Tymor gyda Gweilch Llyn Clywedog

Ym mis Mawrth 2020, aeth contractwyr a swyddogion CNC draw i nyth gweilch y pysgod ger glannau Cronfa Ddŵr Clywedog ger Llanidloes, i osod offer camera ffrydio byw.

Roedd y nyth – oedd yn uchel mewn coeden sbriwsen Sitca - yn wag fel roedden nhw’n ei ddisgwyl. Adar mudol yw gweilch y pysgod sy’n treulio’r gaeaf yn Affrica ac nid oedden nhw wedi dychwelyd eto. Cawson nhw ddigon o amser i osod yr offer yn ddiogel ar ben y goeden, yn wynebu'r nyth. Mae'r gweilch hyn yn treulio'r haf ger Llyn Clywedog ac yn dychwelyd i Affrica ddiwedd Awst.

Mae’r nyth wedi bod yn ddeorydd cynhyrchiol dros y blynyddoedd, gyda 15 o gywion wedi gadael y nyth a mudo ers ei adeiladu yn 2014. Roedd camera wedi'i osod yno yn y gorffennol ond ni fu erioed o'r blaen gyfle i wylio'r gweilch am 12 awr y dydd drwy gydol y dydd drwy ffrwd fyw.

Roedd yn benllanw misoedd o gynllunio a chaffael ond roedd popeth yn ei le o'r diwedd a dechreuodd y ffrwd fyw gyntaf ddarlledu ar YouTube ar 28 Mawrth.

Y cyfan roedd angen ei wneud nawr oedd aros i'r gweilch ddychwelyd.

 

Y gwalch cyntaf yn 'dychwelyd'

Lai nag wythnos ar ôl i'r ffrwd fynd yn fyw, gwelwyd gwalch ar y nyth ar 1 Ebrill. Roedd gwylwyr y ffrwd fyw yn chwilfrydig i ddarganfod ai'r gwryw preswyl neu'r fenyw breswyl ydoedd - ond nid yr un o’r rheini ydoedd.

Nid oedd yr un o'r adar preswyl wedi'u tagio - proses na ellir ond ei gwneud gyda gwalch ifanc. Fodd bynnag, roedd gan y gwalch ar y ffrwd fyw dag ar ei goes dde. Tag glas oedd yn dangos '5F'.

Roedd hyn yn syndod i swyddogion CNC a'r gymuned fach o selogion oedd yn dilyn y nyth. Ar ôl rhywfaint o ymchwil, fe ddysgon nhw fod 5F yn walch benywaidd a ddeorodd ar nyth yn Rutland yn Nwyrain Canolbarth Lloegr yn 2012. Fel adar tiriogaethol ffyrnig, roedd y gymuned yn disgwyl i'r fenyw breswyl gyrraedd yn hwyrach ac ymladd y fenyw newydd i adennill y nyth - ond ni ddychwelodd hi byth.

Dridiau yn ddiweddarach, cyrhaeddodd y gwryw preswyl yn ôl i’r nyth. Yn y dyddiau canlynol, ffurfion nhw berthynas a dal pysgod yn y gronfa ddŵr gyfagos a bwyta yn eu nyth oedd newydd ei hailadeiladu ar ôl cael ei difrodi gan dywydd gaeafol. Roedd gwylwyr y ffrwd fyw wedi’u hudo gan y berthynas oedd yn datblygu, ac yn gobeithio y bydden nhw’n gweld wy bach braith yn ymuno â'r cwpl yn y nyth yn fuan.

 

Dodwy wyau

Ar 19 Ebrill am tua 6pm, dim ond 18 diwrnod ar ôl i 5F gyrraedd y nyth, cafodd yr wy bach brith cyntaf ei ddodwy, a mynegodd y gwylwyr eu llawenydd yn y sgwrs ar y sgrin. Roedden nhw’n rhyfeddu at y rhieni a ddangosodd reddf dadol gref ill dau, gan ddiogelu ac eistedd ar yr wyau i'w cadw'n gynnes.

Dridiau’n ddiweddarach yn oriau mân y bore a chyn i'r ffrwd fyw ddechrau am 7am, gwnaeth 5F ddodwy wy arall. Ddeuddydd yn ddiweddarach ar 25 Ebrill am 8:50am gwnaeth hi ddodwy’r trydydd wy, yr wy olaf. Gan fod gweilch fel arfer yn dodwy tri wy, trodd sylw'r gwylwyr at aros i'r wy cyntaf ddeor.

 

Tri chyw bach

Cymerodd y rhieni disgwylgar eu tro i bysgota yn y gronfa ddŵr a dod â bwyd i'r llall oedd yn aros yn y nyth i ddiogelu eu hwyau.

Am 10:30am ar 26 Mai, gwyliodd y gweilch a'r gynulleidfa ar-lein yn eiddgar wrth i belen fach o fflwff â phig oedd yn ymwthio ddechrau dod allan o gragen yr wy oedd wedi cael ei ddodwy’n gyntaf.

Mewn dim o dro roedd y cyw bach yn cael llond pig o bysgod gan ei rieni, yn cryfhau ac yn tyfu'n gyflym.

Deorodd brawd neu chwaer arall ddeuddydd yn ddiweddarach yn oriau mân y bore, ac ymunodd y cyw o'r wy a gafodd ei ddodwy’n olaf â'r teulu yn oriau mân 30 Mai.

Roedd y nyth bellach yn gartref i deulu o bump ac addasodd y rhieni newydd yn gyflym i'r angen i ddal ychydig mwy o bysgod bob dydd i fwydo eu cywion bach, ond llwglyd.

 

Modrwyo’r cywion

Mae cywion o nythod gwarchodedig yn cael eu modrwyo pan fyddan nhw tua 30 diwrnod oed. Gwneir hyn er mwyn helpu ymdrechion cadwraeth a deall sut mae adar yn teithio, a ble maen nhw’n gorffwys.

Cafodd cywion Clywedog 2020 eu tagio ar 4 Gorffennaf a gwelwyd eu bod i gyd yn wrywaidd. Rhoddwyd tagiau glas iddyn nhw ar eu coes dde a’u labelu’n 550, 551 a 552. Roedd y peli bach blewog wedi tyfu'n gyflym i mewn i weilch ifanc hardd, yn pwyso 1.25kg, 1.35kg ac 1.45kg yn y drefn honno; arwydd o dri chyw iach. Cawson nhw eu tagio o chwith, gyda'r wy cyntaf i ddodwy’n cael ei dagio’n 552, a'r ieuengaf yn 550.

Roedd 2020 yn flwyddyn arbennig hefyd oherwydd mai dyma'r flwyddyn gyntaf i un o gywion Clywedog ddychwelyd i'r ardal. Daliodd camerâu byw Prosiect Gweilch Dyfi dresbaswr un diwrnod. Fe'i nodwyd fel KS8 - benyw a fagwyd ar nyth Clywedog yn 2018. Roedd hwn yn gam pwysig ymlaen i ddilynwyr nyth Llyn Clywedog gan nad oedd cyw wedi'i fodrwyo o'r nyth erioed wedi'i gofnodi cyn y cipolwg hwn.

 

I ffwrdd â nhw!

Byddai’r garreg filltir nesaf i'r cywion yn un frawychus – gadael y nyth. Yng nghanol Gorffennaf roedden nhw wedi bod yn dangos arwyddion o baratoi trwy ymarfer eu sgiliau hofrenydda.

Mae hon yn broses lle mae cyw yn fflapio ei adenydd yn y nyth ac yn hedfan am eiliad. Mae'r neidiadau prawf hyn yn ymarfer ac yn cryfhau cyhyrau’r adenydd yn barod i hedfan. Yn yr achos hwn, mae'r hediad cyntaf yn golygu plymio o nyth 75 troedfedd i fyny coeden, fflapio eu hadenydd a gobeithio bod yr ymarfer yn talu ffordd!

Yn ffodus i'n tri chyw ni - llwyddon nhw’n ysgubol. 551 - yr ail gyw - oedd y cyntaf i adael ar 17 Gorffennaf pan nad oedd ond yn 49 diwrnod oed. Mae'r hediad cyntaf yn tueddu i fod yn un byr i goeden gyfagos neu mewn cylch cyflym cyn dychwelyd i ddiogelwch y nyth. Roedd yr hediad llwyddiannus – a’r dychwelyd - yn achos dathlu enfawr i'r gwylwyr!

Y cyw hynaf - 552 - oedd y nesaf i adael yn 52 diwrnod oed ar 18 Gorffennaf a'r cyw olaf i ddeor oedd yr olaf i adael ar 20 Gorffennaf yn 51 diwrnod oed.
Yn fuan ar ôl hediad cyntaf brawychus, treuliodd y cywion nifer o'u dyddiau'n hedfan o gwmpas yr ardal - ac roedden nhw’n dal eu bwyd eu hunain yn gyflym, gan roi seibiant mawr ei angen i'w rhieni!

 

Pysgota

Dim ond pysgod mae gweilch yn eu bwyta. Mae'r boblogaeth iach o bysgod yn nyfroedd Llyn Clywedog a'r ehangder mawr o goed sydd o'i amgylch yn cynnig y cynefin perffaith ar gyfer gweilch.

Roedd y gweilch yn dal yr holl bysgod sy’n gyffredin yn Llyn Clywedog gan gynnwys draenogiaid dŵr croyw, brithyllod seithliw a brithyllod. Fodd bynnag, daeth gwryw aeddfed â hyrddyn yn ôl unwaith - pysgodyn môr na ellid ond bod wedi'i ddal yn Aber Dyfi neu'n agos ati, 13 milltir i ffwrdd. Roedd hyn yn ddiddorol iawn i'r gwylwyr ac roedd yn rhywbeth na fydden nhw byth wedi'i wybod heb gamera'r ffrwd fyw.

Mae'r aber yn gartref i Brosiect Gweilch Dyfi, a chredir i'r gwryw aeddfed ddal yr hyrddyn ar ôl hel gwryw o nyth Dyfi pan darfodd ar Lyn Clywedog.

Amser am haul y gaeaf

Ddiwedd mis Awst, ar ôl i'r cywion ddysgu sut i bysgota a dod yn hedfanwyr ifanc hyderus, y cam nesaf oedd ennill cryfder a hedfan ar eu pennau eu hunain.
Unwaith y byddan nhw’n hedfan i ffwrdd am y gaeaf, mae posibilrwydd na fyddan nhw byth yn dychwelyd i'r nyth ble y gwnaethon nhw ddeor, gan ddewis dechrau eu nythod eu hunain i fagu eu cywion eu hunain yn lle.

Mae'n anodd dweud i sicrwydd pryd fydd y gweilch yn gadael i fynd i’w cartref gaeafol yn Affrica. Yn nyth Clywedog, gwelwyd 551 ddiwethaf ar 23 Awst; gwelwyd ei fam ddiwethaf ar 28 Awst a gwelwyd 550, 552 a’r gwalch gwrywaidd ddiwethaf ar fore 29 Awst.

Mae hwn yn batrwm mudo nodweddiadol sy'n dangos bod yr adar wedi'u paratoi'n dda.

Roedd 2020 yn flwyddyn lwyddiannus i weilch Llyn Clywedog. Mewn dim ond 151 diwrnod cymerodd benyw aeddfed newydd berchnogaeth o’r nyth, ffurfiwyd pâr newydd, ailadeiladwyd nyth, a magwyd tri chyw ifanc yn llwyddiannus i allu hedfan a mudo.

Beth nesaf?

Does neb yn gwybod!

Y canlyniad mwyaf tebygol yw y ddau walch aeddfed yn dychwelyd ac yn trio magu tri chyw arall.

Fodd bynnag, mae natur anrhagweladwy trigolion y nyth hon yn golygu na allwn fod yn sicr o'r hyn a ddaw yn 2021. Ni ddychwelodd y fenyw breswyl flaenorol o gwbl yn 2020.

Mae'r offer camera bellach wedi'i dynnu ar gyfer y gaeaf. Bydd swyddogion CNC nawr yn mynd ati i drafod unrhyw welliannau y gellir eu rhoi ar waith cyn i ffrydio byw ddechrau o ddifrif unwaith eto yng ngwanwyn 2021 yn y gobaith y bydd y nyth yn darparu haf arall o adloniant i selogion gweilch y pysgod ledled y byd.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru