Gwartheg, carbon a chadwraeth

Mae ein Hadroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR2020) yn garreg filltir arwyddocaol sydd â’r nod o lywio’r camau y bydd yn rhaid i ni gyd eu cymryd yn ein hymdrech i warchod ein hamgylchedd yma yng Nghymru. Mae’n nodi rhai o’r heriau, y blaenoriaethau a’r cyfleoedd allweddol ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, ac yn greiddiol iddo mae uchelgais i bontio’r bwlch rhwng lle rydym ar hyn o bryd a lle mae angen i ni fod.

Yn y cyntaf yn ein cyfres o flogiau i helpu i ddod â SoNaRR yn fyw, cawn glywed gan Geraint Davies, aelod o Fwrdd CNC sy’n ffermio fferm Fedw Arian ger y Bala.

Gwartheg, carbon a chadwraeth
“Mae adroddiad diweddar gan Hybu Cig Cymru, y ffordd Gymreig yn awgrymu y gallai ffermydd yr ucheldir chwarae rhan bwysig mewn system gynaliadwy o gynhyrchu bwyd nad yw’n achosi lefel uchel o allyriadau. Mae’n awgrymu y gallai defnyddio’r ucheldir i fagu da byw arwain at ddal a storio carbon yn y priddoedd, yn ogystal â gwella bioamrywiaeth a iechyd pridd.
“Ac mae hyn yn cyd-fynd â SoNaRR, lle mae CNC yn nodi sut y gallai Cymru sicrhau newid amgylcheddol drwy drawsnewid y systemau rydym i gyd yn eu defnyddio i gefnogi ein ffyrdd o fyw, gan gynnwys ailddylunio’r system fwyd. Nid yw hyn yn golygu newid y ffordd rydym yn ffermio yng Nghymru yn llwyr, yn hytrach mae’n golygu gwneud newidiadau fel y gallwn hyrwyddo arferion amaethu sy’n gweithio law yn llaw â byd natur.

“Ac yn y blog hwn roeddwn eisiau archwilio sut y mae ein ffordd o amaethu yma yn Fedw Arian yn ein caniatáu i fagu da byw a rheoli’r effeithiau amgylcheddol ar y tir ar yr un pryd.

Cyflwyno gwartheg
“Mae priddoedd yn sylfaen i bob fferm. Wrth reoli’r pridd yn dda, a chyflwyno pori cymysg, rydym wedi gweld bioamrywiaeth yn ffynnu hefyd.

“Rydym yn rhoi llai o ddefaid allan i bori ar y bryniau’n gynnar yn y flwyddyn. Mae’r ŵyn yn pori mewn cylchdro ar y tir mwyaf cynhyrchiol, ar laswellt modern sy’n tyfu’n gyflym, i annog y gylfinir i nythu. Mae crynodiad y stoc ar y lleiniau hyn yn golygu bod mwy o dail sy’n denu pryfaid sydd yn eu tro’n denu’r gwenoliaid a’r gwenoliaid du.
“Ac rydym wedi rhoi gwartheg yn lle rhai o’r defaid ar y bryniau. Mae hyn wedi helpu i adfer glaswelltir ac adfywio’r priddoedd, ac rwy’n edrych ymlaen bob amser i weld mwy o gwtiaid aur yn nythu ar y mynyddoedd oherwydd y newidiadau hyn.

Gwneud y pethau bychain
“Er bod newid systemau da byw yn rhywbeth sylweddol, nid oes raid i bopeth fod ar raddfa fawr. Rydym yn adfer ardal o ffridd sy’n golygu y bydd dŵr ffo’n llifo i lawr y bryn yn arafach yn y gaeaf.

“Rydym wedi creu 14 cilometr o wrychoedd yn ystod y 10 mlynedd diwethaf sy’n dda ar gyfer bywyd gwyllt a chynhyrchiant. Mae gwrychoedd gwell yn rhoi cysgod i’r da, gan eu cadw’n oer yn yr haf ac yn gynhesach yn y gaeaf, sy’n helpu cynhyrchiant ac mae gwrychoedd mwy trwchus yn darparu aeron a ffrwythau i’r adar, ac ysgall yn y corneli i adar fel y nico. Mae hyn wedi creu coridor o fywyd gwyllt i gysylltu ardaloedd o goetiroedd hynafol.

“Rydw i hefyd wedi creu chwe phwll dŵr mewn corneli diffrwyth sy’n rhoi dŵr i’r da yn yr haf – o’r blaen byddai’r dŵr wedi rhedeg allan. Rŵan mae glas y dorlan a bronwen y dŵr yn eu defnyddio hefyd.

Buddiannau i fyd natur.... ac i’r ffermwr
“Fel unrhyw ffermwr da byw, fy mhrif nod yw cynhyrchu bwyd o ansawdd uchel. Mae creu bwyd o safon yn golygu fy mod yn gallu gwerthu’r cig i farchnad o safon – i fwytai ac archfarchnadoedd, ac mae’n cael ei allforio i’r Dwyrain Canol a’r Dwyrain Pell hefyd.
Mewn sgwrs gyda Gareth Wyn Jones sy’n ffermio ar y Carneddau yng Ngogledd Cymru yn ddiweddar, fe fynegodd y gwir yn blaen:

"“Mae yna bris i’w dalu am fwyd rhad, un ai i’r amgylchedd, iechyd pobl neu i les anifeiliaid.
Mae angen i ni newid ein diwylliant bwyd, i werthfawrogi bwyd yn ei dymor, nid dim ond am ei bris ond am ei ansawdd. Byddai hynny’n ysgogi newid ac arwain at ffermwyr yn cael eu gwobrwyo gyda phris teg am eu cynnyrch a’u dulliau o reoli’r amgylchedd.”"

“Os oes un peth da wedi dod allan o’r pandemig hwn, yna’r cynnydd mewn pobl sy’n dymuno gwybod mwy am eu bwyd ac o ble mae wedi dod yw hwnnw. Mae angen i ni fel ffermwyr yn awr helpu cwsmeriaid i weld y buddiannau o gynhyrchu bwyd trwy arferion sy’n llesol i fyd natur, a bod yn barod i dalu mwy am gynnyrch iach sydd wedi ei gynhyrchu mewn ffordd sy’n cadw’r amgylchedd yn iach hefyd.”

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru