Gwent Yn Barod ar gyfer yr Hinsawdd

Mae Datganiadau Ardal yn ddull newydd, sy’n seiliedig ar le, o reoli ein hadnoddau naturiol, a fydd yn llywio polisi yng Nghymru ac yn ysgogi gweithredu cydgysylltiedig er mwyn creu ecosystem fwy gwydn.

Er bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am gyflwyno Datganiadau Ardal, mae eu cynhyrchu a'u gweithredu yn broses gydweithredol i raddau helaeth.

Mynychodd James Pearson, Cysylltiadau CNC, weithdy yn Ne Ddwyrain Cymru, wedi’i gynllunio er mwyn nodi cyfleoedd ac ymyriadau ar y cyd ar gyfer addasu a lliniaru'r hinsawdd, a fydd yn llywio'r Datganiad Ardal lleol.

Mae pob un o'r 6 thîm ardal a'r tîm morol yn dyfeisio ac yn gweithredu eu dulliau eu hunain o baratoi eu Datganiad Ardal unigryw eu hunain erbyn Gwanwyn 2020, a fydd yn disgrifio'r adnoddau naturiol yn eu priod ardaloedd, yn nodi blaenoriaethau sydd angen mynd i'r afael â nhw ac yn penderfynu sut y bydd hynny yn digwydd.

Mae tîm ardal y De Ddwyrain yn canolbwyntio'n fawr ar gydweithredu, yn fewnol ac yn allanol, trwy gydol eu proses, yn ogystal â chymhwyso'r egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a ddiffinnir yn Neddf yr Amgylchedd.

Roedd hon yn un o gyfres o ddigwyddiadau a drefnwyd i ganolbwyntio ar 4 thema sy'n adlewyrchu blaenoriaethau rhanbarthol sy’n amlygu’u hunain.   

Pwrpas y digwyddiad, a gynhaliwyd yn y Fenni, oedd trafod thema newid hinsawdd ac roedd ystod o staff CNC a phartneriaid allanol yn bresennol, gan gynnwys awdurdodau lleol Torfaen, Caerffili a Sir Fynwy, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent a Chyfeillion y Ddaear. 

Mae'r gweithgor Gwent yn Barod ar gyfer yr Hinsawdd (CRG) eisoes wedi nodi lle mae angen newid dull er mwyn gwella gwytnwch yr amgylchedd naturiol yn y dyfodol. Maent yn sylweddoli y gall sector cyhoeddus cydgysylltiedig gyflawni pethau gwell ac maent eisoes yn archwilio datrysiadau trafnidiaeth mwy gwyrdd ac yn mynd i'r afael â'r hyn sy’n rhwystro pobl sydd â diddordeb mewn cerbydau trydan.

Dywedodd y CRG eu bod eisoes wedi cynnal astudiaethau o’r isadeiledd gwefru cerbydau trydan, ac adolygiadau o’r  fflyd gwasanaethau cyhoeddus ac wedi ymrwymo i ddarparu seilwaith gwefru ym meysydd parcio awdurdodau lleol ar gyfer cerbydau allyriadau isel.

Yr hyn a oedd dan sylw ar y diwrnod oedd myfyrio ar yr holl dystiolaeth a gynhyrchwyd hyd yma a nodi camau cydweithredol a fydd o'r budd mwyaf i bobl a lleoedd De Ddwyrain Cymru.

Fe'n rhannwyd yn grwpiau bach a dechreuwyd gydag ymarfer mapio gweledol ar gyfer trafod y pethau sydd wedi ein harwain i'r lle yr ydym ar hyn o bryd.

Roedd ein grŵp yn fywiog a buom yn trafod pob math o bethau, o faterion megis gwadu newid yn yr hinsawdd i'r sylweddoliad a ddaeth yn sgil y llifogydd diweddar, Gwrthryfel Difodiant, ffordd liniaru’r M4 a Trump!

