Datblygu Datganiadau Ardal

Mae CNC yn datblygu Datganiadau Ardal ar hyn o bryd, a fydd yn galluogi dulliau mwy cydgysylltiedig o reoli ein hadnoddau naturiol.

 Mae Datganiadau Ardal yn defnyddio dull sy'n seiliedig ar le - sy'n golygu yn hytrach na dechrau o un amcan polisi penodol, eu bod yn dechrau o anghenion lleoedd go iawn.

 Yn y pen draw, byddant yn llywio, ac yn cael eu llywio gan, Asesiadau Llesiant a Chynlluniau Llesiant lleol, a gynhyrchir gan Fyrddau

Gwasanaethau Cyhoeddus, gan ddod â data, gwybodaeth, sefydliadau, a ffyrdd o ymgysylltu ag eraill ynghyd er mwyn helpu i ddeall yn well y perthnasoedd cymhleth niferus rhwng yr amgylchedd a phobl - a lle y gellir gweithredu.

Mae Daron Herbert, Arweinydd y Tim Pobl a Lleoedd De Orllewin Cymru, yn dweud mwy wrthym am y broses Datganiad Ardal.

Adeiladu amgylchedd iach, gweithredol gyda’n gilydd

Bydd Datganiadau Ardal yn llywio beth rydyn ni’n ei wneud, sut rydyn ni’n ei wneud, gyda phwy rydyn ni’n ei wneud, a sut rydyn ni’n cynllunio ein gwaith mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru.

Ein tasg, o dan Ddeddf yr Amgylchedd, yw defnyddio dulliau cydweithredol o’u datblygu. I'r perwyl hwnnw, rydym wedi ymgynghori ag ystod eang o randdeiliaid ar yr heriau a'r risgiau amgylcheddol sydd bwysicaf iddynt.

Roedd llawer o gynghorwyr tref, cymuned a sir, sef cynrychiolwyr etholedig y gymuned, yn bresennol yn ein digwyddiadau.

Sut ydych chi wedi sicrhau bod y bobl iawn wedi cymryd rhan?

Mae cymaint o wahanol sectorau ag sy’n bosibl wedi eu cynnwys er mwyn casglu’r ystod ehangaf o safbwyntiau ac arbenigedd. Heb os, bydd hyn yn adlewyrchu'r rhwydweithiau cyfredol yn yr ardal, sydd wedi bod o gymorth mawr i ni lle mae'r rhwydweithiau hyn yn gryf.

Rydym hefyd wedi sicrhau bod grwpiau cynrychioliadol fel undebau ffermio a chymdeithasau pysgota wedi’u cynnwys, yn ogystal â diwydiant mawr yn yr ardal. Ond rydym hefyd yn cydnabod y grwpiau hynny nad ydym wedi gallu eu cyrraedd eto.

Rydym yn cydnabod bod rhai rhanddeiliaid, megis cyrff anllywodraethol amgylcheddol, wedi ei chael hi’n anodd rhoi’r un amser i bob un o’r ardaloedd oherwydd y diffyg cyllid ac amser a neilltuir ar gyfer polisi.

Efallai nad yw eraill, fel pobl ifanc, neu mewn sectorau fel TG a Thai, yn gweld perthnasedd ein gwaith eto.

Byddai’n well gan rai sefydliadau ymgynghori neu fynychu un digwyddiad, a rhaid i ni ddarparu ar gyfer hyn i gyd. Ond mae hynny’n iawn oherwydd nad yw’r cynnyrch terfynol yn absoliwt - bydd yn grynodeb o’n sgyrsiau hyd yn hyn, ac yn gynnig i eraill barhau i weithio gyda ni i helpu i ddod o hyd i atebion.

Beth ydym wedi'i ddysgu o'n dulliau ymgysylltu hyd yma?

Un o’r pethau sydd wedi gweithio’n dda yn y De-orllewin ar gyfer cael gwybodaeth yn seiliedig ar le yw “mapio cyfranogol” o amgylch pwnc penodol, fel bioamrywiaeth.

Mae hyn yn cynnwys pobl yn defnyddio map i rannu eu gwybodaeth ecolegol leol benodol, ac mae wedi bod yn ddiddorol iawn.

Serch hynny, nid yw’r mapio cyfranogol gyda grwpiau amlswyddogaethol, gan edrych ar yr ardal gyfan, wedi bod mor llwyddiannus.

Mae hyn yn arwydd o’r broblem ehangach o ymgysylltu ar raddfa ranbarthol, lle mae’n haws trafod safleoedd neu ddalgylchoedd, gyda materion neu bolisi penodol.

Mae dull seiliedig ar le yn fwyaf pwerus pan allwch ei gysylltu â lleoedd go iawn a phobl go iawn.

Felly, mae angen i ni fod yn ofalus, os yw’r Datganiadau Ardal yn lefel rhy uchel, byddwn yn dieithrio rhanddeiliaid sy’n bartneriaid cyflenwi allweddol i ni, na fyddant o bosibl yn gweld unrhyw le i’w sefydliad. Mae angen i bob Datganiad Ardal adlewyrchu ein hardal yn gywir a pheidio â bod yn rhy wan nac yn rhy generig.

Byddwn yn crynhoi’r holl wybodaeth o ddigwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd ym mhob sir yn ddiweddar, ac yn sicrhau bod ein ‘pynciau’ yn cael eu diweddaru yn unol â hynny.

Bydd angen i'r pynciau hyn gael eu hystyried hefyd gan ein harbenigwyr mewnol ein hunain, i brofi ein casgliadau ein hunain, i herio ein gweithredoedd ein hunain, ac i roi caniatâd i ran cyflawni gweithredol CNC chwilio am ffyrdd gwahanol o weithio.

Ein gweledigaeth yw sicrhau bod ein rhwydwaith lleoedd - wedi'i adeiladu o amgylch y perthnasoedd â rhanddeiliaid a sefydliadau eraill - wedi'i ymgorffori yn y sefydliad.

Mae angen i bob un ohonom ofalu am ein hadnoddau naturiol a’n hecosystemau, fel y gallant barhau i ddarparu'r pethau sydd eu hangen arnom nawr, ac yn y dyfodol.

Mae ein hadnoddau naturiol yn ein helpu i gadw’n iach, yn gwella llesiant ac yn cynnig nifer o fuddion.

Mae'r broses Datganiad Ardal newydd hon wedi'i chynllunio i alluogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol i ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig yn eu hardal a gwneud penderfyniadau gydag iechyd a hyfywedd hirdymor ein hecosystem yn ganolog iddynt.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru