Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian

Mae ein canolfannau ymwelwyr a'r ardaloedd cyfagos yn fannau lle gall pobl ddod i grwydro, dysgu pethau newydd a threulio amser yng nghanol natur a'r awyr agored mewn man diogel. Gall ymwelwyr ddod i ddysgu am ystod eang o bynciau, o gadwraeth a bioamrywiaeth i chwedlau a hanes lleol ac archwilio amrywiaeth eang o setiau sgiliau megis cyfeiriannu, geogelcio ac adnabod rhywogaethau.

Defnyddir ein canolfannau gan ysgolion a grwpiau cymunedol, colegau a phrifysgolion fel adnodd cwricwlwm ac mae ein canolfannau yn lleoedd i fusnesau lleol ac yn wir gydweithwyr yn CNC, gyfarfod a chael mynediad at gyfleusterau cynadledda a darpariaethau lles.

Mae canolfannau ymwelwyr yn rhoi amrywiaeth eang o fanteision iechyd i'n hymwelwyr, gan ganiatáu i bobl ymarfer corff, mynd am dro ysgafn, neu dro mwy heriol neu gamp fwy arbenigol fel rhedeg mynydd neu feicio mynydd. Mae ein canolfannau hefyd o fudd mawr i iechyd meddwl pobl, gan ganiatáu iddynt ddianc o'r straen neu'r gwaith bob dydd ac ati a dadflino, boed hynny trwy wylio'r barcud coch yn cael ei fwydo, dod o hyd i fan tawel i wneud rhywfaint o gelf neu eistedd mewn heddwch yn gwylio bywyd gwyllt ar ein hafonydd.

Mae ein canolfannau’n lleoedd perffaith i gymdeithasu a chyfarfod unigolion o'r un anian, ac mae rhai ohonynt yn cynnig cyfleusterau caffi sy'n rhoi cyfle i ymwelwyr ailfywiogi a rhoi cynnig ar fwyd a diodydd a gynhyrchir yn lleol wrth ymdrochi yn niwylliant Cymru. Mae llawer o'n canolfannau'n cynnig mannau chwarae a gweithgareddau i blant o bob oed a gallu ac maent yn lleoedd gwych i dreulio diwrnod cyfan boed law neu hindda.

Mae Bwlch Nant yr Arian yn swatio yng ngwaelodion mynyddoedd y Cambria, 9 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth, ac mae'n cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau o feicio mynydd, cyfeiriannu, cerdded a rhedeg; mae ein llwybrau'n cynnig golygfeydd syfrdanol o goedwigoedd a choetir i gronfeydd dŵr a bryniau tonnog y dyffrynnoedd. Mae gennym lwybrau ceffylau, corlan, mannau chwarae a sesiynau dyddiol yn bwydo aderyn eiconig Cymru, y barcud coch.

Mae ein llwybr hygyrch ar lan y llyn yn rhoi golygfeydd gwych o'r barcud yn bwydo ac mae ganddo amrywiol weithgareddau ar hyd y ffordd i'r teulu i gyd eu mwynhau o'n dehongliad treftadaeth rhyngweithiol i'n llwybr Pos Anifeiliaid poblogaidd. Mae gennym ddwy guddfan gwylio adar, un yn rhoi golygfeydd anhygoel o agos o'r barcud coch adeg bwydo a'r llall yn edrych dros ein bwydwyr adar, sy'n denu amrywiaeth eang o rywogaethau coetir mewn lleoliad cwbl naturiol sy'n boblogaidd gyda ffotograffwyr sy'n ymweld â ni.

Yn ddiweddar, rydym wedi derbyn 'Gwobr Dewis Teithwyr' gan Tripadvisor, sy'n golygu bod miliynau o deithwyr Tripadvisor wedi ein rhoi yn y 10% uchaf o ran atyniadau yn y byd! Mae ein canolfan ymwelwyr yn deall dementia, gyda pharcio i'r anabl a thoiledau hygyrch. Mae staff wedi ymgymryd â hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddementia ac mae gennym lawer o brosiectau ar y gweill i'n galluogi i wella ein safle'n barhaus er mwyn diwallu amrywiaeth o anghenion ymwelwyr.

Delio â chyfnod clo Covid-19

Caeodd y ganolfan ymwelwyr, y maes parcio a'r llwybrau eu drysau i'r cyhoedd ym mis Mawrth o ganlyniad i bandemig Covid-19. Buom yn gweithio'n agos gyda'r heddlu lleol i sicrhau bod y cyfnod clo cychwynnol mor ddiogel â phosibl i'r gymuned leol drwy orfodi canllawiau'r llywodraeth ar ymbellhau cymdeithasol ac aros gartref.

Parhaodd y staff mewn cysylltiad rheolaidd ac ymunodd y rhai a oedd yn gallu â rota i gymryd eu tro i ymweld â'r safle, cynnal gwiriadau diogelwch a bwydo'r barcud coch bob dydd. Gwnaethom yn siŵr bod gan bob aelod o staff y PPE cywir ac y gallent ymweld yn ddiogel i gyflawni'r tasgau hyn ac roedd yn adfer ymdeimlad o bwrpas, yn enwedig i'r rhai nad oeddent wedi'u lleoli mewn swyddfa ac na allent barhau â'u dyletswyddau o gartref.

Yr ydym wedi bod yn lwcus iawn gan mai'r ymweliadau hynny â'r safle oedd rhai o'r profiadau mwyaf rhyfeddol hyd yma o ran dyddiau heulog, cannoedd o farcutiaid coch yn bwydo mewn lleoliad heddychlon a hardd a bywyd gwyllt yn anadlu ochenaid amlwg o ryddhad wrth i'r safle aros yn dawel a heb oruchwyliaeth am rai misoedd. Yr oedd yr ymweliadau hyn yn hwb enfawr i les staff ar adeg a oedd yn anodd i bob un ohonom.

Wrth i ganllawiau'r llywodraeth lacio ychydig ym mis Awst, ailagorwyd y maes parcio a'r llwybrau ac roedd y staff ar y safle ychydig yn amlach i sicrhau bod arwyddion cywir wedi’u gosod a bod y safle'n ddiogel i ymwelwyr. Yn fwy diweddar, rydym wedi llwyddo i agor ein cyfleuster caffi fel gwasanaeth tecawê a chaniatáu mynediad i rai o'n toiledau dan do, sydd wedi galluogi i’r holl staff fod yn ôl ar y safle i gyflawni eu rolau.

Ein prif flaenoriaeth yw cadw ein hymwelwyr yn ddiogel tra byddant ar y safle ac rydym wedi bod yn weithgar iawn ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i sicrhau ein bod yn cyfathrebu'n effeithiol â'n hymwelwyr, fel eu bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl pan fyddant yn ymweld.

Rydym yn adolygu ein strategaeth a'n hasesiadau risg yn gyson er mwyn caniatáu i fwy o staff ac ymwelwyr ddychwelyd i'r safle, gan y profwyd bod ymweld â'r awyr agored yn cael effaith gadarnhaol enfawr ar ein lles. Er mwyn paratoi i groesawu ymwelwyr yn ôl, dyfeisiwyd system unffordd o amgylch y safle, codwyd arwyddion i atgoffa ymwelwyr i gadw pellter cymdeithasol a darparwyd gorsafoedd glanhau dwylo o amgylch y maes parcio a'r ganolfan ei hun.

Mae gennym bwyntiau ‘tracio ac olrhain' o amgylch y safle i ymwelwyr eu defnyddio a gwnaethom gau pob ardal a allai annog grwpiau i ymgynnull, fel y cuddfannau, ein deciau ac adeilad y ganolfan ei hun. Mae'r barcutiaid yn parhau i gael eu bwydo ar wahanol adegau bob prynhawn er mwyn osgoi grwpiau mawr o wylwyr. Ers ailagor, rydym wedi cael ein canmol gan lawer o ymwelwyr ynghylch pa mor ddiogel mae’r system unffordd a'r arwyddion wedi gwneud iddynt deimlo.

Rydym yn croesawu ymwelwyr â'n canolfannau drwy gydol y flwyddyn a byddwn yn parhau i wneud hynny, cyn belled â bod canllawiau'r llywodraeth yn caniatáu hynny. Edrychwch i weld ble mae eich canolfan ymwelwyr leol ac ewch i ddarganfod rhai ymhellach i ffwrdd drwy fynd i dudalen Ein canolfannau ymwelwyr

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru