Prosiect cadwraeth i adfer wystrys brodorol
Mae CNC wedi datblygu prosiect cadwraeth i adfer wystrys brodorol yn aber Aberdaugleddau. Dyma Ben Wray, Arweinydd y Prosiect i ddweud wrthym am y stori hyd yn hyn.
“Ein prosiect adfer wystrys brodorol yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru. Os yw'n llwyddiant, gellid ei ddefnyddio fel cynllun ar gyfer prosiectau mwy a mwy uchelgeisiol ledled Cymru.
"Ar un adeg roedd wystrys brodorol yn doreithiog ledled Cymru. Mae'r niferoedd wedi gostwng i lefelau isel iawn ar ôl blynyddoedd o or-ecsbloetio hanesyddol, newidiadau yn ansawdd dŵr, ac afiechyd. Erbyn hyn does dim digon yn y gwyllt i gael epil newydd a rhoi hwb naturiol i'r boblogaeth. Nid yw'n debygol y bydd y rhywogaeth yn gwella heb rywfaint o help.
“Fe ddechreuon ni’r prosiect y llynedd i weld a yw’r amodau yn aber Aberdaugleddau yn galluogu wystrus i oroesi, tyfu ac atgynhyrchu mewn lleoliadau a oedd unwaith yn gartref i wystrys yn fwy helaeth.
“Mae Cam 2 y prosiect bellach wedi'i gwblhau. Roedd hyn yn cynnwys gosod “cwlt”, neu ddeunydd cregyn glân, sy'n rhoi gwell cyfle i'r wystrys oroesi, ac yn annog wystrys ifanc i ymgartrefu.
“Fe wnaethon ni weithio gyda thîm o wyddonwyr morol ac arbenigwyr dyframaethu, gan gynnwys busnes ffermio wystrys lleol (ABPmer, Aquafish Solutions, Arolwg a Monitro Dyfrol ac Wystrys Atlantic Edge). Hyd yn hyn, rydym wedi rhoi tua 25,000 o wystrys ifanc yn yr aber. Byddwn yn monitro sut maen nhw'n symud ymlaen.
“Rydyn ni’n hyderus y bydd y prosiect yn llwyddiant. Mae'r wystrys brodorol yn rhywogaeth bwysig iawn oherwydd ei heffaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. Mae wystrys yn helpu i wneud ein hecosystemau morol yn wydn, felly bydd adfer y rhywogaeth hon a'r cynefin o'i chwmpas yn dda i bobl ac i'r amgylchedd ehangach.
“Mae wystrys brodorol yn hidlo ac yn glanhau dŵr ac yn darparu cynefinoedd sydd eu hangen ar gyfer pysgod, cramenogion a rhywogaethau eraill. Maent yn cloi carbon trwy'r gronynnau wedi'u hidlo yn ogystal â thynnu maetholion o'r dŵr, felly maent yn chwarae rhan hanfodol tuag at gydbwyso effeithiau newid yn yr hinsawdd.
“Mae camau nesaf y prosiect yn cynnwys monitro’r wystrys i weld sut maen nhw'n dod ymlaen. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, byddwn yn gwirio sut maent yn goroesi, yn tyfu, ac a oes tystiolaeth o atgenhedlu a chymunedau wystrys newydd. Byddwn yn dadansoddi'r canlyniadau terfynol erbyn Mawrth 2023. Os bydd yn llwyddiannus, bydd CNC yn ceisio gweithio gyda sefydliadau eraill i ddod ag wystrys brodorol yn ôl ledled Cymru ”.
Ariennir y prosiect wystrys brodorol gan WEFO a Llywodraeth Cymru.