Yna buom yn trafod beth allai'r llwybr at ddyfodol gwell ei gynnwys. Cafwyd sgwrs am newidiadau diwylliannol, gwaelodlinau sy’n symud, cynhyrchu bwyd yn lleol, trafnidiaeth gynaliadwy, plannu coed yn gyfrifol, addysg, arallgyfeirio cronfeydd pensiwn o danwydd ffosil, ac amgylchedd trefol mwy gwyrdd i sôn am rai yn unig o'r pynciau a drafodwyd. 

Roeddem i gyd yn gytûn ein bod ar groesffordd, lle mae'r mwyafrif yn derbyn bod angen i ni gymryd llwybr gwahanol os ydym am sefydlogi ein hinsawdd a gwyrdroi digwyddiadau tywydd mwy difrifol a pharhaus, materion iechyd a dirywiad bioamrywiaeth.

Cafodd y gweithdy ei hwyluso'n fedrus ac yn frwd gan Ron Donaldson. Roedd Ron yn cymharu'r broblem i eliffant gyda pherson yn ei farchogaeth. Mae'r person sy’n marchogaeth yr eliffant yn meddwl mai ef sydd wrth y llyw  a chan ddefnyddio rheswm a rhesymeg, mae'n ceisio newid cyfeiriad. Ond y rhan fwyaf o'r amser dim ond esgus llywio’r eliffant mae’n ei wneud, ac mae’r eliffant yn mynd i ble bynnag a fynno. Er mwyn newid llwybr, mae angen iddo gysylltu'n emosiynol â'r eliffant, meithrin ei gydymdeimlad â’i farchog a'i argyhoeddi i newid llwybr.

Cytunodd ein grŵp mai'r newid allweddol o ran llwybr sydd ei angen er mwyn symud ymlaen â'r agenda hon yw dechrau meddwl y tu hwnt i’r GDP a mabwysiadu dull o gyfrifo costau go iawn, fel bod costau amgylcheddol yn cael eu cynnwys wrth wneud penderfyniadau a risg hinsawdd yn cael ei hintegreiddio i'r strategaeth fusnes.

Gan symud ymlaen, gwnaethom feddwl sut y gallem ni ddylanwadu ar y ffordd o weithredu yn ein swyddi ni, er mwyn cyflawni nodau ar lefel leol trwy weithio'n hyblyg, lleihau'r defnydd o ynni, prynu'n lleol a hyrwyddo ynni adnewyddadwy, twf gwyrdd a theithio llesol.

Cyn cloi buom yn trafod camau dichonadwy y gellid eu cymryd er mwyn cyflawni ein hamcanion newid hinsawdd, o ran sicrhau bod cyllid tymor hir ar gael er mwyn i ni allu buddsoddi mewn atal, yn hytrach na gwella; talu am wasanaethau ecosystem ac adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy.

Bydd yr holl faterion hyn a drafodwyd yn bwydo yn ôl i broses o ddatblygu Datganiad Ardal De Ddwyrain Cymru a bydd y tîm yn galw ar arbenigwyr technegol a swyddogion ar draws ein holl sefydliadau i helpu adnabod ymyriadau a gweithgaredd strategol a fydd yn ychwanegu gwerth at gyflawni ar lawr gwlad.

Bydd gweithgorau’n parhau i adeiladu ar yr hyn y maent wedi'i wneud hyd yn hyn o ran creu darlun o'r De Ddwyrain a sut beth fyddai llwyddiant. Bydd y gweithgorau’n dilyn fframwaith dadansoddi ymateb er mwyn defnyddio'r llun hwnnw i lywio gweithredoedd cydweithredol y cytunwyd arnynt o dan bob thema.

Gwnaeth y digwyddiad hwn ein hatgoffa o werth dod â gwahanol randdeiliaid ynghyd i drafod mater sydd o bwys i bob un ohonynt a gwerth buddsoddi amser i wrando ar wahanol safbwyntiau yn hytrach na rhagnodi atebion a gweithredoedd CNC.

Ar y cyfan, roedd yn weithdy diddorol a deuthum oddi yno’n rhannu brwdfrydedd y grŵp y gallai'r broses Datganiad Ardal wneud gwahaniaeth o ddifrif i sut mae pethau'n cael eu gwneud yng Ngwent a sicrhau dull mwy cynaliadwy ac amgylchedd naturiol mwy gwydn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

 

 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru