygu yn y tîm Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd. Yn y blog hwn, mae'n dweud mwy wrthym am y gwaith anhygoel y mae ein tîm yn ei wneud i helpu i amddiffyn cartrefi a chymunedau ledled Cymru rhag llifogydd, a sut brofiad yw bod yn rhan o #TîmCyfoeth.
Pam ymuno â'n tîm Perygl Llifogydd?
Rydw i wedi bod yn rhan o #TîmCyfoeth yn gweithio yn ein tîm Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd am dros ugain mlynedd. Mae'n rhan bwysig iawn o'r gwaith rydyn ni'n ei wneud - mae effaith newid yn yr hinsawdd yn golygu y gallwn ni ddisgwyl gweld stormydd mwy difrifol ac aml, cynnydd yn lefelau’r môr, a chyfraddau uwch o erydiad arfordirol yn y dyfodol. Yn anffodus mae hyn yn golygu cynnydd yn y perygl o lifogydd a'r effeithiau negyddol y mae hynny'n eu cael ar ein pobl, ein heconomi a'n bioamrywiaeth.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod wedi paratoi y gorau gallwn ni i frwydro’r heriau hyn yn y dyfodol. Fel rhan o hynny, rydyn ni'n gobeithio ehangu ein tîm Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd (FCRM). Mae gennym nifer o swyddi cyffrous a heriol ar gael sy'n cwmpasu ystod eang y gwaith rheoli perygl llifogydd a gobeithiwn y bydd cyfleoedd i bobl ag ystod o sgiliau a phrofiad ddod i ymuno â'r tîm dros yr wythnosau nesaf.
Beth yw Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd?
Mae gwaith Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd yn eang iawn. Mae'r gwaith hanfodol a wnawn yn lleihau'r perygl o lifogydd yng Nghymru, dyma ychydig o enghreifftiau yn unig o sut rydym yn gwneud hyn:
• Adeiladu a chynnal asedau amddiffyn rhag llifogydd a chael gwared ar rwystrau o'n hafonydd
• Nodi lefel y perygl llifogydd ar gyfer lleoliadau ledled Cymru trwy ddefnyddio technoleg mapio a modelu newydd
• Monitro a rhagweld lefelau afonydd a llanw. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i rybuddio'r cyhoedd fel y gallant gymryd camau priodol.
• Mae gennym dimau yn barod i weithredu 24/7 i gau llifddorau ac i weithredu pympiau yn ôl yr angen.
• Rydym yn cynnal ymgyrchoedd ymwybyddiaeth llifogydd i drafod peryglon llifogydd a pha gamau y dylech eu cymryd i leihau'r perygl.
Pam gweithio yn CNC?
Yn CNC rydym wrth wraidd y gwaith o sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru yn cael eu defnyddio'n gynaliadwy fel y gall cenedlaethau'r dyfodol elwa ohonynt. Mae gan FCRM ei ran i'w chwarae ac rydym yn ceisio rheoli perygl llifogydd trwy ddefnyddio technegau rheoli perygl llifogydd naturiol i storio dŵr yn y dirwedd ac i arafu llif y dŵr sy'n cyrraedd ardaloedd lle ceir perygl yn bellach i lawr yr afon. Rydym hefyd yn frwd dros helpu ein staff i ddatblygu. Pan fyddwch yn ymuno â'r tîm, fy rôl i yw eich helpu chi i adeiladu ar eich sgiliau a'ch cymwysterau presennol ac i ddatblygu eich gyrfa yn y tîm yn y dyfodol.
Pa swyddi sydd ar gael?
Gellir gweld rhestr isod o'r rolau sydd ar gael ar hyn o bryd i wneud cais amdanynt. Byddwn yn diweddaru'r rhain wrth i swyddi newydd godi felly cofiwch ddychwelyd a chadwch lygad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gael y diweddaraf!
Rydym yn croesawu ceisiadau am sawl swydd (un ffurflen gais fesul swydd) yn ogystal â cheisiadau am secondiadau. Os oes gennych ddiddordeb mewn secondiad, trafodwch â'ch cyflogwr a chys ylltwch a CNC cyn gynted a phosibl.
Peiriannydd Perfformiad Asedau
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn berchen ac yn cynnal a chadw dros 4,000 o asedau perygl llifogydd yng Nghymru, gan gynnwys dros 500km o amddiffynfeydd llifogydd fel argloddiau a waliau llifogydd. Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â'r tîm peirianneg, lle byddwch yn sicrhau bod ein hasedau perygl llifogydd yn perfformio i'r lefelau sydd eu hangen nawr ac yn gallu addasu i heriau newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol. Byddwch yn gweithio gyda pheirianwyr eraill yn y tîm i helpu i reoli peryglon llifogydd. Byddwch yn casglu ac yn dadansoddi data asedau perygl llifogydd ac yn defnyddio'r wybodaeth hon i bennu anghenion rheoli asedau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Uwch-gynghorydd Dadansoddi Perygl Llifogydd
Mae gennym gyfle cyffrous yn y tîm Dadansoddi Perygl Llifogydd sydd wedi'i leoli yng Ngogledd Cymru. Fel uwch-gynghorydd yn y tîm Dadansoddi Perygl Llifogydd byddwch yn cynhyrchu gwybodaeth amserol a manwl gywir sy'n sail i waith perygl llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru.Rydym yn chwilio am rhywun sydd â phrofiad sylweddol o reoli perygl llifogydd ac a fydd yn darparu arweinyddiaeth broffesiynol / technegol ar draws y rhaglen o waith modelu perygl llifogydd a gyflawnir gan y tîm Dadansoddi Perygl Llifogydd a'r tîm ehangach o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru.Byddwch yn arwain ac yn dylanwadu ar waith ein partneriaid proffesiynol, uwch-reolwyr a Llywodraeth Cymru ac yn cyfrannu'n weithredol at is-grwpiau rheoli perygl llifogydd arbenigol wrth ddatblygu polisi a chanllawiau. Mae profiad o reoli prosiectau a chyllidebau drwy fod wedi cyflawni prosiectau mawr a chymhleth yn bwysig, a bydd gennych wybodaeth ardderchog am fodelu hydrolig a dadansoddi hydrolegol (gwybodaeth ymarferol arbenigol am feddalwedd modelu afonol neu arfordirol 1D/2D).
Cynghorydd Rhybuddio a Hysbysu Llifogydd
Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel rhan o’r tîm i ddarparu ein gwasanaeth rhybuddio am lifogydd. Bydd yn gyfrifol am wella, cynnal a darparu gwasanaeth newydd i gymunedau y nodir eu bod mewn perygl ar draws y gogledd a'r canolbarth. Bydd yn gyfrifol am baratoi, cynllunio a rheoli ein hymateb i ddigwyddiadau llifogydd trwy sicrhau bod gweithdrefnau lleol yn cael eu cadw’n gyfredol. Bydd hefyd yn gallu paratoi a chyfrannu at ein cynllun hyfforddiant ac ymarfer rheoli digwyddiadau i alluogi ein swyddogion dyletswydd a phartneriaid allanol i fod wedi eu paratoi’n well ar gyfer llifogydd yn rhan o’u hymateb.