Asesu a rheoli ein hadnoddau naturiol

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn datgan bod yn rhaid i CNC gynhyrchu Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR) bob pum mlynedd, cyn etholiadau Cynulliad Cymru, a chynhyrchu adroddiad "drafft" flwyddyn cyn pob prif adroddiad, i dynnu sylw at faterion sy'n dod i'r amlwg.

Er ein bod yn dal i gasglu tystiolaeth ar gyfer yr ail Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR), sydd i'w gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2020, mae adroddiad interim newydd gael ei gyhoeddi.

Dyma Sheryl Davies, Cynghorydd Arbenigol, Adrodd ar yr Amgylchedd, yn egluro beth yw diben SoNaRR a sut y bydd yn llywio Polisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru

"Mae'r Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol yn adroddiad am lesiant, sut mae natur a phobl yn integredig a chyfleoedd i wella ein hamgylchedd er lles natur a phobl. Nid yw'n adroddiad safonol ar gyflwr yr amgylchedd, ac nid yw ychwaith yn rhywle i dynnu sylw at bob darn o wybodaeth sydd gennym ar ein hadnoddau naturiol. Y nod yw creu darlun ehangach o'r hyn y mae popeth yn ei olygu mewn ffordd gydgysylltiedig. Asesiad ydyw o'r gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy (neu SMNR).

Mae SoNaRR yn edrych ar sefyllfa a thueddiadau presennol adnoddau naturiol Cymru (gan gynnwys gwytnwch ecosystemau a bioamrywiaeth) ac yn defnyddio'r wybodaeth hon i ganfod yr hyn y mae'n ei olygu ar gyfer llesiant pobl yng Nghymru.

Rydym yn ystyried lle y gellid dod o hyd i gyfleoedd, o ran lleoliad, polisi a rheoli, i wella pethau ac i "ddatblygu gwytnwch" yn ein hamgylchedd i'w helpu i weithio'n well.

Yn yr adroddiad interim, tynnwyd sylw at y ffaith bod angen inni wneud newidiadau trawsnewidiol i'n ffordd o fyw os ydym am sicrhau y bydd ein hamgylchedd naturiol yn gallu’n cynnal yn y dyfodol - fel creu economi gylchol a gwella ein seilwaith gwyrdd. 

Dydyn ni ddim am i bobl ddarllen SoNaRR fel un ddogfen hir. Rydym yn cydnabod bod mwy a mwy o bobl am gael gwybodaeth ar flaenau eu bysedd ac felly byddwn yn cyhoeddi’r adroddiad mewn ffordd sy'n hygyrch i bawb yng Nghymru ar ein gwefan.

Yr hyn sy’n bwysig yw meddwl yn integredig, edrych ar y darlun ehangach a gallu symud drwy wahanol adrannau a phatrymau meddwl fel y mynnwch. Bydd yr adroddiad ar-lein yn cynnwys dolenni i adrannau eraill, rhannau eraill o'n gwefan ac adroddiadau a safleoedd eraill sydd ar gael ar-lein.

Bydd ganddo le i roi adborth hefyd, felly gallwch ddweud wrthym beth rydym yn ei wneud yn dda, beth y gallwn ei wella a sut y gallwch ein helpu i wella'r adroddiad.

Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r adroddiad i wneud penderfyniadau hyddysg ynghylch beth yw'r blaenoriaethau ledled Cymru a lle mae angen gweithredu."

P'un a ydych chi’n rhan o CNC, Llywodraeth Cymru, busnesau, diwydiant, sefydliadau anllywodraethol neu'n aelod o'r cyhoedd – gall pawb wneud gwahaniaeth!

Er mai cyfrifoldeb CNC yw cynhyrchu'r adroddiad, gwaith PAWB yng Nghymru yw gweithio gyda'i gilydd a gwneud eu rhan i wella'r sefyllfa er lles ein hamgylchedd a phobl Cymru.

 Gall unigolion a sefydliadau gyfrannu i SoNaRR naill ai'n uniongyrchol (sonarr@naturalresourceswales.gov.uk) neu drwy Ddatganiadau Ardal lleol (cynnyrch arall sy'n ofynnol fel rhan o'r Ddeddf i roi polisi ar waith) sy'n rhan o'r broses o roi'r camau priodol ar waith yn yr ardaloedd cywir yng Nghymru.

 

 

 

 

 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru