Cysylltu â natur er mwyn gwella eich iechyd a’r amgylchedd
Yma mae ein hymgynghorydd iechyd, Jess Williams, yn trafod y buddion a gawn o dreulio amser yn mwynhau natur a’r amgylchedd naturiol, yn ogystal â chynnig ffyrdd o wneud y gorau o’r awyr agored y gaeaf hwn.
Ail wynt yn yr awyr agored
I lawer, mae’r heriau a ddaeth oherwydd COVID-19 wedi tanlinellu y gwerth a ddaw i’n bywydau yn sgil bod allan yn yr awyr agored.
O orfod darganfod ffyrdd newydd o dreulio ein diwrnodau – o fyw, gweithio, dysgu a chwarae – yn aml, daeth yr ateb trwy symud ein gweithgareddau allan i’r awyr agored, lle mae modd i ni fwrw ati gan gadw pellter diogel yn yr awyr iach.
Yr anogaeth fawr eleni oedd cynnal ein bywyd cymdeithasol allan yn yr awyr agored, gan gwrdd â ffrindiau a theulu mewn parciau a mannau agored cyhoeddus. Ac, oherwydd y pandemig, rydym wedi gweld cynnydd pedwarplyg yn nefnydd ysgolion o’r awyr agored wrth addysgu.
Mae bod yng nghanol byd natur yn llesol i ni
I rai, daeth dod i gyswllt â byd natur yn lleol yn ystod y cyfnod clo â’r cysur angenrheidiol a’r sicrwydd bod bywyd yn parhau.
Wrth i dymor y gaeaf ein cyrraedd, mae cadw’r cysylltiad hwnnw gyda natur yn bwysicach fyth, ac yn gymorth mawr i ni ymdopi â’r ansicrwydd a ddaw o ganlyniad i bandemig byd eang, a phrinder cyfleoedd i gymdeithasu.
Mae tystiolaeth bod bod allan yn yr amgylchedd naturiol yn llesol i ni mewn llawer o wahanol ffyrdd.
Mae bod yng nghanol natur:
- Yn gymorth i wella ein hwyliau trwy leihau lefelau straen a gorbryder
- O gymorth i ffurfio patrymau cwsg da
- Yn rhoi hwb i’ch system imiwnedd
- Yn annog creadigrwydd
- Yn cefnogi eich lles corfforol
Mae cysylltu â natur yn dda i’r amgylchedd
Ac nid dyna’r cyfan. Mae cysylltu â natur hefyd yn ffafriol i’r amgylchedd naturiol ei hun.
Trwy ddysgu a gwerthfawrogi byd natur, rydym yn fwy tebygol o gymryd camau i fod yn eiriolwyr drosto, a’i warchod fel bo cenedlaethau’r dyfodol hefyd yn medru ei fwynhau.
Mae ein model Camau Cynnydd yn dangos sut y gall bod yng nghanol ac ymgysylltu â’r amgylchedd naturiol ddylanwadu ar ymddygiad cadarnhaol a fydd yn ein hannog i ofalu am ein byd.
Ffyrdd o gysylltu gyda natur yn ystod y gaeaf
Wrth inni fynd i dymor y gaeaf ac i’r dyddiau fyrhau, gall y prinder golau dydd ei gwneud yn anoddach mynd allan.
Dyma rai awgrymiadau ar sut y gellir gwneud y gorau o’r amgylchedd naturiol godidog sydd gennym yng Nghymru’r gaeaf hwn, wrth gadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru ar y coronafeirws.
Mynd am dro ganol dydd
Gwnewch y gorau o olau dydd, lapiwch yn gynnes ac ewch allan i fwynhau ychydig o awyr iach yng ngolau dydd. Ewch am dro i’r parc, neu allan i’r ardd, neu hyd yn oed sefyll y tu allan i’ch drws ffrynt am ychydig funudau.
Os ydych yn gweithio o’ch cartref, gallwch yn hawdd golli allan ar y cyfleoedd i werthfawrogi buddion byd natur, felly gwnewch y gorau o bob egwyl, ac ewch allan.
Crwydro o stepen eich drws
Mewn cyfnod lle mae cyfyngiadau ar deithio, gall darganfod y mannau agored wrth stepen eich drws fod yn ddifyr. Efallai y byddwch yn darganfod parc newydd neu afon gerllaw, neu ailddarganfod hen lecyn hoff.
Os ydych yn chwilio am ysbrydoliaeth, ewch i’n tudalen we: Llefydd i ymweld â nhw, i ddarganfod eich coetir neu warchodfa natur leol.
Cerdded a siarad
Gallwch ystyried cyfnewid galwad fideo am gyfarfod wrth gerdded, gan gadw pellter cymdeithasol. Mae tystiolaeth gynyddol yn awgrymu bod cyfarfodydd wrth gerdded yn fwy dymunol, yn llesol i’n cyrff ac yn fwy cynhyrchiol hefyd.
Sgrin werdd
Dengys tystiolaeth bod rhinweddau cadarnhaol iawn o edrych ar ddelweddau o fyd natur. Er bod mwy o fuddion o fedru cyffwrdd, arogli a chlywed yr amgylchedd naturiol, gall newid llun eich sgrin i ddelweddau o fyd natur, neu osod planhigion o’ch amgylch gael effeithiau cadarnhaol hefyd.
Mynd ar droed
Gwnewch y mwyaf o bob cyfle i fod allan yn yr awyr agored, gan wneud eich siwrnai i’r gwaith neu unrhyw siwrnai angenrheidiol arall mor actif ag y gallwch. Parciwch y car ychydig yn bellach, a cherddwch y rhan olaf, neu mentrwch ar eich beic ddwywaith neu dair yr wythnos, ac mi wnaiff eich cadw chi a’r beic rhag rhydu.
Pawb yn elwa!
O wneud ymdrech i dreulio amser yn yr amgylchedd naturiol, a’i werthfawrogi, yna mi fyddwch chi a’r amgylchedd yn elwa. Nid yn unig y byddwch yn teimlo’n well yn feddyliol a chorfforol o fod yn yr awyr agored, byddwch yn meithrin y cyswllt agos â byd natur, ac yn cymryd camau i’w warchod ar gyfer y dyfodol.