Cefnogi addewid coed Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth yw dwy o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu. Trwy greu coetir newydd a chynyddu’r canopi coed ledled Cymru, gallwn ni i gyd chwarae rhan hanfodol yn yr ymdrech i gyrraedd targed sero net Cymru a'r uchelgais i blannu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030.
Bydd Menter Coed a Choetir newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gwneud cyfraniad hanfodol yn ein hymateb i argyfwng yr hinsawdd.
Gyda chefnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, mae Addewid Coed a Choetiroedd Wrecsam wedi cael ei ddatblygu i helpu i ddiogelu coed a choetir ledled Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Gall busnesau, sefydliadau a grwpiau cymunedol gofrestru ar gyfer yr addewid, sydd â 10 ymrwymiad, a byddwch hefyd yn cael diweddariadau rheolaidd sy'n annog pobl i fynd allan a mwynhau coed a choetiroedd yn eu hardal leol.
Pam mae’r Addewid Coed a Choetiroedd mor bwysig?
Mae coed a choetiroedd yn cynnig amrywiaeth o fanteision i'n hardaloedd trefol.
Yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, collwyd 1,758 o goed mawr dros gyfnod o saith mlynedd, gan leihau'r buddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol niferus y mae canopi coed trefol a choed amwynder yn eu darparu.
Mae'n hysbys bod coed a choetiroedd yn hyrwyddo ymdeimlad o iechyd a lles yn y cymunedau lleol, gan arwain at ansawdd bywyd gwell i bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Gall coed mewn ardaloedd trefol hefyd gysylltu ardaloedd o fannau gwyrdd ar gyfer pobl a bywyd gwyllt, gan hefyd hidlo llwch yn yr awyr a lleddfu’r sŵn a ddaw o ardaloedd diwydiannol.
Ar ben hyn, gall gorchudd coed mewn ardaloedd trefol gynyddu gwerth eiddo, cynnig preifatrwydd mewn ffyrdd a gerddi preswyl a darparu cysgod i liniaru effaith yr ‘ynys wres drefol' (pan fydd ardal drefol yn mynd yn llawer cynhesach na'r ardaloedd cyfagos oherwydd gweithgarwch pobl).
Sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n cefnogi’r addewid?
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cefnogi'r fenter drwy chwarae rhan bwysig yng Ngrŵp Coedwigoedd Wrecsam, sef grŵp partneriaeth sy'n dod â sefydliadau sector cyhoeddus, elusennau amgylcheddol a chymunedau lleol ynghyd i gynorthwyo'r rhai sy'n plannu coed.
Mae Grŵp Coedwigoedd Wrecsam yn cefnogi amcanion Datganiad Ardal Gogledd-ddwyrain Cymru drwy gynyddu nifer y coed i liniaru effaith Newid yn yr Hinsawdd a chynyddu gorchudd coetir i sicrhau buddion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd.
Bydd gwaith y grŵp yn helpu i hyrwyddo gwydnwch ecosystemau drwy gynnal a gwella bioamrywiaeth, diogelu dŵr a phridd drwy reoli tir yn gynaliadwy a datblygu a gwella seilwaith gwyrdd trefol a gwledig.
Sut fydd Gogledd Ddwyrain Cymru’n elwa o hyn?
Drwy ymrwymo i’r addewid coed a choetiroedd, mae'n codi ymwybyddiaeth ac yn dod â sefydliadau a chymunedau ynghyd i ymrwymo i ddiogelu a gwella coetiroedd a choed yn y sir.
Gall cynyddu nifer y coed arwain at lu o fanteision ledled Wrecsam, drwy gefnogi bioamrywiaeth, dal carbon, ac o'u plannu yn y lle cywir, lleihau llifogydd drwy arafu llif y dŵr yn ystod glaw trwm.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae CNC yn cefnogi addewid Coed a Choetiroedd Wrecsam, cysylltwch â thîm Datganiad Ardal Gogledd-ddwyrain Cymru northeast.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.