25 mlynedd ers trychineb y Sea Empress

Dyma oedd un o drychinebau amgylcheddol gwaethaf Cymru. Ar 15 Chwefror 1996 tarodd y Sea Empress greigiau oddi ar Benrhyn St Anne's wrth iddo fynd i Aber Aberdaugleddau gan gael ei dyllu o dan y llinell ddŵr. Dros y dyddiau nesaf, llesteriodd y tywydd garw yr ymdrechion i ddod â'r llong i mewn i’r porthladd.

Rhyddhawyd dros 72,000 tunnell o olew i'r môr. Effeithiwyd ar 120 milltir o’r arfordir a gwelwyd ganlyniadau enfawr ar fywyd gwyllt morol, gan gynnwys miloedd o adar môr. Effeithiwyd ar lawer o fannau twristaidd eiconig Sir Benfro fel Dinbych-y-pysgod ac Ynys Sgomer, yn ogystal â'r diwydiant pysgota lleol.

Yn y dyddiau a'r wythnosau a ddilynodd, gweithiodd staff o lu o asiantaethau yn ogystal â gwirfoddolwyr, yn ddiflino i achub adar olewedig a thynnu olew o draethau.

Nawr, 25 mlynedd yn ddiweddarch, mae Andrea Winterton, ein Rheolwr Gwasanaethau Morol yn edrych yn ôl ar y gollyngiad olew y Sea Empress a effeithiodd ar un o'n harfordiroedd harddaf.

"Bum mlynedd ar hugain yn ôl, roeddwn i'n gweithio fel Swyddog Cadwraeth Cynorthwyol yn Sir Benfro yn ymweld â fferm i drafod cynllun adnewyddu gwrychoedd pan ges i wybod am y digwyddiad, ac fel pawb arall yn y tîm, es i i fod yn rhan o dîm y digwyddiad – roedd angen pawb i helpu.

"Roedd hi’n ddyddiau cynnar ar gyfer cydweithio rhwng sefydliadau ymateb, ond roeddem eisoes yn dysgu o ddigwyddiadau blaenorol. Treuliais fy amser yn yr ystafell gyfarfod yn swyddfeydd Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau a gymerwyd drosodd fel canolfan ymateb ar y cyd. Gweithiais ar y ddesg "amgylchedd", ynghyd â chydweithwyr o asiantaethau eraill.

"Roedden nhw'n ddyddiau hir, dwys, wedi'u gwneud hyd yn oed yn fwy anodd gan y ffaith mai dim ond un ffôn, ro ni’n ei ateb, oedd ar gael am yr oriau cyntaf, ac un peiriant ffacs!

"Ar ein desg roeddem yn gyfrifol am gynghori ar y sensitifrwydd a'r effeithiau amgylcheddol. Cafodd adar môr eu taro'n galed yn ystod wythnosau cynnar. Casglwyd mwy na 2,000 o adar môr marw neu olewedig yn Sir Benfro. Ond roedd yr olew wedi lledaenu yn llawer pellach – ac i Fae Caerfyrddin lle gwyddom fod o leiaf 3,500 o sgwteri cyffredin wedi marw."Roedd rhannau enfawr o’r draethlin yn olewog, gan effeithio ar nifer fawr o draethau, glannau creigiog, morfeydd a fflatiau llaid. Yn ogystal ag adar môr, roedd bywyd gwyllt morol arall ar y lan - gwymon, anifeiliaid mewn pyllau a chocos a chregyn gleision wedi’u gorchuddio gyda olew.

Sut mae natur yn addasu ac adfer

”Comisiynodd un o’n cyrff rhagflaenol – y Cyngor Cefn Gwlad – adroddiad arbennig i ymchwilio i effeithiau hirdymor yr olew a ollyngwyd ddegawd ar ôl y digwyddiad. Canfu fod natur wedi gwella'n rhyfeddol. Cafodd y gostyngiad uniongyrchol yn nifer yr adar môr ei wrthdroi ac roedd y tuedd hirdymor ym mhoblogaethau adar môr ar ei fyny.

"Yn yr un modd, ni chafwyd unrhyw effeithiau hirdymor hysbys ar famaliaid môr fel dolffiniaid a morloi, a dychwelodd y mwyafrif helaeth o lannau a gwelyau môr bas yr effeithiwyd arnynt i'r arfer o fewn dwy i bum mlynedd.

"Mae'r adferiad hwn yn dangos sut y gall natur addasu ac adfer, hyd yn oed o ddamweiniau mawr, os oes ganddo'r amser a'r lle i wneud hynny. Ond ni allwn orffwys ar ein rhwyfau.

"Roedd graddfa ac effaith amgylcheddol y drychineb yn amlwg iawn, fel yn wir roedd y rhai economaidd gyda thwristiaeth a physgota yn cael ergyd. Roedd yr olew yn hawdd i'w weld, ac oherwydd bod yr effaith mor amlwg, roedd ysgogiad yna ar gyfer y gwaith glanhau ac adfer.

"Ond un o'r peryglon gwirioneddol i'r amgylchedd morol yw ei fod "allan o'r golwg, allan o feddwl" a gall pobl yn aml gymryd yr adnodd anhygoel hwn yn ganiataol. Efallai na fydd llawer o effeithiau ein gweithgareddau mor amlwg â'r olew ond gallant fod yr un mor heriol neu'n wir yn fwy heriol i ddelio â nhw.

“Mae iechyd ein hamgylchedd morol yn allweddol i'n helpu i ddelio â'r argyfyngau hinsawdd a natur rydym yn eu hwynebu. Fel hyrwyddwr yr amgylchedd naturiol yng Nghymru, rydym ni â'n partneriaid allweddol, yn gweithio'n galed i gynyddu gwydnwch ein cynefinoedd morol i heriau'r dyfodol, ac wrth gwrs, i newid yn yr hinsawdd.

“Mae'r cyfyngiadau symud presennol a'r cyfyngiadau ar ein gweithgarwch hefyd wedi dangos pa mor bwysig yw'r amgylchedd naturiol i iechyd a lles a gall chwarae rhan allweddol yn ein hadferiad.

Dysgu o’r gorffennol

"Er bod pum mlynedd ar hugain wedi mynd heibio – mae'n teimlo fel ddoe!

 “Dysgodd yr holl sefydliadau dan sylw lawer yn ystod y digwyddiad hwnnw. Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'n gilydd i wella ein hymateb i ddigwyddiadau fel hyn ac rydym yn cydlynu ymarferion yn rheolaidd, fel y gallwn fod mor barod â phosibl pe bai unrhyw beth tebyg yn digwydd eto.

“Dim ond drwy ddysgu o'r gorffennol y gallwn wneud y cyfraniad gorau posibl at ddelio ag unrhyw ddamwain amgylcheddol yn y dyfodol a chael y canlyniad gorau posibl i'r amgylchedd, i bobl ac i'r economi."

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru