Dathlu diwrnod bydol bywyd gwyllt
Ar 3 Mawrth bob blwyddyn, mae Diwrnod Bywyd Gwyllt y Byd y Cenhedloedd Unedig yn tynnu sylw at amrywiaeth helaeth y bywyd sydd ar ein planed.
Ar Ddiwrnod Bywyd Gwyllt y Byd, mae Mike Howe, sy’n Arbenigwr ar Infertebratau, yn sôn am bwysigrwydd hanfodol ein creaduriaid lleiaf o ran cynnal bywyd yng Nghymru.
Ar 3 Mawrth bob blwyddyn, mae Diwrnod Bywyd Gwyllt y Byd y Cenhedloedd Unedig yn tynnu sylw at amrywiaeth helaeth y bywyd sydd ar ein planed. Yma yng Nghymru, rydyn ni’n ffodus o gael amrywiaeth o gynefinoedd a bywyd gwyllt ar garreg ein drws.
Mae Diwrnod Bywyd Gwyllt y Byd yn dathlu ein hamgylchedd naturiol a'r gwaith da sy'n cael ei wneud i'w feithrin, ac mae’n amser i ni dynnu sylw at bwysigrwydd bioamrywiaeth i'n cymunedau yng Nghymru. Mae hefyd yn gyfle i ni fyfyrio ar sut y gallwn ni ddatblygu anghenion ardaloedd lle mae angen cymorth brys hefyd.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymdrechu i sicrhau amgylchedd iachach a mwy cydnerth ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd Cymru. Mae ein lles ni, a lles cenedlaethau'r dyfodol, yn dibynnu ar hyn.
Er gwaethaf degawdau o waith da i warchod yr amgylchedd, rydyn ni’n gwybod bod llawer o'n planhigion a'n bywyd gwyllt yn dal i brinhau. Yn wir, mae ein Hadroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR) yn dangos ein bod yn awr mewn Argyfwng Natur. Mae rhai o'r canfyddiadau'n cynnwys y ffeithiau canlynol:
- Ers i waith monitro gwyddonol trwyadl ddechrau yn y 1970au, o 3,902 o rywogaethau a aseswyd yng Nghymru, mae 73 eisoes wedi'u colli.
- o 44 o famaliaid daear a aseswyd, mae 13 mewn perygl o ddifodiant.
- mae mwy o rywogaethau wedi dangos dirywiadau sylweddol neu gymedrol o ran dosbarthiad (dros 30% ers 1970) o gymharu â rhywogaethau gyda dosbarthiad cynyddol (23%).
- dirywiad o 10% yng nghyfartaledd dosbarthiad rhywogaethau ers 1970 a 6% yn is nag yn 2006;
- Ar gyfer rhywogaethau tir a dŵr croyw, mae 10% o'r planhigion, 8% o ffwng a chennau, 36% o fertebratau a 5% o infertebratau mewn perygl o ddifodiant.
- Rydyn ni’n parhau i ddefnyddio ein system trwyddedu rhywogaethau i ddiogelu mannau bridio a gorffwys rhywogaethau gwarchodedig.
Yn amlwg, mae natur yng Nghymru mewn sefyllfa fregus. Ond, fel Arbenigwr ar Infertebratau, rwy'n ymwybodol iawn o sut y gall y pethau lleiaf gael effaith fawr ar ein hamgylchedd. O ystyried hyn, mae ein tîm yn CNC yn gweithio ar lawer o brosiectau ar infertebratau ar raddfa fach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iawn i'n bioamrywiaeth.
Mae infertebratau yn chwarae rhan hanfodol bwysig fel pryfed peillio, ailgylchwyr, rheolwyr plâu ac elfennau o'r gadwyn fwyd. Maen nhw'n help mawr i gadw pethau i fynd. Anifeiliaid heb asgwrn cefn ydyn nhw, ac maen nhw’n cynnwys pryfed fel gloÿnnod byw, gwyfynod a chwilod, yn ogystal â phryfed cop. Maen nhw hefyd yn cynnwys cramenogion fel gwrachod lludw a chrancod, molysgiaid fel malwod a chregyn gleision, a mwydod ac anifeiliaid microsgopig. Er eu bod yn aml yn cael llai o sylw nag anifeiliaid mwy, mewn gwirionedd mae dros 25,000 o rywogaethau yng Nghymru.
Gwrthdroi dirywiad rhywogaethau
Fel rhan o'n gwaith yn CNC, rydyn ni’n monitro rhywogaethau di-asgwrn-cefn i wrthdroi eu dirywiad; dim ond mewn 1 ardal yn y DU y mae rhai ohonynt yn dal i fodoli, a hynny o dan ein gofal ni.
Yn ysbryd Diwrnod Bywyd Gwyllt y Byd, dyma rai enghreifftiau o'r cynnydd rydyn ni’n ei wneud i wella pethau ar gyfer infertebratau yng Nghymru:
- Mae banciau nythu artiffisial newydd wedi cael eu creu ym Mhorth Neigwl ar gyfer yr Osmia xanthomelana, neu’r Saerwenynen Fawr sydd mewn Perygl Difrifol, wedi'i chyfyngu yn y DU i Borth Neigwl a Phorth Ceiriad ar Benrhyn Llŷn.
- Wedi’i ailddarganfod ar Afon Dyfrdwy yn 2017, daethpwyd o hyd i’r pryf cerrig, Isogenus nubecula, mewn pum gorsaf yng ngwanwyn 2018. Dyma’r unig ardaloedd yng ngorllewin Ewrop lle mae cofnod ohono’n byw.
- Mae ardal allweddol o dryddiferiad calchaidd wedi dechrau adfer a sefydlogi niferoedd poblogaeth gysylltiedig mursennod glas Penfro yn ei ardal fwyaf gogleddol yn y DU yng Nghors Erddreiniog, sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Heb ein gwaith rheoli gofalus yn yr ardal, roedd difodiant lleol y boblogaeth yn anochel.
- Dangosodd ein gwaith monitro ar y pryf du, Simulium morsitans, yn afon Teifi yng Nghors Caron fod ganddo bresenoldeb o hyd yn ei unig ardal yn y DU.
- Mae ein prosiect parhaus i asesu ffawna saprosylig coedwigoedd Dyffryn Gwy isaf wedi dangos pwysigrwydd cenedlaethol y ffawna; nid oedd hyn wedi cael ei werthfawrogi o’r blaen.
- Amlygodd arolwg i ddarganfod effeithiolrwydd gwaith rheoli diweddar yn Chwarel Marford lwyddiant gwneud tywod yn agored a darparu safleoedd nythu addas. Cofnodwyd 35 o rywogaethau newydd o wenyn a gwenyn meirch a chyfanswm cronnol o 171 o rywogaethau – yr uchaf yng Nghymru.
Rwy'n falch o'r cynnydd rydyn ni’n ei wneud yn ein gwaith i gefnogi bywyd infertebratau ledled Cymru. Gan fod argyfwng natur yn digwydd, mae gennym lawer i'w wneud o hyd. Rydyn ni’n ymroddedig i ofalu am fioamrywiaeth yng Nghymru a gwyddom fod cymdeithas yn ffynnu pan mae natur ar ei gorau. Os edrychwn ni ar ôl natur nawr, bydd yr amgylchedd yn parhau i gynnal ein cymunedau a'n heconomi.
Darllenwch fwy am infertebratau a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.