Diweddariadau tywydd sych

Diweddariadau ar y tywydd sych a'r effeithiau y mae'n eu hachosi ledled Cymru.

26 Ionawr 2023

Rydym wedi symud o statws 'adferiad o sychder' i statws 'normal' (o ran statws sychder) ar draws Cymru gyfan.

Mae hyn yn golygu bod ein dangosyddion hydrolegol o fewn ystodau disgwyliedig ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn, heb unrhyw bryderon ar hyn o bryd am effeithiau tywydd sych/sychder hir i gyflenwad dŵr, yr amgylchedd, amaethyddiaeth na defnyddwyr dŵr ledled Cymru.

Cyfeiriwch at Asiantaeth yr Amgylchedd am eu safle diweddaraf am ddalgylchoedd ar draws ffiniau o fewn Lloegr.

24 Tachwedd 2022
Nid yw’r Hafren Uchaf bellach mewn statws sychder

Rydym ni wedi cadarnhau heddiw bod dalgylch Hafren Uchaf, yr ardal olaf yng Nghymru i fod mewn statws ‘sychder’ bellach wedi cael ei newid i statws ‘adfer ar ôl sychder’. Mae’r newid mewn statws yn adlewyrchu effaith glawiad cyson ar y dalgylch gyda llif afonydd yn parhau i fod ar lefelau cyson yn ôl y disgwyl ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn (gan gynnwys llif sylfaenol), a bod y risg o reoleiddio’r afon dros y gaeaf (rhyddhau dŵr o’r gronfa ar gyfer yr amgylchedd) wedi lleihau’n sylweddol.

Ar gyfer y mis hwn hyd yma (hyd at 21 Tachwedd), mae Cymru wedi derbyn 95.8% o’r glawiad cyfartalog hirdymor, gan amrywio o 75.6% ym Mawddach i 126.9% ym Mrynbuga – mae’r ardal o gwmpas yr Hafren Uchaf wedi derbyn 82.1%. Rydym ni wedi gweld glawiad bron iawn bob dydd yn ystod y mis hwn, ac mae saith o’r dyddiau (allan o 21) wedi derbyn cyfanswm o dros 10mm ar gyfartaledd ar draws Cymru.

Mae’r statws ‘adfer ar ôl sychder’ yn adlewyrchu’r ffaith bod rhai pryderon yn dal i fod mewn ardaloedd lleol (megis lefelau dŵr daear isel), ond wrth i’r pryderon hyn leihau, byddwn yn newid yr ardaloedd yn ôl i’r statws sychder ‘arferol’. Nid yw hynny’n golygu na fydd effeithiau hirdymor ar ecosystemau; yn hytrach, mae’n golygu bod yr achos hwn o sychder wedi do di ben Byddwn yn parhau â’n gwaith monitro hydrolegol ac ecolegol rheolaidd wrth nesáu at y gwanwyn gan fod y misoedd hynny’n gyfnod critigol o ran sychder ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Ni fyddwn yn rhoi rhagor o ddiweddariadau ar y dudalen hon, ac os byddwn yn profi cyfnodau hir o sychder y flwyddyn nesaf, byddwn yn darparu lle ar wahân ar gyfer diweddariadau.

10 Tachwedd 2022
Adferiad i ran fwyaf o ardaloedd Cymru yn dilyn sychder

Rydym ni wedi cadarnhau heddiw ein bod wedi newid statws De Ddwyrain Cymru a Gogledd Cymru, yn ogystal â De Orllewin Cymru, o ‘sychder’ i ‘adfer ar ôl sychder’ – ac eithrio dalgylch Hafren Uchaf. Dalgylch Hafren Uchaf yw’r unig ddalgylch yng Nghymru sy’n dal i fod mewn ‘sychder’. Mae hyn o ganlyniad i bryderon o fewn y dalgylch ac effeithiau trawsffiniol y cyfnod hir o dywydd sych ar y dalgylch, ac rydym yn ymgysylltu gydag Asiantaeth yr Amgylchedd am hyn.

Daw hyn ar ôl cyfnod o law cyson drwy gydol mis Medi, Hydref a mis Tachwedd (hyd yma). Yn ystod mis Medi - Hydref, derbyniodd Cymru 104.3% o’r glawiad cyfartalog hirdymor ar gyfer y cyfnod (gan amrywio o 88.1% yn y Cymoedd a Bro Morgannwg i 139.7% yn Llŷn ac Eryri). Yn ystod yr un cyfnod, cafwyd >10mm o law (ar gyfartaledd ar gyfer Cymru) ar 11.5% o’r dyddiau, gyda’r ffigwr hwn yn fwy arwyddocaol yn lleol (27.9% o ddyddiau yng Nglaslyn / Dwyryd). Ym mis Tachwedd hyd yma (ar 8 Tachwedd), rydym ni wedi derbyn 54.4% o’r glawiad cyfartalog hirdymor ar gyfer Cymru, gan amrywio o 36.6% yn ardal Dyfrdwy i 83.1% ym Mrynbuga.

O ystyried natur ein systemau hydrolegol yng Nghymru, mae’r glawiad parhaus hwn wedi golygu bod llif y rhan fwyaf o afonydd wedi cyrraedd eu lefelau arferol neu’n uwch na hynny’n gyson dros yr wythnosau diwethaf, gyda chynnydd mewn lleithder pridd a’r cronfeydd dŵr yn ail-lenwi. Er ein bod yn dal i weld rhai lefelau dŵr daear isel yn lleol, ceir arwyddion o adferiad - yn dilyn cyfnod mor sych, gall dyfrhaenau gymryd amser i ddychwelyd i ystodau arferol.

Er bod newid statws y rhan fwyaf o Gymru o ‘sychder’ i ‘adfer ar ôl sychder’ yn newyddion calonogol, mae rhai poblemau’n dal i godi mewn ardaloedd lleol, ac nid yw’r effeithiau hirdymor ar gynefinoedd a rhywogaethau wedi’u gwireddu’n llawn hyd yma. Byddwn yn parhau i fonitro ac ymateb i’r sefyllfa lle bo problemau lleol (gan gynnwys ar draws y ffin) ac i ddeall y problemau hirdymor, ond bydd ein sylw nawr heb os yn troi at adolygu sychder eleni.

27 Hydref 2022
Adferiad yn y De Orllewin

Rydym ni wedi cadarnhau heddiw ein bod wedi newid statws De Orllewin Cymru o ‘sychder’ i ‘adfer ar ôl sychder’. Mae hyn yn golygu bod mwyafrif ein dangosyddion yn dangos lefelau arferol neu’n agos ar fod yn arferol am yr adeg hon o’r flwyddyn. Mae’n bosibl y bydd rhywfaint o effeithiau/pryderon lleol. Byddwn yn parhau i fonitro ein sbardunau hydrolegol (megis glawiad a llif afonydd) ac unrhyw effeithiau eraill gan adolygu’r wybodaeth a’r rhagolygon diweddaraf.

*Mae hyn yn effeithio ar yr ardaloedd canlynol

 

  • Gogledd Ceredigion (Rheidol, Aeron, Ystwyth)

 

  • Teifi

 

  • Sir Benfro (Cleddau Dwyreiniol a Gorllewinol)

 

  • Caerfyrddin (Tywi a’r Taf)

 

  • Abertawe a Llanelli (Tawe a’r Llwchwr)

Mae gweddill Cymru (De Ddwyrain, Gogledd a’r Hafren Uchaf) yn dal i fod o dan statws sychder.

De Orllewin Cymru oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i gyhoeddi statws sychder ym mis Awst o ganlyniad i effeithiau’r cyfnod estynedig o dywydd sych ar yr amgylchedd, amaethyddiaeth a chyflenwad dŵr ar draws y rhanbarth.

Cafwyd toriad yn y cyfnod sych ym mis Medi gyda glaw yn ystod yr wythnos gyntaf, gyda chyfnod mwy sefydlog i ddilyn. Cafwyd cyfnod o dywydd ansefydlog unwaith eto tua diwedd y mis sydd wedi parhau. Ers 1 Medi, mae’r rhanbarth wedi gweld glaw ar 82% o’r dyddiau, gyda glawiad o fwy na 5mm (ar gyfartaledd ar draws yr ardal) i’w weld ar 33% o’r dyddiau. Gwelodd y De Orllewin 115% o’r glawiad cyfartalog hirdymor ar gyfer mis Medi (cyfartaledd 1981 – 2010), a hyd yma ym mis Hydref (hyd at y 25ain) mae’r ardal wedi gweld 77% o’r cyfartaledd hirdymor.

Mae’r glawiad cyson wedi arwain at gynyddu lleithder y pridd a llif afonydd (gan gynnwys llif gwaelodol), gan gynnig buddion i’r amgylchedd a rheolaeth tir (gan gynnwys llifeiriant i’n hafonydd yn ystod cyfnod allweddol i bysgod sy’n mudo). Mae cronfeydd dŵr yn yr ardal wedi dangos tystiolaeth o ail-lenwi yn ystod y cyfnod. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd y cyfnod o sychder yn arwain at effeithiau mwy hirdymor ar yr amgylchedd a sectorau eraill a byddwn yn defnyddio ein rhaglen fonitro i asesu effeithiau posibl o’r flwyddyn hon.

Mae Dŵr Cymru wedi codi’r gwaharddiad defnydd dros dro yn Sir Benfro yr wythnos hon, ond maen nhw’n dal i atgoffa cwsmeriaid i ddefnyddio dŵr yn ddoeth wrth i gronfeydd  ail-lenwi yn yr ardal.

Mae lefelau dŵr daear yn dal i fod yn isel ond gellir gweld tystiolaeth o adferiad ar rai o’r safleoedd, er nid pob un, yn y De Orllewin. Yn ôl y disgwyl, bydd mwy o amser nes y byddwn yn gweld unrhyw adferiad arwyddocaol mewn lefelau dŵr daear, ond mae’r arwyddion yn bositif. Rydym ni’n ymwybodol bod hyn yn effeithio ar gyflenwadau dŵr preifat, ac rydym wedi derbyn tystiolaeth anecdotaidd gan ffermydd lle mae tyllau turio yn dal i fod yn sych. Byddwn yn dal i fonitro hyn drwy gydol y cyfnod adfer gan y bydd yn un o’r dangosyddion a fydd yn llywio’r penderfyniad i ddychwelyd i’r statws Normal. Wrth i lefelau dŵr daear wella, rydym ni’n atgoffa unrhyw un sydd â chyflenwad preifat i gysylltu gyda’r awdurdod lleol os oes unrhyw bryderon.

Mae afonydd y Gogledd a’r Hafren Uchaf wedi ymateb yn dda i lawiad ac mae nifer o gronfeydd wedi dechrau ail-lenwi’n dda – fodd bynnag, mae nifer o’r ffynonellau mawr a rennir yn dal i fod yn isel ac mae rhai dyfrhaenau’n dal i fod yn isel iawn. Mae pryderon ynglŷn â’r amgylchedd a/neu gyflenwadau dŵr yn parhau yn yr ardal hon, yn enwedig ar gyfer dalgylchoedd Clwyd, Dyfrdwy Isaf, Hafren Uchaf ac Ynys Môn.

Mae’n ddarlun tebyg yn Ne Ddwyrain Cymru, sydd wedi derbyn llai o lawiad na gweddill Cymru, gyda lefelau cronfeydd a dŵr daear yn isel (gyda’r ddyfrhaen yn dal heb ddangos adferiad a rhai lefelau ar eu hisafswm misol neu’n symud tuag at hynny). Felly mae pryderon o hyd ynglŷn â chyflenwad dŵr a phryderon lleol am yr amgylchedd. Rydym ni’n annog y cyhoedd i roi gwybod i ni am unrhyw ddigwyddiadau.

5 Hydref 2022

Y cyfnod saith mis sychaf a gofnodwyd erioed

Mae statws sychder o hyd ym mhob rhan o Gymru.

Rhwng mis Mawrth a mis Medi dim ond 63.8% o'i glawiad disgwyliedig gafodd Cymru – y cyfnod saith mis sychaf mewn 150 mlynedd (yn seiliedig ar ddata dros dro). Mae hyn yn golygu bod y saith mis diwethaf gyda'i gilydd wedi bod yn sychach nag unrhyw gyfnod cyfatebol arall, gan gynnwys 1995 a 1976.

Ym mis Medi cafwyd glaw unwaith eto ledled Cymru. Cafodd Cymru 99.5% o'i glawiad misol cyfartalog. Er hynny, roedd dosbarthiad y glaw yn amrywio o 68.9% ar gyfer y Cymoedd a Bro Morgannwg i 133.1% yn Sir Benfro.

Rydym wedi gweld dalgylchoedd mewn rhannau o Gymru, fel Glaslyn, Dwyfor, Teifi, Cleddau, Nedd a Thaf yn ymateb yn dda i'r glaw lle mae'r llif wedi dychwelyd i'r lefel arferol ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn. Fodd bynnag, rydym yn dal i brofi llifoedd hynod neu eithriadol o isel yn nalgylchoedd Clwyd, Dyfrdwy Isaf, Ewenni, Ebwy, Wysg a rhannau o Afon Gwy.

Mae dŵr daear yn parhau i fod yn isel ledled Cymru ac mae'r cwmnïau dŵr yn parhau i fonitro storfeydd eu cronfeydd dŵr.

Pryderon

Er gwaethaf y glawiad dros yr wythnosau diwethaf, nid yw wedi bod yn ddigon i leddfu effeithiau'r cyfnod hir o dywydd sych / sychder dros y misoedd diwethaf ar draws Cymru. O ganlyniad, mae pryderon o hyd am yr ecosystemau a'r cynefinoedd o gwmpas ein hafonydd, cyflenwadau dŵr, rheoli tir ac amaethyddiaeth o amgylch rhannau o Gymru. Mae gennym bryderon penodol ar gyfer dalgylchoedd Hafren Uchaf, Dyfrdwy, Clwyd, Gwy ac Wysg o ran ymfudiad pysgodfeydd.

Beth ydym yn ei wneud?

Rydym yn parhau i ddwysáu ein hymateb i reoli effeithiau sychder ac yn helpu i gydbwyso anghenion defnyddwyr dŵr a'r amgylchedd ledled Cymru. Mae ein timau’n monitro'r sefyllfa'n agos ac yn ymateb i ddigwyddiadau ac yn gweithredu yn ôl y galw. Rydym yn parhau i atgoffa pobl i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau fel afonydd sy'n mynd yn sych neu bysgod mewn gofid i'n llinell gymorth 24 awr ar 0300 065 3000.

Rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad rheolaidd agos â Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd o ran materion trawsffiniol, cwmnïau dŵr a sectorau eraill ynglŷn ag unrhyw effeithiau sy'n dod i'r amlwg mewn perthynas â’r amgylchedd, amaethyddiaeth, a chyflenwad dŵr.

Mae nifer o afonydd a reoleiddir yng Nghymru sydd â chytundebau gweithredu gyda'r cwmnïau dŵr (ac Asiantaeth yr Amgylchedd ar afonydd trawsffiniol) i helpu i gefnogi gwaith tynnu dŵr ohonynt. Rydym yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod camau'n cael eu cymryd yn unol â'r cytundebau hyn i amddiffyn yr ecosystemau lle gallwn.

Mae'r Gwaharddiad Defnyddio Dros Dro yn parhau i fod ar waith ar gyfer cwsmeriaid yn Sir Benfro a rhannau o Sir Gaerfyrddin. Rydyn ni'n hoffi atgoffa pobl i barhau i ddefnyddio dŵr yn ddoeth yn ogystal â sicrhau eu bod yn dal i yfed digon. I gael cyngor ar arbed dŵr, cysylltwch â'ch cwmni dŵr lleol.

Os oes gan unrhyw un bryderon am iechyd, cysylltwch â Iechyd Cyhoeddus Cymru neu ar gyfer cyflenwadau dŵr preifat, cysylltwch â'r cyngor lleol yn gyntaf.

Rhagolwg

Nad oes dangosydd cryf y byddwn yn gweld glaw sy'n agos at y cyfartaledd o fewn Cymru dros y tri mis sydd i ddod.

Bydd angen i ni weld glawiad parhaus neu uwch na'r cyfartaledd dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf i weld unrhyw wahaniaeth gwirioneddol o ran adfer lefelau afonydd, dŵr daear a chronfeydd dŵr. Os na welwn ni'r glawiad hwnnw, gallwn ddisgwyl i lawer o ardaloedd aros mewn cyflwr o sychder.

22 Medi 2022
Glaw, ond dim digon (am y tro)

Er gwaethaf y glaw diweddar, mae statws Sychder o hyd ym mhob ardal o Gymru. Mae pob rhan o Gymru wedi cael rhywfaint o law dros y tair wythnos diwethaf, gyda Chymru gyfan yn derbyn 62% o’r glawiad cyfartalog tymor hir ar gyfer y mis hyd yn hyn (erbyn yr 20fed). Mae hyn yn amrywio'n sylweddol o 91.6% yn Sir Benfro i 40.6% ar Ynys Môn. Er bod y glaw diweddar wedi gwlychu wyneb y ddaear, ac y bydd rhywfaint ohono wedi mynd i gyrsiau dŵr wyneb, bydd angen cryn dipyn o law cyn i ddŵr ddechrau treiddio i lawr drwy'r priddoedd i adfer lefelau dŵr daear a llifo i afonydd. Rydyn ni wedi gweld hyn dros y pythefnos diwethaf gydag afonydd yn ymateb i'r glawiad ac yn gostwng yn gymharol gyflym gyda mwyafrif yr afonydd yn ôl i'r lefelau sy'n is na'r arfer. Ymhlith y llifoedd sy'n dal i fod yn 'eithriadol o isel' ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn mae Afon Gwy (yn Redbrook), Ogwr (Pen-y-bont), Ewenni (Keepers Lodge), afonydd y Cymoedd, rhannau o afon Dyfrdwy a Chlwyd (Pont y Cambwll).

Mae lefelau dŵr daear a chronfeydd dŵr ar draws Cymru hefyd yn parhau'n isel, a bydd angen cyfnodau rheolaidd o law dros fisoedd yr hydref i ddechrau adfer yn iawn. Bydd yn cymryd peth amser felly cyn i adnoddau adfer yn llwyr yn sgil y sychder. Efallai y byddwn yn gweld rhai sectorau neu ardaloedd yn adfer yn gyflymach; fodd bynnag, bydd eraill yn parhau i deimlo’r effeithiau – bydd cyflenwadau dŵr cyhoeddus yn cymryd amser i adfer yn llawn, mae gwaharddiadau defnydd dros dro yn parhau i fod ar waith, a gallai amodau ar drwyddedau tynnu dŵr i leihau neu roi'r gorau i dynnu dŵr barhau i fod mewn grym am beth amser i mewn i'r hydref. Mae'n bwysig ein bod i gyd yn parhau i ystyried ein defnydd o ddŵr yn ofalus, gan ddefnyddio dŵr yn effeithlon a bod tynwyr dŵr yn tynnu’r dŵr sydd ei angen arnynt a dim mwy.

8 Medi 2022
Statws sychder yn cael ei ymestyn i weddill Cymru

Mae CNC wedi ymestyn ei ddatganiad o statws sychder i weddill Cymru.  Mae hyn yn golygu bod statws sychder ym mhob rhan o Gymru.

Rhwng mis Mawrth a mis Awst, dim ond 56.7% o'r glawiad disgwyliedig gafodd Cymru – y cyfnod chwe mis sychaf ond dau ers dechrau cadw cofnodion ym 1865 (yn seiliedig ar ddata dros dro). Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cadarnhau mai'r haf hwn fydd yr wythfed cynhesaf yng Nghymru ers 1884. 

Ym mis Awst yn unig, dim ond 38% o'i glawiad misol cyfartalog gafodd Cymru. Yn ystod dyddiau cyntaf mis Medi mae glaw wedi dychwelyd ledled Cymru.  Yn ôl y sefyllfa ar 6 Medi, roedd Cymru wedi cael 34% o'r glawiad cyfartalog tymor hir ar gyfer y mis hwn hyd yn hyn (yn amrywio o 14.5% yn nalgylch Clwyd i 56.5% yn nalgylch Cleddau).

Rydym wedi gweld dalgylchoedd ledled Gogledd Cymru yn derbyn rhwng 54.3% (Dyfrdwy) a 75.4% (Dwyfor) o’r glawiad disgwyliedig dros y chwe mis diwethaf.   Er i rannau o Ogledd Cymru brofi glaw trwm yn ddiweddar, mae'r dalgylchoedd dwyreiniol wedi gweld llai nag 20% o lawiad cyfartalog mis Medi hyd yn hyn.  Mae llifoedd yr afonydd yn nalgylchoedd Clwyd a Dyfrdwy yn parhau i fod yn isel ar gyfer yr adeg o’r flwyddyn, fel y mae lefelau dŵr daear hefyd yn yr ardal hon. Felly, nid yw'r glawiad diweddar wedi bod yn ddigon i leddfu effeithiau'r cyfnod hir o dywydd sych dros y misoedd diwethaf yn y rhannau hyn o Gymru. 

Rydym wedi cymryd yr amser i ystyried effeithiau'r diffyg glaw dros y chwe mis diwethaf ar ein dyfroedd a'r amgylchedd lleol ac mae pryderon am yr ecosystemau a'r cynefinoedd, cyflenwadau dŵr, rheolaeth ar y tir ac amaethyddiaeth yn enwedig yn nalgylchoedd Dyfrdwy a Chlwyd.  Mae sychder o hyd yn y De Orllewin, y De Ddwyrain a’r Canolbarth hefyd.

Mae ein timau ar draws Cymru’n monitro'r sefyllfa'n agos ac yn cyflawni ein camau gweithredu yn unol â'n cynllun sychder. Rydym yn atgoffa pobl i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau amgylcheddol fel afonydd sy'n sychu neu bysgod sydd mewn gofid i'n llinell gymorth 24 awr ar 0300 065 3000.

25 Awst 2022

Ymestyn y statws sychder i gynnwys De Ddwyrain Cymru a rhannau uchaf Afon Hafren

Mae CNC wedi ymestyn y datganiad o statws Sychder i ardal De Ddwyrain Cymru a dalgylch uchaf afon Hafren*. Rydym ni’n derbyn ac yn ymateb i nifer cynyddol o adroddiadau o afonydd sych, problemau ansawdd dŵr (megis llai o ocsigen tawdd), pysgod mewn perygl ac effeithiau ar gynefinoedd sy’n ddibynnol ar ddŵr (yn ogystal â chynnydd yn nifer y tanau). Ceir pryder hefyd ar gyfer y sector amaeth yn y tymor byr a’r tymor hir. Mae Dŵr Cymru wedi cyflwyno gwaharddiad dros dro (a elwir hefyd yn waharddiad ar ddefnyddio pibelli dŵr) yn Sir Benfro a rhannau o Sir Gâr.

Hyd at 23 Awst, roedd Cymru wedi gweld 36% o’r glawiad cyfartalog tymor hir ar gyfer mis Awst i gyd (gan amrywio o 22.1% yn Sir Benfro i 58% yn Ogwen). Mae ardal rheoli sychder CNC yn Ne Ddwyrain Cymru wedi gweld 30.7% o’r glawiad cyfartalog gyda rhan uchaf yr Hafren yn derbyn 31.1%. Er nad yw hynny’n torri unrhyw record ynddo’i hun, mae’n arwyddocaol wrth ystyried ein bod wedi cael pum mis o lawiad is na’r cyfartaledd a dwy don wres. Yn ogystal, mae llawer o’r glawiad wedi bod yn lleol ac yn drwm, gan syrthio ar briddoedd sych ac arwain at ddŵr ffo.

Mae’r glawiad dros yr wythnos ddiwethaf wedi achosi i rai afonydd adfer rhywfaint, ond mae’r rhan fwyaf ohonynt yn is na’r disgwyl am yr adeg hon o’r flwyddyn – gyda rhai ohonynt yn dal i fod yn eithriadol o isel gan gynnwys Alyn, Ceiriog, Colwyn, Erch, Gwy, Wysg ac Ebw.

Tra bo Gogledd Cymru a gweddill y Canolbarth yn parhau i fod yn y statws cyfnod hir o dywydd sych, mae CNC yn parhau i fonitro rhannau eraill o Gymru’n agos lle mae pryderon am lif isel ac am yr amgylchedd yn parhau.

*Dyma’r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt yn y De-ddwyrain a’r Canolbarth:

  • Rhannau uchaf Afon Hafren
  • Afon Gwy
  • Afon Wysg
  • Y Cymoedd (Afonydd Taf, Ebwy, Rhymni, Elái)
  • Bro Morgannwg (Afon Ddawan)

18 Awst 2022

Rydym yn datgan statws sychder ar gyfer rhannau o Gymru

Rydym yn monitro ein sbardunau hydrolegol yn barhaus (fel glawiad a llif afonydd) ac effeithiau'r tywydd sych (gan gynnwys ar ein hecosystemau, cyflenwad dŵr, amaethyddiaeth a mordwyo). Wrth adolygu'r holl wybodaeth ddiweddaraf a’r rhagolygon rydym wedi symud i statws 'Sychder' ar gyfer De-orllewin Cymru*. Er bod rhai sbardunau wedi’u cwrdd mewn mannau eraill, rydym o'r farn bod gweddill Cymru’n parhau i fod ar statws 'cyfnod hir o dywydd sych'. Mae ein timau'n parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos, ymateb i ddigwyddiadau a chymryd camau gweithredu yn ôl y galw. Rydym mewn cysylltiad rheolaidd â Llywodraeth Cymru, y cwmnïau dŵr a rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys Asiantaeth yr Amgylchedd ynglŷn â materion ar draws y ffin.

Am y pum mis diwethaf (Mawrth - Gorffennaf) cawsom 61% o’r glaw cyfartalog yng Nghymru; yr unig gyfnodau sychach eraill yn yr 20fed ganrif oedd 1984 a 1976. Dros y pythefnos diwethaf rydym wedi cael cyfnod o dywydd poeth arall a chawodydd taranllyd sydd wedi achosi rhywfaint o lifogydd dŵr wyneb lleol. Am y mis hwn hyd yn hyn, rydym wedi cael 22.8% o’r glawiad cyfartalog ar gyfer mis Awst (yn amrywio o 8.5% yn Sir Benfro i 45.5% yn Ogwen). Ddechrau'r wythnos roedd afonydd ar draws Cymru'n dal yn eithriadol o isel am yr adeg o’r flwyddyn, gan gynnwys Alun, Conwy, Clwyd, Taf, Teifi, Ewenni, Gwy, Wysg ac Ebwy. Achosodd y glawiad dros y dyddiau diwethaf i rai afonydd godi, ond mae'r rhain eisoes yn cilio. 

Mae gennym bryderon am yr amgylchedd, amaethyddiaeth, mordwyo a chyflenwi dŵr ledled Cymru - yn ogystal â risg uwch i lesiant pobl.  Rydym yn parhau i dderbyn adroddiadau am afonydd yn sychu a physgod sydd mewn trafferthion neu wedi’u ladd megis Hafesp ac Afon Dulyn (Afonydd Dyfrdwy a Chonwy).  Mae rhai ffynonellau dŵr â phroblemau ocsigen toddedig oherwydd llifoedd isel, fel Afon Rhiw. Mae cyfyngiadau tynnu dŵr hefyd mewn grym ar draws Cymru yn unol â'u trwyddedau. Yn ddiweddar, gwnaethom achub pysgod ar afon Ewenni lle diflannodd llif isel i lawr llyncdwll, nodwedd ddaearegol sy'n digwydd yn naturiol. Er bod hwn yn ddigwyddiad naturiol, gwnaethom benderfyniad i achub pysgod oedd yn sownd mewn pyllau a fyddai wedi marw fel arall, a'u symud i ardal lle’r oedd llifoedd.

Rydym wedi cynorthwyo'r gwasanaeth tân gyda sawl tân dros y dyddiau diwethaf gan gynnwys safle ailgylchu gwastraff yn Sir Benfro ger SoDdGA / ACA Dyfrffordd Aberdaugleddau, Tyddewi, Margam a glaswelltir/rhostir ger Niwgwl.

Mae pryderon am gyflenwadau dŵr, yn arbennig mae Dŵr Cymru wedi rhoi rhybudd i'w gwsmeriaid yn Sir Benfro a rhannau o Sir Gaerfyrddin lle maen nhw'n gweithredu gwaharddiad dros dro (gwaharddiad ar bibellau dŵr) o 19 Awst yn yr ardal hon. Rydym yn annog cwsmeriaid i ddilyn cyngor eu cwmni dŵr lleol a defnyddio dŵr yn ddoeth. Edrychwch ar eu gwefannau neu Waterwise am gyngor arbed dŵr.

Mae cwmnïau dŵr yn gyfrifol am ddatblygu cynllun sychder bob pum mlynedd. Yn ystod cyfnod o sychder byddant yn cymryd camau i gynnal cyflenwadau dŵr cyhoeddus, fel sydd wedi’i nodi yn eu cynlluniau. Wrth i'r amodau barhau'n sych rydym yn disgwyl i'r cwmnïau ddefnyddio eu cyflenwadau presennol a lleihau'r galw drwy ymgyrchoedd arbed dŵr a mwy o waith trwsio gollyngiadau. Os yw'r amodau'n parhau'n sych ac yn symud i 'statws sychder' ar gyfer ardal weithredol dylent edrych i ddefnyddio ffynonellau eraill o ddŵr sydd ar gael iddynt (ffynonellau wrth gefn) a dyma lle y gellir gosod cyfyngiadau ar ddefnydd (megis gwaharddiad ar bibellau dŵr). Os bydd amodau sychder yn parhau am gyfnod sylweddol y cam nesaf yw ystyried mesurau eraill fel trwyddedau sychder a gorchmynion sychder a chyfyngu ar ddefnydd nad yw’n hanfodol.

Rhan o reoli'r galw am ddŵr yw i gwmnïau ddefnyddio eu system gyflenwi, gan gynnwys drwy ollyngiadau. Gosododd Ofwat (y rheoleiddiwr economaidd) dargedau ar gyfer lleihau gollyngiadau dros amser gyda gostyngiad o 15% rhwng 2020 - 2025. Mae'r diwydiant yn cynllunio ar gyfer gostyngiad o 50% erbyn 2050. Er nad oes modd cyflawni cyfradd o ddim gollyngiadau, mae pob litr sy’n cael ei golli yn un arall nad oedd angen ei gyflenwi o’r amgylchedd. Felly rydym yn monitro ffigurau cwmnïau’n flynyddol er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd eu targedau ac yn disgwyl gweithredu cadarn ganddynt yng Nghymru. Gall tywydd sych arwain at fwy o ollyngiadau oherwydd symudiadau pridd a mwy o alw ar y system gyflenwi, felly rydym yn disgwyl i ymdrechion gollyngiadau gael eu targedu yn ystod y cyfnodau hyn tuag at risg uwch.

*Mae hyn yn effeithio ar yr ardaloedd canlynol

  • Gogledd Ceredigion (Rheidol, Aeron, Ystwyth)
  • Teifi
  • Sir Benfro (Cleddau Dwyreiniol a Gorllewinol)
  • Caerfyrddin (Tywi a Thaf)
  • Abertawe a Llanelli (Tawe a Llwchwr)
  • Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr (Nedd, Afan, Ogwr)

 

5 Awst 2022

Sefyllfa bresennol

Rydym mewn ‘cyfnod hir o dywydd sych’ ledled Cymru ar hyn o bryd, er gwaethaf peth glawiad dros yr wythnos ddiwethaf.

Yn ystod mis Gorffennaf, dim ond 56% o'i glawiad disgwyliedig y cafodd Cymru, ac ni chafodd pob rhan o’r wlad yr un faint ohono. Fodd bynnag, yn fwy nodedig na hynny mae’r gyfres o fisoedd sych ers mis Chwefror. Am y pum mis diwethaf (Mawrth - Gorffennaf) cawsom 61% o’n glaw cyfartalog yng Nghymru; yr unig gyfnodau sychach eraill yn y 100 mlynedd diwethaf oedd 1984 a 1976.

Am y rhan fwyaf o fis Gorffennaf, roedd nifer o afonydd yn nodedig neu’n eithriadol o isel am yr adeg o'r flwyddyn, a bu adroddiadau hefyd am rai afonydd yn sychu. Cyrhaeddodd rhai afonydd eu llifoedd isaf erioed ar gyfer mis Gorffennaf, yn arbennig Afon Ebwy yn Rhiwderyn ac Afon Frogwy ym Modffordd. Mae'r glawiad diweddar wedi caniatáu i rai afonydd adfer ar draws rhannau o Gymru.

Dros bedwar diwrnod cyntaf Awst (data dros dro) derbyniodd ardal y Gogledd Orllewin 31.9% o’i glawiad cyfartalog ar gyfer mis Awst a chafodd ardal y De Ddwyrain 7.9% - arweiniodd hyn at rybuddion llifogydd ar gyfer rhai dalgylchoedd yn y Gogledd. Gyda phrinder glaw yn y rhagolygon ar gyfer yr wythnos nesaf rydym yn disgwyl i'r afonydd hynny sydd wedi adfer i gilio eto. O ystyried nad yw’r glawiad diweddar wedi syrthio’n gyfartal dros y wlad, mae rhai afonydd yn parhau i fod yn eithriadol o isel am yr adeg o'r flwyddyn gan gynnwys afonydd Clwyd, Dyfrdwy Isaf, Wysg, Gwy a Ebwy.

Rydym wedi derbyn nifer o adroddiadau am afonydd sych, tanau gwyllt, pysgod yn marw, gordyfiant algâu, a materion ansawdd dŵr eraill. Bu adroddiadau am ddiffyg twf glaswellt a chnydau, yn ogystal â phroblemau o ran cyflenwad dŵr yn y sector amaethyddol. Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi y bydd Gwaharddiad Defnydd Dros Dro, a elwir yn gyffredin yn 'waharddiad ar bibelli dŵr’, yn dod i rym i gwsmeriaid yn Sir Benfro a rhannau o Sir Gaerfyrddin o 19 Awst.  Ewch i dudalen sychder Dŵr Cymru am fwy o wybodaeth.

Y llynedd yng Nghymru defnyddiwyd cyfwerth â 356 o byllau Olympaidd o ddŵr bob dydd. Yn ystod tywydd poeth sych mae'r galw am ddŵr yn cynyddu gan roi pwysau ar ein hadnodd gwerthfawr.   Rydym yn annog pobl i ddilyn y cyngor diweddaraf gan eu cwmnïau dŵr ac i ddefnyddio dŵr yn ddoeth. Bydd gwneud hyn yn helpu i sicrhau bod digon o ddŵr ar gael i ddiwallu anghenion pawb ac i helpu i amddiffyn ein hamgylchedd.

I gael cyngor ar hyn ewch i wefannau eich cwmnïau dŵr neu Waterwise.

Pan fyddwch chi'n mwynhau'r awyr agored, cofiwch fod ein bywyd gwyllt a'n hecosystemau o dan fwy o straen. Dylai aelodau'r cyhoedd roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau i'n llinell gymorth 24/7 ar 0300 065 3000.

Yn ogystal mae'n bosib y bydd rhai ardaloedd â risg uwch o danau. Cymerwch sylw o unrhyw arwyddion ar ein tir a chyngor ar hyn ar y cyfryngau cymdeithasol.

Diffinio sychder

Er bod lefelau, graddfeydd a diffiniadau gwahanol yn perthyn i sychder, nodweddir pob achos o sychder gan brinder glawiad. Mae pob achos o sychder yn wahanol, gyda’i natur, yr amseru a'r effeithiau’n amrywio yn ôl lleoliad a pha sectorau sy'n cael eu heffeithio. Rydym yn diffinio tri math o sychder (sy'n gallu digwydd gyda'i gilydd):

  • Sychder amgylcheddol – llifoedd isel a llai o leithder yn y pridd, sy’n effeithio ar amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau. Gall sychder o'r math hwn arwain at effeithiau sylweddol yn y tymor hir os ydynt yn parhau dros gyfnod estynedig.
  • Sychder amaethyddol – diffyg dŵr ar gael ar gyfer dyfrhau a llai o leithder yn y pridd sy'n effeithio ar faint y cnwd (a / neu ei ansawdd) a lles da byw.
  • Cyflenwad dŵr – llai o ddŵr ar gael fel cyflenwad i’r cyhoedd drwy lifoedd afonydd llai, storfeydd cronfeydd dŵr neu ddŵr daear.

Mae gan unrhyw gyfuniad o'r rhain hefyd y potensial i effeithio ar iechyd a lles pobl yn ogystal ag effeithiau amgylcheddol ac economaidd.

Rhan o'n gwaith yw monitro'r sefyllfa hydrolegol ac ecolegol, monitro a rheoleiddio cwmnïau dŵr a chasglu gwybodaeth am effeithiau ehangach tywydd sych. Gan ddefnyddio hyn rydym yn dosbarthu sychder yn bedwar cam:

  • Normal – Mae’r dangosyddion o fewn terfynau disgwyliedig ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn, sy'n gallu cynnwys cyfnodau byr o lif isel a llai o ddŵr ar gael
  • Cyfnod hir o dywydd sych – Mae’r dangosyddion yn dangos cyfnodau hir o lawiad a lefelau afonydd isel am yr adeg o'r flwyddyn, llai o leithder yn y pridd, mwy o adroddiadau am effeithiau ar ecosystemau, tir, cyflenwad dŵr neu sectorau eraill.
  • Sychder – Cyfnod sylweddol o lefelau isel mewn afonydd a phrinder glaw. Effeithiau sylweddol ar ecosystemau a phwysau ar y sector amaethyddol. Straen uchel ar y system cyflenwi dŵr gyda chyfyngiadau a allai fod yn ddifrifol.
  • Adfer yn sgil sychder – Dychwelyd i lefelau arferol am yr adeg o'r flwyddyn. Yn dibynnu ar ddifrifoldeb y sychder blaenorol efallai y bydd difrod amgylcheddol o hyd, ynghyd â llai o allbwn amaethyddol neu gyfyngiadau ar ddefnydd dŵr.

Mae gan gwmnïau dŵr eu cynlluniau sychder eu hunain sydd ar gael yn gyhoeddus. Gall eu statws sychder amrywio hefyd.  Fel arfer maent yn defnyddio'r camau 'normal', 'sychder sy’n datblygu', 'sychder' a 'sychder difrifol' a byddant yn defnyddio eu trothwyon eu hunain i ddiffinio eu statws – mae’r rhain yn aml yn gysylltiedig â sefyllfa eu cyflenwad.

 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru